- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Gwnaed
am 4.04 p.m. ar 5 Gorffennaf 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
7 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym
28 Gorffennaf 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 167(1) a (2) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Gorffennaf 2022.
2.—(1) Mae Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 5A (yswiriant arolygydd cymeradwy)(3).
(3) Yn rheoliad 7 (rhestrau o gymeradwyaethau a dynodiadau)(4)—
(a)yn lle paragraff (1)(c) rhodder—
“(c)in relation to Wales, in respect of each approved inspector listed, keep a copy of the approval certificate.”;
(b)yn lle paragraff (3)(b) rhodder—
“(b)in relation to Wales, in respect of each approved inspector listed, keep a copy of the approval certificate;”.
(4) Yn rheoliad 9 (annibyniaeth arolygwyr cymeradwy) yn lle paragraff (4)(c) rhodder—
“(c)in relation to Wales, potential liability to pay any sum if a claim is made under any insurance cover,”.
(5) Yn Atodlen 1(5) (ffurflenni)—
(a)Yn Ffurflen 1 (hysbysiad cychwynnol) yn lle paragraff 13 rhodder—
“13. A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this initial notice is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.”;
(b)Yn Ffurflen 2 (hysbysiad diwygio) yn lle paragraff 13 rhodder—
“13. A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in the initial notice (as varied by this amendment notice) is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.”;
(c)Yn Ffurflen 3 (tystysgrif planiau) yn lle paragraff 3 rhodder—
“3. A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this plans certificate is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.”;
(d)Yn Ffurflen 4 (hysbysiad cychwynnol a thystysgrif planiau cyfunol) yn lle paragraff 17 rhodder—
“17. A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this initial notice is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.”;
(e)Yn Ffurflen 5 (tystysgrif derfynol) yn lle paragraff 6 rhodder—
“6. A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this final certificate is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.”
(6) Yn Atodlen 2 (y seiliau dros wrthod hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio, neu dystysgrif planiau wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol) hepgorer paragraff 6(6).
(7) Yn Atodlen 3 (y seiliau dros wrthod tystysgrif planiau etc.) hepgorer paragraff 6.
(8) Yn Atodlen 4 (y seiliau dros wrthod tystysgrif derfynol) hepgorer paragraff 5.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
Am 4.04 p.m. ar 5 Gorffennaf 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”). Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ganlyniadol ar adran 48 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Mae’r adran honno yn gwneud diddymiadau i Ddeddf Adeiladu 1984 mewn cysylltiad â gofynion yswiriant arolygwyr cymeradwy.
Mae rheoliad 2(2) yn hepgor rheoliad 5A (yswiriant arolygydd cymeradwy) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy, gan ddileu’r gofyniad i ddatganiad o yswiriant fod ym meddiant y person a gymeradwyodd yr arolygydd. Mae rheoliad 2(3) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 7 ac mae rheoliad 2(4) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 9. Mae rheoliad 2(5) yn diwygio’r ffurflenni yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy fel nad yw’r ffurflenni yn cyfeirio mwyach at y datganiad o yswiriant. Mae rheoliad 2(6) hyd at (8) yn diwygio Atodlenni 2, 3 a 4 i’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy er mwyn dileu o bob un o’r Atodlenni hyn y sail dros wrthod sy’n ymwneud â’r datganiad o yswiriant.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2010/2215, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2012/3119, 2013/747 (Cy. 89), 2014/58 (Cy. 5), 2015/767 a 2018/558 (Cy. 97).
Mewnosodwyd rheoliad 5A gan O.S. 2012/3119 mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru a chan O.S. 2014/58 (Cy. 5) o ran Cymru heblaw mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir. Diwygiodd O.S. 2018/558 (Cy. 97) reoliad 5A i’r graddau y mae’n gymwys i adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
Diwygiwyd rheoliad 7 mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru gan O.S. 2012/3119 a 2018/558 (Cy. 97) ac o ran Cymru heblaw mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir gan O.S. 2014/58 (Cy. 5).
Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2014/58 (Cy. 5) ac, mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru, rheoliad 22 o O.S. 2018/558 (Cy .97) a amnewidiodd ffurflenni 1 hyd at 12 fel y maent yn gymwys i adeiladau yng Nghymru heblaw adeiladau ynni a eithrir fel bod y ffurflenni hynny hefyd yn gymwys i adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
Diwygiwyd paragraffau 6 o Atodlenni 2 a 3 a pharagraff 5 o Atodlen 4 mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru gan O.S. 2012/3119 a 2018/558 (Cy. 97) ac o ran Cymru heblaw adeiladau ynni a eithrir gan O.S. 2014/58 (Cy. 5)>.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: