Search Legislation

Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 655 (Cy. 145)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022

Gwnaed

15 Mehefin 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

17 Mehefin 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) i (8)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 408(1)(1) a 569(4) a (5)(2) o Ddeddf Addysg 1996(3), a pharagraff 3 o Atodlen 1(4) iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 408(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried ei bod yn ddymunol ymgynghori â hwy.

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022—

(a)ar gyfer disgyblion mewn dosbarth meithrin(5) mewn ysgol a gynhelir(6);

(b)ar gyfer disgyblion yn eu blwyddyn derbyn(7) mewn ysgol a gynhelir;

(c)ar gyfer disgyblion(8) ym mlynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5 a 6(9) mewn ysgol a gynhelir(10);

(d)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021(11);

(e)ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5 a 6 mewn uned cyfeirio disgyblion(12);

(f)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion pan fo gan yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb gwricwlwm ar gyfer yr uned honno sy’n bodloni gofynion adran 50 o Ddeddf 2021.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2023—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgol a gynhelir;

(b)ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn uned cyfeirio disgyblion.

(4Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn uned cyfeirio disgyblion.

(5Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn uned cyfeirio disgyblion.

(6Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2026—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir;

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn uned cyfeirio disgyblion.

(7Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2027 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 12 mewn ysgol a gynhelir.

(8Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2028 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 13 mewn ysgol a gynhelir.

(9Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 12” (“year 12”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 17 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 13” (“year 13”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 18 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 4 oed ynddo;

mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

ystyr “cofnod presenoldeb” (“attendance record”) yw cofnod o bresenoldeb disgybl yn yr ysgol yn ôl y gofrestr bresenoldeb a gedwir yn unol ag adran 434 o Ddeddf 1996(13) a Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(14);

mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo—

(a)

yn adran 56(5)(a) o Ddeddf 2021 mewn perthynas ag ysgol a gynhelir; a

(b)

yn adran 56(5)(c) o Ddeddf 2021 mewn perthynas ag UCD;

mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015(15);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(16);

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996(17);

mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434(5) o Ddeddf 1996;

ystyr “disgybl sy’n oedolyn” (“adult pupil”) yw disgybl sy’n 18 oed neu’n hŷn ar yr adeg y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 4 neu reoliad 5 yn cael ei rhoi ar gael ac nad yw’n bwriadu ymadael â’r ysgol erbyn diwedd y flwyddyn ysgol;

mae i “diwrnod ysgol” yr ystyr a roddir i “school day” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996(18);

mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;

ystyr “swyddog lles addysg” (“education welfare officer”) yw unrhyw berson a gyflogir gan awdurdod lleol, ac y mae ei ddyletswyddau’n cynnwys sicrhau bod disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn bresennol yn rheolaidd yn yr ysgol;

ystyr “tymor ysgol” (“school term”) yw’r dyddiadau y mae tymhorau a gwyliau ysgol i ddechrau a gorffen arnynt;

mae i “uned cyfeirio disgyblion (UCD)” (“pupil referral unit (PRU)”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;

ystyr “uned neu gredyd” (“unit or credit”), mewn perthynas â chymhwyster, yw modiwl neu ran o gwrs sy’n arwain at y cymhwyster hwnnw y gellir, pan fo wedi ei gwblhau neu wedi ei chwblhau yn llwyddiannus, ei gyfrif neu ei chyfrif ynghyd â modiwlau neu rannau eraill tuag at ennill y cymhwyster hwnnw;

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—

(a)

ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol,

(b)

ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig (ac eithrio un a sefydlwyd mewn ysbyty),

(c)

ysgol feithrin a gynhelir, a

(d)

uned cyfeirio disgyblion.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad mewn perthynas ag UCD—

(a)at bennaeth yn gyfeiriad at athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD, neu

(b)at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at bwyllgor rheoli (os oes un) ac at athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD os nad oes pwyllgor rheoli.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 yn dod i rym yn unol rhl. 1(2)-(8)

Datgymhwyso a dirymu Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011LL+C

3.—(1Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(19) (“Rheoliadau 2011”) wedi eu datgymhwyso fel a ganlyn.

(2Nid yw Rheoliadau 2011 yn gymwys—

(a)o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i blant a disgyblion—

(i)yn y flwyddyn meithrin,

(ii)yn y flwyddyn derbyn,

(iii)ym mlwyddyn 1, blwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6, a

(iv)ym mlwyddyn 7 pan ddarperir cwricwlwm perthnasol iddynt yn unol â Deddf 2021,

(b)o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 a blwyddyn 8,

(c)o’r flwyddyn ysgol 2024 i 2025 i ddisgyblion ym mlwyddyn 9,

(d)o’r flwyddyn ysgol 2025 i 2026 i ddisgyblion ym mlwyddyn 10,

(e)o’r flwyddyn ysgol 2026 i 2027 i ddisgyblion ym mlwyddyn 11,

(f)o’r flwyddyn ysgol 2027 i 2028 i ddisgyblion ym mlwyddyn 12, ac

(g)o’r flwyddyn ysgol 2028 i 2029 i ddisgyblion ym mlwyddyn 13.

(3Caiff y Rheoliadau yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn eu dirymu o 1 Medi 2028.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth: Cynnydd o dymor i dymorLL+C

4.—(1Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir wneud trefniadau ar gyfer darparu’r wybodaeth yn Rhan 1 o Atodlen 2 (“yr wybodaeth o dymor i dymor”).

(2Rhaid i’r wybodaeth o dymor i dymor gael ei darparu cyn diwedd pob tymor ysgol.

(3Rhaid i’r wybodaeth o dymor i dymor gael ei rhoi ar gael—

(a)i bob disgybl sy’n oedolyn,

(b)i riant pob disgybl sy’n oedolyn (os yw’r pennaeth yn ystyried bod amgylchiadau arbennig sy’n gwneud hynny’n briodol), neu

(c)i riant pob disgybl yn achos pob disgybl cofrestredig arall yn yr ysgol.

(4Caniateir i’r wybodaeth o dymor i dymor gael ei darparu ar unrhyw ffurf y mae’r pennaeth yn ystyried yn rhesymol ei bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth: Cynnydd blynyddolLL+C

5.—(1Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir wneud trefniadau ar gyfer darparu (“yr wybodaeth flynyddol”)—

(a)mewn perthynas â disgyblion hyd at a chan gynnwys blwyddyn 9, yr wybodaeth yn Rhan 2 o Atodlen 2,

(b)mewn perthynas â disgyblion hyd at a chan gynnwys blwyddyn 9 ac sydd wedi eu cofrestru ar gyfer cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd, yr wybodaeth yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2, ac

(c)mewn perthynas â disgyblion ym mlynyddoedd 10 ac 11, yr wybodaeth yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2.

(2Caniateir i’r wybodaeth flynyddol gael ei darparu ar unrhyw ffurf y mae’r pennaeth yn ystyried yn rhesymol ei bod yn briodol.

(3Rhaid i’r wybodaeth flynyddol gael ei rhoi ar gael cyn diwedd pob blwyddyn ysgol.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n atal cynnwys yr wybodaeth flynyddol mewn mwy nag un ddogfen ar yr amod bod y pennaeth, yn ddarostyngedig i reoliad 6(2), yn darparu’r wybodaeth honno cyn diwedd y flwyddyn ysgol.

(5Rhaid i’r wybodaeth flynyddol gael ei rhoi ar gael—

(a)i bob disgybl sy’n oedolyn,

(b)i riant pob disgybl sy’n oedolyn (os yw’r pennaeth yn ystyried bod amgylchiadau arbennig sy’n gwneud hynny’n briodol), neu

(c)i riant pob disgybl yn achos pob disgybl cofrestredig arall yn yr ysgol.

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddisgybl y mae adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol i’w ddarparu iddo yn unol â rheoliad 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Cyfnod adrodd: Cynnydd blynyddolLL+C

6.—(1Mae’r cyfnod y mae’r wybodaeth flynyddol a bennir yn rheoliad 5 yn ymwneud ag ef yn dechrau gyda’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)dyddiad derbyn y disgybl i’r ysgol, neu

(b)diwedd y cyfnod y gwnaed yr adroddiad diwethaf ar faterion o’r fath ynddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011.

(2Pan na fo unrhyw un neu ragor o’r manylion sy’n angenrheidiol i ddarparu’r wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2 wedi dod i law’r pennaeth tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid i’r pennaeth roi’r wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo’n ymarferol a beth bynnag heb fod yn hwyrach na 30 Medi wedi hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w rhoi ar gael: Cynnydd blynyddolLL+C

7.—(1Os yw unrhyw berson a nodir yn rheoliad 5(5) yn ystyried nad yw’r wybodaeth flynyddol a ddarperir yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 5, caiff y person hwnnw ofyn i’r pennaeth ddarparu’r wybodaeth sydd ar goll.

(2Rhaid i unrhyw gais yn unol â pharagraff (1)—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig, a

(b)nodi’r wybodaeth y gofynnir amdani.

(3Rhaid i’r pennaeth gydymffurfio â chais o’r fath o fewn 15 niwrnod ysgol i’w gael.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw’r wybodaeth y cyfeirir ati yn y cais wedi cael ei rhoi ar gael yn flaenorol i’r disgybl sy’n oedolyn neu i riant y disgybl o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth: Adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgolLL+C

8.—(1Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir sicrhau bod adroddiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 4 o Atodlen 2 yn cael ei roi ar gael i unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod o’r oedran ysgol gorfodol ac sy’n bwriadu ymadael â’r ysgol neu sydd wedi ymadael â’r ysgol.

(2Rhaid i’r adroddiad fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo fod ar ffurf electronig.

(3O ran yr adroddiad—

(a)rhaid i’r rhan o’r adroddiad y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 16, 17 a 19 o Atodlen 2 yn cael ei rhoi ar gael ynddi ddarparu ar gyfer llofnod gan y disgybl (“y rhan gyntaf”);

(b)rhaid i’r rhan o’r adroddiad sy’n cynnwys y rhan gyntaf a’r rhan o’r adroddiad y mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 16 a 18 o Atodlen 2 yn cael ei rhoi ar gael ynddi ddarparu ar gyfer llofnod gan athro sy’n gyfarwydd â’r disgybl a chyflawniadau’r disgybl hwnnw.

(4Caniateir i unrhyw lofnod a ddarperir yn unol â pharagraff (3) gael ei ddarparu’n electronig.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Cyfnod adrodd: Adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgolLL+C

9.  Rhaid i’r adroddiad yn rheoliad 8 gael ei roi ar gael i’r disgybl heb fod yn hwyrach na 30 Medi ar ôl diwedd y flwyddyn ysgol yr ymadawodd y disgybl â’r ysgol ynddi neu ar ei diwedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Cyfyngiadau ar ddarparu gwybodaethLL+C

10.—(1Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw wybodaeth gael ei rhoi ar gael—

(a)sy’n deillio o unrhyw berson, neu sy’n cael ei darparu gan unrhyw berson neu ar ei ran, ac eithrio’r canlynol—

(i)un o gyflogeion yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,

(ii)yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, athro neu athrawes neu gyflogai arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau),

(iii)swyddog lles addysg,

(iv)y person sy’n gofyn am y datgeliad, neu

(b)i’r graddau y byddai’n datgelu, neu y byddai’n galluogi rhywun i gasglu, pwy yw person fel ffynhonnell yr wybodaeth neu fel person y mae’r wybodaeth honno yn ymwneud ag ef—

(i)ac eithrio’r disgybl y mae’r wybodaeth honno yn ymwneud ag ef, neu

(ii)person a grybwyllir ym mharagraff (1)(a).

(2Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw wybodaeth gael ei rhoi ar gael—

(a)i’r graddau y byddai ei datgelu yn debygol, ym marn y pennaeth, o achosi niwed difrifol i iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu gyflwr emosiynol y disgybl y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef neu unrhyw berson arall, neu

(b)i’r graddau y mae, ym marn y pennaeth, yn berthnasol i’r cwestiwn a yw’r disgybl y mae’n ymwneud ag ef yn destun, neu wedi bod yn destun, cam-drin plant neu y gallai wynebu risg o gamdriniaeth o’r fath.

(3Yn y rheoliad hwn, mae “cam-drin plant” yn cynnwys anafu plentyn yn gorfforol (ac eithrio yn ddamweiniol), ac esgeuluso plentyn yn gorfforol neu’n emosiynol, ei drin yn wael neu ei gam-drin yn rhywiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Cyfieithu gwybodaeth a dogfennauLL+C

11.—(1Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol a gynhelir y dylai unrhyw ddogfen neu unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi ei darparu yn y Gymraeg gael ei chyfieithu i’r Saesneg, rhaid ei chyfieithu felly ac mae’r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth a gyfieithir felly fel y maent yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth wreiddiol.

(2Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol a gynhelir y dylai unrhyw ddogfen neu unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi ei darparu yn Saesneg gael ei chyfieithu i’r Gymraeg, rhaid ei chyfieithu felly ac mae’r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth a gyfieithir felly fel y maent yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth wreiddiol.

(3Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol a gynhelir y dylai unrhyw ddogfen neu unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn gael ei chyfieithu i iaith ac eithrio’r Gymraeg neu’r Saesneg, neu y dylai fersiwn Braille neu fersiwn tâp sain o’r ddogfen neu’r wybodaeth honno fod ar gael, rhaid ei chyfieithu felly neu ei chynhyrchu ar ffurf Braille neu dâp sain, yn ôl y digwydd, ac mae’r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i’r ddogfen a gyfieithir, yr wybodaeth a gyfieithir, y fersiwn Braille neu’r fersiwn sain fel y maent yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth wreiddiol.

(4Ni chaniateir codi tâl am gopi o unrhyw wybodaeth a gyfieithir neu a gynhyrchir yn unol â pharagraffau (1), (2) neu (3), ond pan fo tâl yn cael ei godi am gopi o ddogfen wreiddiol, ni chaniateir codi tâl uwch am gopi o’r ddogfen a gyfieithir neu a gynhyrchir felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011LL+C

12.  Yn rheoliad 3 o Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011(20), yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyflawniadau academaidd disgybl, sgiliau a galluoedd eraill y disgybl a’i gynnydd yn yr ysgol, fel y manylir arno—

(a)mewn perthynas â’r disgyblion hynny y darperir addysg iddynt o dan yr hen gwricwlwm, yn yr Atodlen i Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011, neu

(b)mewn perthynas â’r disgyblion hynny y darperir addysg iddynt o dan y cwricwlwm newydd, yn Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.

(2A) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddisgyblion y darperir addysg iddynt “o dan yr hen gwricwlwm” yn gyfeiriadau at y plant hynny a’r disgyblion hynny y mae Rhan 2, 3, neu 5 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gymwys iddynt, ond nad yw’r Rhan berthnasol o’r Ddeddf honno wedi dod i rym eto mewn perthynas â hwy.

(2B) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddisgyblion y darperir addysg iddynt “o dan y cwricwlwm newydd” yn gyfeiriadau at y plant hynny a’r disgyblion hynny y mae Rhan 2, 3 neu 5 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gymwys iddynt, ac y mae’r Rhan berthnasol o’r Ddeddf honno wedi dod i rym mewn perthynas â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 yn dod i rym yn unol ârhl. 1(2)-(8)

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

15 Mehefin 2022

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 1LL+CY Rheoliadau sydd wedi eu dirymu

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

Y Rheoliadau sydd wedi eu dirymuY CyfeirnodauGraddau’r dirymu
Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011O.S. 2011/1943 (Cy. 210)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy’n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013O.S. 2013/437 (Cy. 53)Rheoliad 3
Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014O.S. 2014/1998 (Cy. 199)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016O.S. 2016/236 (Cy. 88)Rheoliad 12
Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016O.S. 2016/837 (Cy. 211)Rheoliad 4
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018O.S. 2018/766 (Cy. 153)Rheoliad 4
Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020O.S. 2020/729 (Cy. 164)Rheoliad 3
Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021O.S. 2021/612 (Cy. 163)Rheoliad 3
Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022O.S. 2022/517 (Cy. 124)Rheoliad 9

Rheoliad 4

ATODLEN 2LL+CYr wybodaeth sydd i’w darparu

RHAN 1LL+CYr wybodaeth sydd i’w darparu mewn diweddariadau o dymor i dymor

1.  Sylwadau cryno am les y disgybl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 1 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

2.  Sylwadau cryno am gynnydd a dysgu allweddol y disgybl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 2 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

3.  Crynodeb byr o anghenion cynnydd allweddol y disgybl a’r camau nesaf i gefnogi cynnydd y disgybl hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 3 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

4.  Cyngor cryno ar sut y gall y rhieni gefnogi cynnydd eu plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 4 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

RHAN 2LL+CYr wybodaeth sydd i’w darparu mewn diweddariadau blynyddol

5.  Sylwadau cryno am y cynnydd mewn dysgu ar draws y cwricwlwm perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 5 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

6.  Sylwadau cryno am ganlyniadau’r asesiadau a gynhelir o dan [F1Reoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024].LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 6 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

7.  Crynodeb byr o anghenion cynnydd y disgybl a’r camau nesaf i gefnogi cynnydd y disgybl hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 2 para. 7 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

8.  Cyngor cryno ar sut y gall rhieni gefnogi cynnydd eu plentyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 8 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

9.  Sylwadau cryno am les y disgybl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 para. 9 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

10.  Crynodeb byr o’r cymwysterau a enillwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 10 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

11.  Crynodeb o gofnod presenoldeb y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef sy’n dangos nifer yr absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(21)) a nifer y presenoldebau posibl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 para. 11 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

12.  Manylion y trefniadau y caniateir i riant y disgybl, neu yn achos disgybl sy’n oedolyn, y disgybl, drafod yr wybodaeth a ddarperir ag athrawon y disgybl oddi tanynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 12 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

RHAN 3LL+CCymwysterau perthnasol a gymeradwywyd

13.  Enw unrhyw bwnc y cofrestrwyd y disgybl ar ei gyfer mewn cysylltiad â chymhwyster perthnasol a gymeradwywyd a’r radd (os oes un) a gafwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 2 para. 13 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

14.  Manylion unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath a gafodd y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef na chyfeirir ato neu ati yn rhywle arall yn yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 14 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

15.  Manylion cryno am gyflawniadau’r disgybl mewn unrhyw faes dysgu, gan gynnwys Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, nas crybwyllir yn rhywle arall yn yr Atodlen hon sy’n rhan o’r cwricwlwm ysgol ac am sgiliau a galluoedd y disgybl ac ynghylch cynnydd cyffredinol y disgybl yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 2 para. 15 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

RHAN 4LL+CAdroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol

16.  Enw’r disgybl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 16 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

17.  Ysgol y disgybl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 2 para. 17 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

18.  Manylion unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd ac unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath a ddyfarnwyd i’r disgybl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 18 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

19.  Manylion cryno am gynnydd y disgybl a’i gyflawniadau mewn pynciau (ac eithrio’r rheini y mae’r disgybl wedi cyflawni unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath ynddynt).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 2 para. 19 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

20.  Manylion cryno am gynnydd y disgybl mewn unrhyw weithgareddau sy’n rhan o’r cwricwlwm ysgol, yn y flwyddyn ysgol yr ymadawodd y disgybl â’r ysgol ynddi neu ar ei diwedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 2 para. 20 yn dod i rym yn unol â rhl. 1(2)-(8)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer plant a disgyblion yng Nghymru (“y Cwricwlwm newydd i Gymru”).

Mae rheoliad 1 yn darparu ar gyfer cychwyn y Rheoliadau hyn fesul grwpiau blwyddyn. Bydd hyn yn adlewyrchu’r dull arfaethedig o gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o amser fesul grŵp blwyddyn.

Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru a’r Rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno i blant a disgyblion fesul cam. Daw’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—

(a)ar 1 Medi 2022 ar gyfer—

(i)plant mewn ysgol feithrin a gynhelir,

(ii)disgyblion mewn blwyddyn derbyn, ac

(iii)disgyblion ym mlynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5 a 6,

(b)ar 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion hynny a’r lleoliadau eraill hynny pan fo cwricwlwm wedi ei ddarparu yn unol â Deddf 2021,

(c)ar 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8,

(d)ar 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,

(e)ar 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(f)ar 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant a disgyblion y darperir addysg iddynt—

(a)mewn ysgolion a gynhelir,

(b)mewn ysgolion meithrin a gynhelir, ac

(c)mewn unedau cyfeirio disgyblion (“UCDau“).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i UCDau yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996. Mae rheoliad 2(2) yn darparu, mewn perthynas ag UCD, fod cyfeiriad at bennaeth yn gyfeiriad at athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD a bod cyfeiriad at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at bwyllgor rheoli (os oes un) ac at athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD os nad oes un.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn darparu ar gyfer datgymhwyso a dirymu Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) fesul cam. Mae datgymhwyso a dirymu Rheoliadau 2011 yn adlewyrchu’r dull arfaethedig o gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru a’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth am gynnydd y disgybl o dymor i dymor i rieni disgyblion cofrestredig ac i ddisgyblion sy’n oedolion. Mae’r wybodaeth y mae rhaid ei darparu wedi ei nodi yn Rhan 1 o Atodlen 2.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ddarparu gwybodaeth am gynnydd blynyddol disgyblion cofrestredig i rieni disgyblion cofrestredig ac i ddisgyblion sy’n oedolion (“gwybodaeth flynyddol”). Mae’r wybodaeth y mae rhaid ei darparu wedi ei nodi yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2. Mae rheoliad 6 yn nodi’r cyfnod adrodd ar gyfer yr wybodaeth flynyddol.

Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff disgybl sy’n oedolyn neu riant disgybl ofyn am unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhinwedd rheoliad 5 a Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2 y maent yn ystyried ei bod ar goll o’r wybodaeth flynyddol a ddarperir.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth ddarparu i unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod o oedran ysgol gorfodol adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol (“adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol”). Mae’r wybodaeth y mae rhaid ei darparu yn yr adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol wedi ei nodi yn Rhan 4 o Atodlen 2. Mae rheoliad 9 yn nodi’r cyfnod adrodd ar gyfer yr adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol.

Mae rheoliad 10 yn nodi cyfyngiadau penodol ar ddarparu gwybodaeth.

Mae rheoliad 11 yn darparu, pan fo angen, fod rhaid i unrhyw ddogfen neu unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn gael ei chyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg neu i iaith arall neu gael ei chynhyrchu mewn Braille neu ar dâp sain.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1996 p. 56. Diwygiwyd adran 408(1) gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraff 106(a) o Atodlen 30, ac Atodlen 31, i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), paragraffau 1 a 57(1) a (2) o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), paragraff 46(1) a (2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), paragraffau 9, 11(1) a (2) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), paragraffau 5 a 7 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21), paragraff 1(1) a (2)(a) o Atodlen 4 i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) a chan O.S. 2010/1158. Mae diwygiadau eraill i’r adran hon nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Diwygiwyd adran 569(4) gan adran 8(1) a (5) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5) a chan adran 73 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) a pharagraffau 1 a 22(b) o Atodlen 2 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

Diwygiwyd paragraff 3 o Atodlen 1 gan O.S. 2010/1158.

(5)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “dosbarth meithrin”.

(6)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “ysgol a gynhelir”.

(7)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “blwyddyn derbyn”.

(8)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “disgyblion”.

(9)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “blwyddyn ysgol”.

(10)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “ysgol a gynhelir”.

(11)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “cwricwlwm perthnasol”.

(12)

Gweler rheoliad 2 am y diffiniad o “uned cyfeirio disgyblion”. At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae ysgolion a gynhelir wedi eu diffinio i gynnwys UCDau (gweler rheoliad 2(1)).

(13)

Fel y’i diwygiwyd gan adran 140(1) a (3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a pharagraff 111(a) a (b) o Atodlen 30 iddi, ac O.S. 2010/1158.

(17)

Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 57(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi a diwygiwyd is-adran (1) ac (1A) ymhellach gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 21 iddi.

(18)

Amnewidiwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 52(2) a (3) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).

(20)

O.S. 2011/1942 (Cy. 209) a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/837 (Cy. 211), paragraff 365(1) a (2)(a) o Ran 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Diogelu Data 2018 ac O.S. 2019/1281 (Cy. 225).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources