- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
4.—(1) Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) (cyflwyno hysbysiad gan awdurdodau lleol) ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff awdurdod bilio gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae paragraff 5(1D) o Atodlen 9 i’r Ddeddf yn gymwys iddo—
(a)drwy ei ddanfon â llaw i’r person;
(b)drwy ei adael ym mhriod gyfeiriad y person;
(c)drwy ei anfon i briod gyfeiriad y person drwy’r post;
(d)drwy ei anfon at y person drwy gyfathrebiad electronig.
(2) At ddibenion paragraff (1), priod gyfeiriad person yw—
(a)yn achos corff corfforedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
(b)yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;
(c)yn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.
(3) Mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddanfon â llaw o dan baragraff (1)(a)—
(a)yn achos corff corfforedig, os yw’n cael ei ddanfon â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff;
(b)yn achos partneriaeth, os yw’n cael ei ddanfon â llaw i bartner neu berson sydd â rheolaeth dros fusnes y bartneriaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.
(4) Pan fo unrhyw hysbysiad i’w gyflwyno i berson a bennir ym mharagraff 5(1D)(a) neu (b) o Atodlen 9 i’r Ddeddf, caniateir cyfeirio’r hysbysiad hwnnw at “perchennog” neu “meddiannydd” yr hereditament, heb enw na disgrifiad pellach.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: