Search Legislation

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 1) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 666 (Cy. 149)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 1) 2022

Gwnaed

14 Mehefin 2022

Laid Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

17 Mehefin 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 74(1) a 75(1)(b) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 1) 2022.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022.

(3Daw’r rheoliadau 3 i 13 i rym fel y nodir yn rheoliadau 3(2), 4(2), 5(2), 6(2), 7(2), 8(2), 9(2), 10(2), 11(2), 12(2) a 13(2).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant neu ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—

(a)

mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu

(b)

gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 12” (“year 12”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 17 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 13” (“year 13”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 18 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;

mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996(2);

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o ddisgyblion mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;

mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 2021 yr un ystyr ag yn y Ddeddf honno.

Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999

3.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sy’n mynychu ysgol arbennig a gynhelir sydd—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)ym mlynyddoedd 1 i 6;

(ii)ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion hynny a’r lleoliadau eraill hynny pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023—

(i)ym mlwyddyn 7;

(ii)ym mlwyddyn 8;

(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9;

(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10;

(e)o 1 Medi 2026 ym mlynyddoedd 11 i 13.

(3Yn rheoliad 12(4)

(a)yn lle’r pennawd “Religious Education” rhodder “Religious Worship”, a

(b)hepgorer paragraff (a) a’r “and” ar ei ôl.

(4Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6—

(a)yn lle “relevant subject”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “area of learning and experience”,

(b)yn lle “relevant subjects”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “areas of learning and experience”,

(c)yn lle “the first key stage”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “year 1 or year 2”,

(d)yn lle “the second key stage”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “years 3 to 6”,

(e)yn lle “the third key stage”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “years 7 to 9”,

(f)yn lle “the fourth key stage”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “year 10 or year 11”,

(g)yn lle is-baragraff (7) rhodder—

(7) For the purposes of this paragraph, “areas of learning and experience” means areas of expressive arts, health and well-being, humanities, languages, literacy and communication, mathematics, numeracy, science and technology, including the mandatory elements of Relationships and Sexuality Education and Religion, Values and Ethics (but not the mandatory elements of English or Welsh)., ac

(h)yn is-baragraff (8)—

(i)ar ôl paragraff (a) hepgorer “and”,

(ii)ym mharagraff (b), hepgorer “and references to key stages shall be construed in accordance with section 355 of the Education Act 1996”, a

(iii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)pupil” has the meaning given to it in section 3 of the Education Act 1996;

(d)year 1” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 6;

(e)year 2” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 7;

(f)year 3” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 8;

(g)year 4” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 9;

(h)year 5” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 10;

(i)year 6” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 11;

(j)year 7” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 12;

(k)year 8” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 13;

(l)year 9” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 14;

(m)year 10” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 15;

(n)year 11” means the year group in which the majority of pupils attain the age of 16;

(o)year group” means a group of pupils at a school the majority of whom will, in a particular school year, attain the same age.

Rheoliadau Addysg (Dawn mewn Pynciau Penodol) 1999

4.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Dawn mewn Pynciau Penodol) 1999(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sydd—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir;

(ii)ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir;

(iii)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023—

(i)ym mlwyddyn 7;

(ii)ym mlwyddyn 8;

(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;

(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;

(e)o 1 Medi 2026 ym mlynyddoedd 11 i 13 mewn ysgol a gynhelir.

(3Yn lle rheoliad 2 rhodder—

2.  The following subjects are prescribed for the purposes of section 102A of the School Standards and Framework Act 1998(6) (permitted selection in maintained schools in Wales: aptitude for particular areas of learning and experience etc.)—

(a)international languages, or any such language,

(b)expressive arts, or any one or more of the expressive arts,

(c)sport, or one or more sports,

(d)design and technology, and

(e)computing and digital technology.

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000

5.—(1Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiad yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sydd—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)yn eu blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir;

(ii)ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir;

(iii)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023—

(i)ym mlwyddyn 7;

(ii)ym mlwyddyn 8;

(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9;

(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10;

(e)o 1 Medi 2026 ym mlynyddoedd 11 i 13.

(3Hepgorer rheoliad 9(8).

Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006

6.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiad a wneir yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sy’n mynychu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, ac sydd—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)yn eu blwyddyn derbyn;

(ii)ym mlynyddoedd 1 i 6;

(iii)ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023—

(i)ym mlwyddyn 7;

(ii)ym mlwyddyn 8;

(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9;

(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10;

(e)o 1 Medi 2026 ym mlynyddoedd 11 i 13.

(3Yn rheoliad 13, yn lle’r diffiniad o “addysg enwadol” rhodder—

mae i “addysg enwadol” yr ystyr a roddir i “denominational education” gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2005;.

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

7.—(1Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sydd—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)yn cael addysg feithrin mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(ii)yn eu blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir;

(iii)ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir;

(iv)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023—

(i)ym mlwyddyn 7;

(ii)ym mlwyddyn 8;

(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9;

(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10;

(e)o 1 Medi 2026 ym mlynyddoedd 11 i 13.

(3Yn rheoliad 13(7)(a), hepgorer “cyfnod allweddol neu”.

(4Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 19, hepgorer “adrannau 116A i 116O o Ddeddf 2002 ac”,

(b)hepgorer paragraff 23, ac

(c)ym mharagraff 24—

(i)ar ôl “adran 390 o Ddeddf 1996” mewnosoder “neu Gyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg a ffurfiwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 390(1A) o Ddeddf 1996”, a

(ii)ar ôl “Atodlen 31 i Ddeddf 1996” mewnosoder “neu ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg(11) yn unol ag Atodlen 1 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021”.

Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

8.—(1Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sydd—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir;

(ii)ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir;

(iii)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023—

(i)ym mlwyddyn 7;

(ii)ym mlwyddyn 8;

(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;

(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;

(e)o 1 Medi 2026 ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir.

(3Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyfnod sylfaen”,

(b)hepgorer y diffiniad o “cyfnod allweddol”,

(c)yn y diffiniad o “categori iaith”, yn lle’r geiriau o “Diffinio ysgolion” hyd at “Cylchlythyr 023/2007” rhodder “Canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg” a gyhoeddwyd gyntaf gan Weinidogion Cymru ar 16 Rhagfyr 2021”,

(d)hepgorer y diffiniad o “asesiadau statudol”, ac

(e)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Cwricwlwm i Gymru” (“Curriculum for Wales”) yw cwricwlwm a weithredir yn unol â Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(13);.

(4Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8, yn lle “o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ynglŷn â’r Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114 o Ddeddf 2002” rhodder “o elfen fandadol y Gymraeg, fel y’i nodir yn adran 3(2) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, o dan adrannau 41, 42 ac 48 o’r Ddeddf honno”.

(5Yn Atodlen 3—

(a)hepgorer paragraff 12,

(b)hepgorer paragraff 13,

(c)yn lle paragraff 16 rhodder—

16.  Crynodeb o’r cwricwlwm mabwysiedig fel sy’n ofynnol o dan adran 11(1)(b) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.,

(d)ym mharagraff 17—

(i)yn lle “adran 71” rhodder “reoliadau a wneir o dan adran 71(7A)”, a

(ii)hepgorer “neu addysg grefyddol”,

(e)ym mharagraff 26(1)(a), yn lle “cyfnod allweddol” rhodder “grŵp oedran”, ac

(f)ym mharagraff 26(2), yn lle “o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114 o Ddeddf 2002” rhodder “o elfen fandadol y Gymraeg, fel y’i nodir yn adran 3(2) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, o dan adrannau 41, 42 ac 48 o’r Ddeddf honno”.

Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013

9.—(1Mae Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sydd—

(a)ar 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;

(b)ar 1 Medi 2026 ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir.

(3Yn rheoliad 2—

(a)hepgorer y diffiniad o “y pedwerydd cyfnod allweddol”, a

(b)yn lle’r diffiniad o “cwricwlwm lleol” rhodder—

mae i’r ymadrodd “cwricwlwm lleol”, o ran myfyrwyr sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed, yr ystyr a roddir i “local curriculum” gan adran 33N o Ddeddf 2000;.

(4Yn rheoliad 13—

(a)ym mharagraff (1)(a), hepgorer “adran 116D(1) o Ddeddf 2002 neu”, a

(b)ym mharagraff (2)(a), hepgorer “adran 116D(1) o Ddeddf 2002 neu”.

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015

10.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sydd—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol annibynnol;

(ii)ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol annibynnol;

(iii)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol annibynnol pan fo’r pennaeth wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023—

(i)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol annibynnol;

(ii)ym mlwyddyn 8 mewn ysgol annibynnol;

(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9 mewn ysgol annibynnol;

(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10 mewn ysgol annibynnol;

(e)o 1 Medi 2026 ym mlwyddyn 11 mewn ysgol annibynnol.

(3Yn rheoliad 3(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyfnod allweddol”, a

(b)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996;;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o ddisgyblion mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;.

(4Yn rheoliad 7(3)—

(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)yn achos person a gyflogir i addysgu disgyblion ym mlynyddoedd 7 i 11, bod cwricwlwm yr ysgol ar gyfer disgyblion yn y grwpiau blwyddyn hynny yn cynnwys yr holl feysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yr elfennau mandadol, fel y’u diffinnir yn adran 3 o Ddeddf 2021, y cyflogir y person hwnnw i’w haddysgu; a, a

(b)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)ym mhob achos, bod y cwricwlwm ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig yn eu blwyddyn derbyn ac ym mlynyddoedd 1 i 6 yn cynnwys yr holl feysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yr elfennau mandadol, fel y’u diffinnir yn adran 3 o Ddeddf 2021; ac.

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

11.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiadau hyn yn cael effaith mewn cysylltiad â disgyblion sydd—

(a)ar 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;

(b)ar 1 Medi 2026 ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir.

(3Yn rheoliad 2(1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o ddisgyblion mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;.

(4Yn rheoliad 11(1), yn lle “yng nghyfnod allweddol pedwar” rhodder “ym mlwyddyn 10 neu flwyddyn 11”.

Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2016

12.—(1Mae Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2016(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion mewn ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol a gynhelir sydd—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)yn cael addysg feithrin;

(ii)mewn blwyddyn derbyn;

(iii)ym mlynyddoedd 1 i 6;

(iv)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023—

(i)ym mlwyddyn 7;

(ii)ym mlwyddyn 8;

(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;

(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;

(e)o 1 Medi 2026 ym mlwyddyn 11 i 13 mewn ysgol a gynhelir.

(3Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “y grefydd berthnasol neu’r enwad crefyddol perthnasol” rhodder—

ystyr “y grefydd berthnasol neu’r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw’r grefydd neu’r enwad crefyddol y caiff addysgu a dysgu mewn cysylltiad â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg eu darparu yn unol â’i daliadau neu â’i ddaliadau—

(a)

o dan baragraff 7(3) neu baragraff 8(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, neu

(b)

o dan adran 61 o’r Ddeddf honno, ac yn unol—

(i)

ag unrhyw ddarpariaethau yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu

(ii)

â daliadau’r grefydd neu’r enwad crefyddol a bennir mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(18).

(4Yn rheoliad 4(3), yn lle “69(3)” rhodder “68A(1)”.

Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017

13.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sydd—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)yn cael addysg feithrin mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(ii)mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir;

(iii)ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir;

(iv)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023—

(i)ym mlwyddyn 7;

(ii)ym mlwyddyn 8;

(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;

(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;

(e)o 1 Medi 2026 ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir.

(3Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “meysydd dysgu” rhodder—

mae i “meysydd dysgu a phrofiad” (“areas of learning and experience”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 3(1) o Ddeddf 2021;,

(b)hepgorer y diffiniad o “cyfnod sylfaen”,

(c)hepgorer y diffiniad o “cyfnod allweddol”,

(d)hepgorer y diffiniad o “pynciau”, ac

(e)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;;

mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o ddisgyblion mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;;

mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021 Act..

(4Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 8—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “neu’r pynciau” rhodder “a phrofiad”,

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “addysgu’r cyfnod sylfaen” rhodder “addysgu disgyblion sy’n cael addysg feithrin neu ddisgyblion yn eu blwyddyn derbyn, ym mlwyddyn 1 neu ym mlwyddyn 2”,

(iii)yn is-baragraff (c), yn lle “addysgu’r cyfnodau allweddol ac os felly, pa gyfnodau allweddol” rhodder “addysgu disgyblion ym mlynyddoedd 3 i 11, ac os felly, pa rai o’r blynyddoedd hynny”,

(iv)yn lle is-baragraff (d) rhodder—

(d)a yw P yn addysgu meysydd dysgu a phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio elfen fandadol y Gymraeg;, a

(v)hepgorer is-baragraff (e),

(b)ym mharagraff 11(c), hepgorer “ysgol y cwricwlwm cenedlaethol”, ac

(c)ym mharagraff 14—

(i)yn is-baragraff (e), ar ôl “meysydd dysgu” mewnosoder “a phrofiad”,

(ii)hepgorer is-baragraff (f),

(iii)yn is-baragraff (g), yn lle “y cyfnodau allweddol” rhodder “pa grwpiau blwyddyn”, a

(iv)hepgorer is-baragraff (h).

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

14 Mehefin 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer plant a disgyblion yng Nghymru (“y Cwricwlwm newydd i Gymru”). Mae adran 74(1) o Ddeddf 2021 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Ddeddf honno er mwyn rhoi iddi ei heffaith. Mae adran 75(1)(b) o Ddeddf 2021 yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno i blant a disgyblion fesul cam. Daw’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—

(a)o 1 Medi 2022 ar gyfer—

(i)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer,

(ii)disgyblion sy’n cael addysg feithrin mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir,

(iii)disgyblion yn eu blwyddyn derbyn, a

(iv)disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,

(b)o 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion hynny a’r lleoliadau eraill hynny pan fo cwricwlwm wedi ei ddarparu yn unol â Deddf 2021,

(c)o 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion—

(i)ym mlwyddyn 7, a

(ii)ym mlwyddyn 8,

(d)o 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,

(e)o 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(f)o 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 11 i 13.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant a disgyblion y darperir addysg iddynt—

(a)mewn ysgolion a gynhelir,

(b)mewn ysgolion meithrin a gynhelir,

(c)gan ddarparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

(d)mewn unedau cyfeirio disgyblion, ac

(e)gan bersonau sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2021 dsc 4. Gweler adran 82(1) am y diffiniad o “rheoliadau”.

(2)

1996 p. 56. Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 57(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi a diwygiwyd is-adrannau (1) ac (1A) ymhellach gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 21 iddi.

(4)

Amnewidiwyd rheoliad 12 gan reoliad 2 o O.S. 2009/48.

(8)

Mae paragraff (5) o reoliad 9 yn darparu nad yw rheoliad 9 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir. Mewnosodwyd paragraff (5) gan reoliad 11(1) a (4) o O.S. 2005/2913 (Cy. 210).

(11)

Mae Atodlen 31 i Ddeddf Addysg 1996 wedi ei diwygio gan Atodlen 1 i Ddeddf 2021. Mae paragraff A1 o Atodlen 31 yn gosod y ddyletswydd i alw cynhadledd at ddiben lunio’r maes llafur cyntaf ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i’w fabwysiadu gan yr awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 375A o’r Ddeddf honno; mae paragraff 9A o Atodlen 13 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â mabwysiadu’r maes llafur cyntaf ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

(12)

O.S. 2011/1944 (Cy. 211), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/1944 (Cy. 53); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(13)

Mae Rhan 2 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynllunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm ar gyfer ysgolion a gynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir, a darparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yng Nghymru. Gweler hefyd Ran 3 o Bennod 4 o’r Ddeddf honno am ddarpariaeth ynghylch cwricwlwm ar gyfer darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill.

(18)

Gweler adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2005 a fewnosodwyd gan O.S. 2022/XXX sy’n amnewid y diffiniad o “denominational education” o ran Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources