Search Legislation

Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Amrywio) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Gwnaed

20 Medi 2023

Yn dod i rym

29 Medi 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 8(3) a (7) o Ddeddf Plâu 1954(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Amrywio) (Cymru) 2023 a daw i rym ar 29 Medi 2023.

Amrywio Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019

2.  Mae’r Atodlen i Orchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019(3) wedi ei hamrywio fel a ganlyn—

(a)yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

Aurotrap a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, AUROCON Automated Rodent Control, Industrivej 35, 9600 Aars, Denmarc.Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.
Quill Trap a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Quill Productions, Manor Farm, Pulham, Dorchester, Dorset, DT2 7EE.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd carlymod, gwencïod a llygod mawr.

Pan gaiff y trap ei ddefnyddio ar ffurf â phen caeedig, rhaid gosod y trap mewn twnnel artiffisial a adeiladwyd i’r dyluniad a bennwyd gan Quill Productions gan ddefnyddio deunyddiau sy’n addas at y diben.

Pan gaiff y trap ei ddefnyddio ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo, rhaid gosod y trap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth ei osod ar ffurf y gall anifail redeg drwyddo mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.

Smart Catch a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Anticimex Innovation Center A/S, Skovgaardsvej 23E, DK-3200 Helsinge, Denmarc.Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr a llygod.
Smart Catch Mini a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Anticimex Innovation Centre A/S, Skovgaardsvej 23E, DK-3200 Helsinge, Denmarc. Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.
Smart Pipe Long Life 110 (eitem rhif 141110), Smart Pipe Long Life 160 (eitem rhif 141160), Smart Pipe Long Life 200 (eitem rhif 141200), Smart Pipe Long Life 250 (eitem rhif 141250), a Smart Pipe Long Life 300 (eitem rhif 141300) a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, Anticimex Innovation Center A/S, Skovgaardsvej 23E, DK-3200 Helsinge, Denmarc.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd llygod mawr.

Rhaid gosod y trap mewn carthffos, pibell ddraenio neu strwythur tebyg.

(b)hepgorer y cofnodion ar gyfer yr WCS Collarum Stainless UK Fox Model a’r WiseTrap 110, y WiseTrap 160, y WiseTrap 200 a’r WiseTrap 250.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

20 Medi 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn amrywio Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019 (O.S. 2019/18 (Cy. 7)).

O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954 (p. 68), mae’n drosedd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring, ac eithrio trap sydd wedi ei gymeradwyo drwy Orchymyn, ar anifeiliaid neu mewn amgylchiadau nad yw wedi ei gymeradwyo ar eu cyfer.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu mathau o drapiau sbring at y rhai sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru, sef yr Aurotrap, y Quill Trap, y Smart Catch, y Smart Catch Mini, y Smart Pipe Long Life 110, y Smart Pipe Long Life 160, y Smart Pipe Long Life 200, y Smart Pipe Long Life 250, a’r Smart Pipe Long Life 300 (erthygl 2(a)).

Mae hefyd yn dileu’r WCS Collarum Stainless UK Fox Model, y WiseTrap 110, y WiseTrap 160, y WiseTrap 200 a’r WiseTrap 250 o’r trapiau sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru (erthygl 2(b)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1954 p. 68. Diwygiwyd adran 8(7) gan adran 1(1) o Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1973 (p. 39) a Rhan 8 o Atodlen 1 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd holl swyddogaethau unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron yn Neddf Plâu 1954, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources