Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDULL+C
12.—(1) Caiff plentyn a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cais.
(2) Nid yw’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU ym mharagraff (1) yn gymwys—
(a)pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, neu
(b)pan fydd erthyglau 15 i 22 yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 12 mewn grym ar y dyddiad gwneud