Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 No. 657 (Cy. 147)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

am 11.55 a.m. ar 14 Mehefin 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.00 p.m. ar 14 Mehefin 2022

Yn dod i rym

15 Mehefin 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 13, 45C(1), (2), (3)(a) a (b), 45F(2)(a) a (b), 45P(2) a 60A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru yn datgan eu bod o’r farn nad yw’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf honno sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig(2) neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mehefin 2022.

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1 (clefydau a syndromau hysbysadwy), ar ôl “Botwliaeth” mewnosoder “Brech y mwncïod”.

(3Yn Atodlen 2 (cyfryngau achosol), ar ôl “Escherichia coli vero-cytotocsigenig (gan gynnwys E.coli O157)” mewnosoder “Firws brech y mwncïod”.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 11.55 a.m. ar 14 Mehefin 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”) sy’n gosod rhwymedigaethau ar wahanol bersonau at ddiben atal mynychder neu ledaeniad haint neu halogiad, diogelu rhagddo, ei reoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd iddo.

Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod “Brech y mwncïod” yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010 at ddibenion ychwanegu hwn at y rhestr o “Clefydau a Syndromau” y mae dyletswydd ar ymarferwyr meddygol i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os credir bod clefyd neu syndrom o’r fath ar glaf y maent yn ei wasanaethu. Mae’r ddyletswydd hon yn estyn i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn corff marw.

Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod “Firws brech y mwncïod” yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010 at ddibenion ychwanegu hwn at y rhestr o “Cyfryngau Achosol” y mae dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os ydynt yn darganfod cyfrwng, neu dystiolaeth o gyfrwng o’r fath, mewn sampl ddynol.

Ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymateb i’r achosion presennol o frech y mwncïod yn y DU.

(1)

1984 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 13, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Mae swyddogaethau a arferir o dan adrannau 45C(1), (2), (3)(a) a (b), 45F(2)(a) a (b), 45P(2) a 60A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 45T(6) o’r Ddeddf honno sy’n diffinio “the appropriate Minister” fel Gweinidogion Cymru o ran Cymru at ddibenion Rhan 2A o’r Ddeddf honno, ac adran 60A(6) o’r Ddeddf honno sy’n diffinio “the appropriate Minister” fel Gweinidogion Cymru o ran Cymru at ddibenion adran 60A o’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F, 45P a 45T yn Neddf 1984 gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) (“Deddf 2008”), a mewnosodwyd adran 60A yn Neddf 1984 gan adran 130 o Ddeddf 2008 a pharagraff 16 o Atodlen 11 iddi.

(2)

Gweler adran 45C(6) o Ddeddf 1984 am ystyr “special restriction or requirement”.

(3)

O.S. 2010/1546 (Cy. 144), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources