- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
Am 9.50 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
3 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2)(a) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2.—(1) Mae adran 11A (dyletswydd cyrff a phersonau penodol i roi sylw i’r dibenion y dynodwyd Parciau Cenedlaethol ar eu cyfer) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (4), yn y diffiniad o “public body”, ar ôl “local authority,” mewnosoder “corporate joint committee,”.
(3) Ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(7) In this section, “corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 9.50 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 11A o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (p. 97) (“Deddf 1949”). Mae adran 11A(2) yn darparu, wrth arfer neu gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas â thir, neu sy’n effeithio ar dir, mewn unrhyw Barc Cenedlaethol, bod rhaid i “relevant authority” roi sylw i’r dibenion a bennir yn adran 5(1) o Ddeddf 1949.
Cadw a gwella’r harddwch naturiol, y bywyd gwyllt a’r dreftadaeth ddiwylliannol a hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig Parciau Cenedlaethol yw’r dibenion yn adran 5(1).
Mae’r awdurdodau sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd hon wedi eu diffinio yn adran 11A(3) ac maent yn cynnwys “any public body”, y mae ei ddiffiniad yn cynnwys unrhyw “local authority, joint board or joint committee” (adran 11A(4)).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 11A(4) fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“Deddf 2021”), wedi eu cynnwys yn y diffiniad o “public body”. Drwy hyn, mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 11A(2).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1949 p. 97. Mewnosodwyd adran 11A gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), adran 62(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16), Atodlen 12, paragraff 1 a Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), Atodlen 24, paragraff 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: