- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1—
(a)yn y diffiniad o “aelod o’r teulu”—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig yr AEE” rhodder “, person hunangyflogedig yr AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon a drinnir fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig yr AEE yn rhinwedd paragraff 6A(3)”;
(ii)ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38”(1) mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;
(iii)ym mharagraff (ch), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;
(iv)ym mharagraff (d), yn lle “paragraff 9” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9C, 9D a 9E”;
(b)hepgorer y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”;
(c)yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”;
(d)hepgorer y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”;
(e)hepgorer y diffiniad o “hawl i breswylio’n barhaol”;
(f)yn y lle priodol mewnosoder—
“mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;”;
“mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;”;
“mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;”;
“mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;”;
“ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—
person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—
a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio(2);
sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn rhinwedd adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971(3), gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;
sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben; neu
sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu
aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;”;
“ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—
paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig);
paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);
paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);
paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);
paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth);
paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu
paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau mewnfudo wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partner di-briod neu bartner o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);”;
“ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” (“person granted leave to enter or remain as a protected person”) yw person a chanddo—
caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;
caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;
caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016(4) ac yn unol â’r rheolau mewnfudo; neu
caniatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);”;
“ystyr “plentyn a ddiogelir” (“protected child”) yw—
plentyn i berson a chanddo—
caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;
caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; neu
caniatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo;
plentyn i briod neu bartner sifil person a chanddo—
caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu
caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;”;
“ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” (“protected spouse or civil partner”) yw priod neu bartner sifil i berson a chanddo—
caniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu
caniatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo;”;
“ystyr “y Rheoliad Gweithwyr” (“the Workers Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb(5);”;
“ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020(6);”.
OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77.
Diffiniwyd yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).
1971 p. 77, mewnosodwyd adran 3ZA gan Ddeddf Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) 2020 (p. 20).
OJ L 141, 27.05.2011, t. 1, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2016/589 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Ebrill 2016 (OJ L 107, 22.4.2016, t. 1) a Rheoliad (EU) 2019/1149 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 (OJ L 186, 11.7.2019, t. 21).
O.S. 2020/1209, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1309.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: