Search Legislation

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 485 (Cy. 121)

Tai, Cymru

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

27 Ebrill 2022

Yn dod i rym

28 Ebrill 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 160A(3) a (5) a 172(4)(1) o Ddeddf Tai 1996(2) ac adran 142(2)(a) a (b) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(3) a pharagraff 1(2) a (4) o Atodlen 2 iddi.

Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(4).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 28 Ebrill 2022.

Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

2.  Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau i reoliad 3

3.  Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—

(a)hepgorer yr “a” yn union ar ôl paragraff (j);

(b)ar ddiwedd paragraff (k), yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)ar ôl paragraff (k) mewnosoder—

(1) Dosbarth L – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo(6).

Diwygiadau i reoliad 4

4.  Yn rheoliad 4(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai)—

(a)hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (h);

(b)ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.” rhodder “; a”;

(c)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(j)person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.

Diwygiadau i reoliad 5

5.  Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

(a)hepgorer yr “ac” yn union ar ôl is-baragraff (k);

(b)ar ddiwedd is-baragraff (l), yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—

(m)Dosbarth M – person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn rhinwedd Atodiad Cynllun Wcráin y Rheolau Mewnfudo.

Diwygiadau i reoliad 6

6.  Yn rheoliad 6(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai)—

(a)hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (h);

(b)ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle “.” rhodder “; a”;

(c)ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

(j)person a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

27 Ebrill 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai gan awdurdod lleol oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. O dan adran 160A(5) caiff Gweinidogion Cymru ragnodi dosbarthau o bersonau o dramor sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai.

O dan baragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael cymorth tai o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol). O dan baragraff 1(4) caiff Gweinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol) ragnodi dosbarthau o bersonau o dramor sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael cymorth tai.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai. Mae Rheoliadau 2014 hefyd yn gwneud darpariaeth o ran personau o dramor nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth tai.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth L”) sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.

Mae Dosbarth L yn gymwys i bersonau penodol yr effeithir arnynt gan y rhyfel yn Wcráin yn dilyn yr ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022 ac y rhoddwyd caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol ag Atodiad Cynllun Wcráin yn y Rheolau Mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77).

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4(2) o Reoliadau 2014 i ddarparu bod personau penodol o dramor nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond y byddent yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon yn gymwys i gael dyraniad o lety tai. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r rheini a oedd yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac a adawodd Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan Ddeddf 2014. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth M”) sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath. Mae’r dosbarth hwn yn cyfateb i Ddosbarth L a fewnosodir gan reoliad 3.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6(2) o Reoliadau 2014 fel bod personau penodol o dramor nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, ond y byddent yn anghymwys i gael cymorth tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon yn gymwys. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r un personau ag ar gyfer rheoliad 4.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 160A(3) a (5) a 172(4) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a’r cofnod mewn perthynas â’r Ddeddf honno yn Atodlen 1, fel y’i darllenir yn unol ag adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002 (p. 7). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

1996 p. 52. Mewnosodwyd adran 160A gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd 2002; diwygiwyd is-adrannau (3) a (5) gan adran 146(2)(d) ac (e) yn y drefn honno o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).

(3)

2014 dccc 7. Gweler adran 99 am y diffiniad o “rhagnodedig”.

(4)

Mae’r cyfeiriad yn adran 142(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(6)

Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395), fel y’i diwygiwyd. Cyflwynwyd Atodiad Cynllun Wcráin gan y datganiad o newidiadau i’r Rheolau Mewnfudo: HC 1220, a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 29 Mawrth 2022.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources