Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/11/2022.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
am 10.30 a.m. ar 30 Tachwedd 2022
Yn dod i rym
am 11.00 p.m. ar 30 Tachwedd 2022.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 255 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1) a pharagraff 33 o Atodlen 12 iddi.
Yn unol ag adran 256(3) a (4)(n) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 11.00 p.m. ar 30 Tachwedd 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.11.2022 am 11.00 p.m., gweler rhl. 1(2)
2. Mae Atodlen 12(3) i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.11.2022 am 11.00 p.m., gweler rhl. 1(2)
3. Ym mharagraff 13B(4), ar ôl “gontract safonol cyfnodol” mewnosoder “y mae’r landlord oddi tano yn landlord preifat ac”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.11.2022 am 11.00 p.m., gweler rhl. 1(2)
4. Ym mharagraff 15, ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Mae adrannau 104 ac 123 (amrywio’r rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)(a) ym mhob un o’r adrannau hyn—
“(a)ni chaiff yr hysbysiad cyntaf a roddir ar ôl y diwrnod penodedig bennu dyddiad sy’n gynharach na 51 o wythnosau ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf, a”.”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 30.11.2022 am 11.00 p.m., gweler rhl. 1(2)
5. Ym mharagraff 25A(2)(5), yn lle paragraff (a), rhodder—
“(a)y cyfeiriad yn adran 174(1) (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir) at “chwe mis”, mewn perthynas â hysbysiad a roddir o dan adran 173 yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, yn gyfeiriad at “dau fis”, a”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 30.11.2022 am 11.00 p.m., gweler rhl. 1(2)
6. Yn rheoliad 10 (pennu’r rhent) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022(6), yn lle paragraff (6), rhodder—
“(6) Mae paragraffau 15(1) a 15(1A) o Atodlen 12 i Ddeddf 2016 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau rhent sy’n digwydd ar ôl y diwrnod penodedig yn rhinwedd yr arbedion a wneir gan y rheoliad hwn, fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig.”
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 30.11.2022 am 11.00 p.m., gweler rhl. 1(2)
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”) yn newid y dirwedd rentu yng Nghymru drwy, ymhlith pethau eraill, gyflwyno’r cysyniad o “contractau meddiannaeth” “safonol” a “diogel”.
Mae Atodlen 12 i Ddeddf 2016 (“Atodlen 12”) yn nodi’r ddarpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau a fodolai cyn i Ddeddf 2016 ddod i rym ac sy’n trosi yn gontractau meddiannaeth ar y “diwrnod penodedig” (y diwrnod y caiff Deddf 2016 ei dwyn i rym yn llawn). Cyfeirir at y rheini fel “contractau wedi eu trosi”. Nod Atodlen 12 yw sicrhau y bydd Deddf 2016 yn gweithio mewn perthynas â chontractau o’r fath. Diwygiwyd Atodlen 12 gan Reoliadau Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795 (Cy. 173)). Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 12 ymhellach ac yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022 (O.S. 2022/1172 (Cy. 242)).
Mae paragraff 13B o Atodlen 12 yn darparu nad yw adran 123 o Ddeddf 2016 yn gymwys i gontractau wedi eu trosi sy’n bodloni’r meini prawf a bennir yn y paragraff hwnnw. Mae rheoliad 3 yn diwygio paragraff 13B o Atodlen 12 i’w gwneud yn glir bod rhaid i’r landlord o dan unrhyw gontract wedi ei drosi o’r fath fod yn landlord preifat.
Mae adrannau 104(3) a 123(3) o Ddeddf 2016 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r cyfnodau byrraf a ganiateir sy’n ofynnol rhwng amrywiadau i rent. Mae rheoliad 4 yn mewnosod is-baragraff (1A) newydd ym mharagraff 15 o Atodlen 12 sy’n addasu effaith adrannau 104(3)(a) a 123(3)(a), mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi y mae’r landlord oddi tanynt yn landlord cymunedol (gweler adran 9 o Ddeddf 2016), fel na chaiff yr amrywiad cyntaf i’r rhent ar ôl y diwrnod penodedig gael effaith yn gynharach na 51 o wythnosau ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf.
Mae adran 173 o Ddeddf 2016 yn galluogi landlord o dan gontract safonol cyfnodol i ddwyn y contract hwnnw i ben drwy roi hysbysiad ac mae adran 174(1) yn pennu’r cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir y mae rhaid ei roi. Mae rheoliad 5 yn rhoi paragraff (a) newydd yn lle’r un presennol ym mharagraff 25A(2) o Atodlen 12, sy’n darparu mai dau fis yw’r cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir (o dan adran 174(1)) mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad adran 173 a roddir yn ystod y chwe mis ar ôl y diwrnod penodedig, mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol a oedd yn denantiaeth fyrddaliol sicr yn union cyn y diwrnod penodedig. Chwe mis ar ôl y diwrnod penodedig, y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir (o dan adran 174 o Ddeddf 2016) mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi o’r fath fydd chwe mis.
Mae rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022 i gynnwys darpariaeth arbed mewn perthynas â pharagraff 15(1A) o Atodlen 12 (fe y’i mewnosodir gan reoliad 3).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2016 dccc 1. Diwygiwyd adran 255(2) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 ac 8 o Atodlen 5 iddi.
Mae’r cyfeiriad yn adran 256(3) a (5) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Diwygiwyd Atodlen 12 gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 a 27 o Atodlen 6 iddi a chan O.S. 2022/795 (Cy. 173).
Mewnosodwyd paragraff 13B gan reoliadau 2 ac 11 o O.S. 2022/795 (Cy. 173).
Mewnosodwyd paragraff 25A gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 27 o Atodlen 6 iddi ac fe’i diwygiwyd gan reoliadau 2 a 15 o O.S. 2022/795 (Cy. 173).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: