- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 a deuant i rym ar 22 Gorffennaf 2022.
2.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle’r geiriau “a ddisgrifir yn” rhodder “sy’n dod o fewn”;
(ii)hepgorer y geiriau o “neu unrhyw beiriannau” hyd at y diwedd;
(b)yn lle paragraff (2A) rhodder—
“(2A) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2B), (2C) a (2E), y ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad ag atebolrwydd am wiriad ffisegol a gwiriad adnabod y caniateir eu cynnal ar y llwyth (pa un a gynhelir unrhyw wiriad o’r fath ai peidio) yw, pan fo llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl—
(a)y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth; a
(b)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth.”;
(c)yn lle paragraff (2B) rhodder—
“(2B) Mae’r ffioedd a bennir o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o flodau wedi eu torri, ffrwythau, llysiau neu ddail yn daladwy mewn cysylltiad ag un lot o’r math o dan sylw.”;
(d)yn lle paragraff (2C) rhodder—
“(2C) Pan fo llwyth yn cynnwys dau neu ragor o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n dod o fewn un categori a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol neu wiriad adnabod o’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o fewn y categori o dan sylw yw—
(a)i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys dau neu ragor o lotiau naill ai o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail—
(i)y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail (yn ôl y digwydd); neu
(ii)pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r lotiau o dan sylw, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd am wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd);
(b)i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys unrhyw blanhigion eraill, unrhyw gynhyrchion planhigion neu unrhyw wrthrychau eraill sy’n tarddu o’r un wlad—
(i)y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o unrhyw un o’r disgrifiadau o dan sylw; neu
(ii)pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd i wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd).”;
(e)hepgorer paragraff (2D);
(f)yn lle paragraff (2E) rhodder—
“(2E) Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a fewnforir cyn diwedd y cyfnod graddoli trosiannol, mewn cysylltiad ag unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion a bennir yn Atodlen 2A a geir yn y llwyth hwnnw.”
(g)ar ôl paragraff (2E), mewnosoder—
“(2F) Pan fo arolygydd yn amau bod llwyth o drydedd wlad wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol, y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr y llwyth o drydedd wlad yw £147.35 ar gyfer pob sampl a brofir.
(2G) At ddibenion y rheoliad hwn, y tabl ac Atodlen 2A—
(a)ystyr “dail” yw llysiau, perlysiau a sbeisys, i’r graddau y maent ar ffurf dail gyda neu heb goesynnau neu goesau ynghlwm, a dail rhydd unrhyw blanhigion eraill;
(b)ystyr “llysiau”, ac eithrio yn is-baragraff (a), yw llysiau ac eithrio i’r graddau y maent ar ffurf dail.”;
(h)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “categori”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw grŵp a restrir yng ngholofn 1 mewn print trwm;
(b)ystyr “pla planhigion a reolir” yw pla cwarantin Prydain Fawr, pla cwarantin Prydain Fawr dros dro, pla cwarantin ardal sy’n rhydd rhag plâu neu bla nad yw’n bla cwarantin Prydain Fawr a reoleiddir(2);
(c)ystyr “disgrifiad”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw’r disgrifiad penodol y pennir ffi mewn cysylltiad ag ef;
(d)ystyr “lot” yw un uned neu ragor o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth;
(e)ystyr “y tabl” yw’r tabl yn Atodlen 1;
(f)ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;
(g)mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(3).”.
(3) Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd), ym mharagraff (4B), yn lle “2022” rhodder “2023”.
(4) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen 1 a geir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
(5) Hepgorer Atodlenni 1A a 2.
(6) Yn lle Atodlen 2A, rhodder yr Atodlen 2A a geir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2022
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: