Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

10.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1—

(a)yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig yr AEE” rhodder “, person hunangyflogedig yr AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon a drinnir fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig yr AEE yn rhinwedd paragraff 6A(3)”;

(ii)ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38”(1) mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

(iii)ym mharagraff (ch), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

(iv)ym mharagraff (d), yn lle “paragraff 9” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E”;

(b)hepgorer y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”;

(c)yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”;

(d)hepgorer y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”;

(e)hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”;

(f)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;;

mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;;

mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;;

mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;;

ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

(a)

person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

(i)

a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio(2);

(ii)

sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn rhinwedd adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971(3), gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(iii)

sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben; neu

(iv)

sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu

(b)

aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;;

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

(a)

paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig);

(b)

paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);

(c)

paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);

(ch)

paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);

(d)

paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth);

(dd)

paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu

(e)

paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partner di-briod neu bartner o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);;

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” (“person granted leave to enter or remain as a protected person”) yw person a chanddo—

(a)

caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

(b)

caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;

(c)

caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016(4) ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; neu

(ch)

caniatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);;

ystyr “plentyn a ddiogelir” (“protected child”) yw—

(a)

plentyn i berson a chanddo—

(i)

caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

(ii)

caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; neu

(iii)

caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo;

(b)

plentyn i briod neu bartner sifil person a chanddo—

(i)

caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

(ii)

caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;;

ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” (“protected spouse or civil partner”) yw priod neu bartner sifil i berson a chanddo—

(a)

caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

(b)

caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;;

ystyr “y Rheoliad Gweithwyr” (“the Workers Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb(5);;

ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020(6);.

(1)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77.

(2)

Diffiniwyd yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).

(3)

1971 p. 77, mewnosodwyd adran 3ZA gan Ddeddf Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) 2020 (p. 20).

(5)

OJ L 141, 27.05.2011, t. 1, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2016/589 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Ebrill 2016 (OJ L 107, 22.4.2016, t. 1) a Rheoliad (EU) 2019/1149 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 (OJ L 186, 11.7.2019, t. 21).

(6)

O.S. 2020/1209, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1309.