- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
8 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
10 Mawrth 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 203(5) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1), paragraff 4(7) o Atodlen 4 iddi, a pharagraff 5(7) o Atodlen 7 iddi.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf(2) i rym.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adolygiad” (“review”) yw adolygiad o dan adran 203 o’r Ddeddf, paragraff 4 o Atodlen 4 iddi, neu baragraff 5 o Atodlen 7 iddi;
mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan adran 246(3) o’r Ddeddf;
mae i “deiliad contract” (“contract-holder”) yr ystyr a roddir gan adran 7(5) o’r Ddeddf (gweler hefyd adran 48);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad llafar;
mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 244(2) o’r Ddeddf (gweler hefyd adran 53).
3.—(1) Rhaid i adolygiad gael ei gynnal gan berson nad oedd yn ymwneud â’r penderfyniad sy’n cael ei adolygu.
(2) Pan fo’r adolygiad yn adolygiad o benderfyniad a wnaed gan un o swyddogion y landlord ac y bo i’w gynnal gan swyddog arall o’r fath, rhaid i’r swyddog sy’n adolygu’r penderfyniad fod â safle o fewn sefydliad y landlord sy’n uwch na safle’r swyddog a wnaeth y penderfyniad.
4.—(1) Pan fo deiliad y contract yn gofyn am hynny, rhaid i adolygiad gael ei gynnal drwy wrandawiad.
(2) Rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud i’r landlord cyn diwedd y cyfnod a ddisgrifir yn adran 202(3) o’r Ddeddf, paragraff 4(2) o Atodlen 4 iddi, neu baragraff 5(2) o Atodlen 7 iddi, yn ôl y digwydd.
5.—(1) Pa un a yw’r adolygiad i’w gynnal drwy wrandawiad ai peidio, caiff deiliad y contract gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r landlord mewn cysylltiad â’r adolygiad.
(2) Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract yn ysgrifenedig o’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i unrhyw sylwadau o’r fath ddod i law’r landlord.
(3) Rhaid i’r dyddiad hwnnw fod o leiaf bum niwrnod ar ôl i’r hysbysiad o dan baragraff (2) ddod i law deiliad y contract.
(4) Rhaid i’r landlord ystyried unrhyw sylwadau o’r fath sy’n dod i law erbyn y dyddiad hwnnw.
6. Pan fo deiliad y contract yn cydsynio yn ysgrifenedig, caniateir cynnal y gwrandawiad drwy gyswllt fideo, ar y ffôn neu drwy ddull arall o gyfathrebu electronig dwyffordd disymwth.
7.—(1) Pan fo deiliad y contract yn gofyn am wrandawiad, rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract o leiaf ddeng niwrnod o rybudd, ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig—
(a)o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad, neu
(b)os yw’r gwrandawiad i’w gynnal yn unol â rheoliad 6, o ddyddiad ac amser y gwrandawiad, a chyfarwyddiadau ar sut i’w gyrchu.
(2) Os nad yw hysbysiad o’r fath wedi ei roi i ddeiliad y contract, ni chaniateir bwrw ymlaen â’r gwrandawiad ond â chydsyniad deiliad y contract neu ei gynrychiolydd.
(3) Rhaid i ddyddiad, amser a, phan fo’n berthnasol, leoliad y gwrandawiad fod yn rhesymol gyfleus i ddeiliad y contract.
(4) Wrth benderfynu ar leoliad rhesymol gyfleus ar gyfer y gwrandawiad pan fydd deiliad contract yn bresennol yn gorfforol yn y gwrandawiad hwnnw, rhaid ystyried y pellter rhwng lleoliad y gwrandawiad a’r annedd y mae’r adolygiad yn ymwneud â hi.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn, mae’r weithdrefn mewn gwrandawiad adolygu i’w phennu gan y person sy’n cynnal yr adolygiad.
(2) Mae gan ddeiliad y contract yr hawl—
(a)i gael ei glywed,
(b)i fod gyda pherson arall,
(c)i gael ei gynrychioli gan berson arall (“cynrychiolydd”), pa un a yw’r person hwnnw wedi ei gymhwyso’n broffesiynol ai peidio,
(d)i alw personau i roi tystiolaeth,
(e)i ofyn cwestiynau i unrhyw berson sy’n rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad, ac
(f)i gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig.
(3) At ddibenion y trafodion, mae cynrychiolydd i ddeiliad y contract i gael yr un hawliau a phwerau â deiliad y contract o dan y Rheoliadau hyn.
9. Pan fo’r landlord wedi rhoi hysbysiad o wrandawiad yn unol â rheoliad 7 ac na fo deiliad y contract nac unrhyw gynrychiolydd i ddeiliad y contract yn bresennol ar y dyddiad a’r amser a, phan fo’n berthnasol, yn y lleoliad yr hysbyswyd amdanynt, caiff y person sy’n cynnal yr adolygiad—
(a)bwrw ymlaen â’r gwrandawiad, neu
(b)gwneud unrhyw gyfarwyddydau ynghylch cynnal yr adolygiad y mae’r person hwnnw yn ystyried eu bod yn briodol, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys unrhyw esboniad a gynigiwyd am yr absenoldeb.
10.—(1) Pan—
(a)bo’r landlord wedi rhoi hysbysiad o wrandawiad yn unol â rheoliad 7, a
(b)bo deiliad y contract yn gofyn am ohiriad, cyn i’r gwrandawiad gychwyn,
caiff y landlord ganiatáu neu wrthod y cais yn ôl yr hyn y gwêl y landlord ei fod yn addas.
(2) Os caiff y gwrandawiad ei ohirio, rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract rybudd rhesymol—
(a)o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad a ailgynullir, neu
(b)os yw’r gwrandawiad a ailgynullir i’w gynnal yn unol â rheoliad 6, o ddyddiad ac amser y gwrandawiad a ailgynullir, a chyfarwyddiadau ar sut i’w gyrchu.
(3) Rhaid i ddyddiad, amser a, phan fo’n berthnasol, leoliad y gwrandawiad a ailgynullir fod yn rhesymol gyfleus i ddeiliad y contract.
(4) Wrth benderfynu ar leoliad rhesymol gyfleus ar gyfer y gwrandawiad a ailgynullir pan fydd deiliad contract yn bresennol yn gorfforol yn y gwrandawiad hwnnw, rhaid ystyried y pellter rhwng lleoliad y gwrandawiad a ailgynullir a’r annedd y mae’r adolygiad yn ymwneud â hi.
11.—(1) Unwaith y bydd gwrandawiad wedi ei gychwyn, caiff y person sy’n cynnal yr adolygiad ei ohirio ar unrhyw adeg, naill ai ar ysgogiad y person hwnnw ei hun neu ar gais deiliad y contract, cynrychiolydd deiliad y contract neu’r landlord.
(2) Rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract rybudd rhesymol—
(a)o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig, neu
(b)os yw’r gwrandawiad gohiriedig i’w gynnal yn unol â rheoliad 6, o ddyddiad ac amser y gwrandawiad gohiriedig, a chyfarwyddiadau ar sut i’w gyrchu.
(3) Rhaid i ddyddiad, amser a, phan fo’n berthnasol, leoliad y gwrandawiad gohiriedig fod yn rhesymol gyfleus i ddeiliad y contract.
(4) Wrth benderfynu ar leoliad rhesymol gyfleus ar gyfer y gwrandawiad gohiriedig pan fydd deiliad contract yn bresennol yn gorfforol yn y gwrandawiad hwnnw, rhaid ystyried y pellter rhwng lleoliad y gwrandawiad gohiriedig a’r annedd y mae’r adolygiad yn ymwneud â hi.
(5) Os nad y person sy’n cynnal yr adolygiad yn y gwrandawiad gohiriedig yw’r un person ag a oedd yn cynnal yr adolygiad yn y gwrandawiad cynharach, rhaid i’r adolygiad fynd rhagddo drwy gynnal ail wrandawiad llwyr o’r achos oni bai bod deiliad y contract neu gynrychiolydd deiliad y contract yn cytuno fel arall.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gweithdrefnau i’w dilyn gan landlordiaid mewn cysylltiad ag adolygiad y mae deiliad contract wedi gofyn amdano o benderfyniad—
(a)i derfynu contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, o dan adran 202 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”),
(b)i ymestyn cyfnod rhagarweiniol contract safonol rhagarweiniol o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i’r Ddeddf, ac
(c)i ymestyn cyfnod prawf contract safonol ymddygiad gwaharddedig o dan baragraff 4 o Atodlen 7 i’r Ddeddf.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid i adolygiad gael ei gynnal gan berson nad oedd yn ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n cynnal yr adolygiad fod â safle uwch yn sefydliad y landlord na’r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol, os yw’r person sy’n cynnal yr adolygiad a’r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol ill dau’n swyddogion i’r landlord.
Mae rheoliad 4 yn galluogi deiliad contract i ofyn am wrandawiad ac yn nodi sut y mae’r hawl hon i’w harfer.
Mae rheoliad 5 yn nodi hawl deiliad contract i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.
Mae rheoliad 6 yn galluogi cynnal y gwrandawiad yn rhithwir pan fo deiliad y contract yn cydsynio.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i landlord roi i ddeiliad y contract hysbysiad o’r gwrandawiad ac i ystyried, pan fo’n berthnasol, a yw lleoliad y gwrandawiad yn rhesymol gyfleus i ddeiliad y contract.
Mae rheoliadau 8 i 11 yn darparu manylion y gweithdrefnau i’w dilyn mewn perthynas â gwrandawiad. Mae rheoliad 8 yn nodi’r weithdrefn i’w dilyn mewn gwrandawiad, gan gynnwys hawliau deiliad contract. Mae rheoliad 9 yn manylu ar y weithdrefn pan na fo deiliad contract neu gynrychiolydd yn bresennol mewn gwrandawiad. Mae rheoliadau 10 ac 11 yn manylu ar y gweithdrefnau o ran gohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn ac ar ôl ei gychwyn, yn y drefn honno.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
2016 dccc 1. Gweler adran 252 am y diffiniad o “rhagnodedig”.
Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Diwygiwyd adran 246 gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 a 5 o Atodlen 5 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: