Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigolLL+C

13.—(1Pan roddir hysbysiad CDU yn unol ag erthyglau 9, [F19A,] 10, 11 neu 12 rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, oni bai—

(a)bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys,

(b)bod adran 31 o’r Ddeddf yn gymwys, neu

(c)bod amgylchiadau eithriadol.

(2Os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys neu os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol yn gymwys pan fydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.