- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
15 Tachwedd 2023
Yn dod i rym
16 Tachwedd 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 160A(3) a (5) a 172(4) o Ddeddf Tai 1996(1) ac adran 142(2)(a) a (b) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(2) a pharagraff 1(2) a (4) o Atodlen 2 iddi.
Yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(3).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 a deuant i rym ar 16 Tachwedd 2023.
2. Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a)hepgorer yr “ac” ar ôl paragraff (m);
(b)ar ddiwedd paragraff (n), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c)ar ôl paragraff (n) mewnosoder—
“(o)Dosbarth O – person—
(i)a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;
(ii)a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;
(iii)sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â’r Rheolau Mewnfudo(5);
(iv)nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
(v)nad yw’n berson (P)—
(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;
(bb)a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac
(cc)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.”
4. Yn rheoliad 4(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a)hepgorer yr “a” ar ôl is-baragraff (j);
(b)ar ddiwedd is-baragraff (k), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c)ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—
“(l)person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad.”
5. Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a)hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (n);
(b)ar ddiwedd is-baragraff (o), yn lle “.” rhodder “; a”;
(c)ar ôl is-baragraff (o) mewnosoder—
“(p)Dosbarth P – person—
(i)a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023;
(ii)a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad;
(iii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
(iv)nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus; a
(v)nad yw’n berson (P)—
(aa)y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;
(bb)a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa bynnag dyddiad yw’r diweddaraf; ac
(cc)y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw.”
6. Yn rheoliad 6(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai) —
(a)hepgorer yr “a” ar ôl is-baragraff (j);
(b)ar ddiwedd is-baragraff (k), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c)ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—
“(l)person a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
O dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai gan awdurdod lleol oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. O dan adran 160A(5) caiff Gweinidogion Cymru ragnodi dosbarthau o bersonau sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai.
O dan baragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael cymorth tai o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol). O dan baragraff 1(4) caiff Gweinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol) ragnodi dosbarthau o bersonau sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael cymorth tai.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau, sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai. Mae Rheoliadau 2014 hefyd yn gwneud darpariaeth o ran personau nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth tai.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth O”) sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.
Mae Dosbarth O yn gymwys i bersonau penodol a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023, ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad. Bydd y personau hynny yn gymwys os ydynt wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77), os nad yw eu caniatâd yn ddarostyngedig i’r amod ‘heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus’ ac na chafodd eu caniatâd ei roi oherwydd ymgymeriad cynhaliaeth sydd yn dal i fod yn gymwys.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4(2) o Reoliadau 2014 i ddarparu bod personau penodol nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond y byddent yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw na Gweriniaeth Iwerddon yn gymwys i gael dyraniad o lety tai. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r rhai a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad.
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan Ddeddf 2014. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth P”) sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath. Mae’r dosbarth hwn yn cyfateb i Ddosbarth O a fewnosodir gan reoliad 3.
Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6(2) o Reoliadau 2014 fel bod personau penodol nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, ond y byddent yn anghymwys i gael cymorth tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw na Gweriniaeth Iwerddon, yn gymwys. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r un personau â’r rheini a fewnosodir gan reoliad 4.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
1996 p. 52. Mewnosodwyd adran 160A gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd 2002 (p. 7); diwygiwyd is-adrannau (3) a (5) gan adran 146(2)(d) ac (e) yn y drefn honno o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 160A(3) a (5) a 172(4) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), a’r cofnod mewn perthynas â’r Ddeddf honno yn Atodlen 1 i O.S. 1999/672, fel y’i darllenir yn unol ag adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
2014 dccc 7. Gweler adran 99 am y diffiniad o “rhagnodedig”.
Mae’r cyfeiriad yn adran 142(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
O.S. 2014/2603 (Cy. 257) fel y’i harbedwyd ac y’i haddaswyd gan erthygl 5 o O.S. 2015/1272 (Cy. 88) (C. 73) ac a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/698 (Cy. 164), O.S. 2019/1041 (Cy. 183), O.S. 2019/1149 (Cy. 199), rheoliad 76 o O.S. 2020/1309, rheoliad 26 o O.S. 2020/1372, O.S. 2021/353 (Cy. 105), O.S. 2021/1147 (Cy. 282), O.S. 2022/485 (Cy. 121), O.S. 2023/76 (Cy. 14) ac OS 2023/611 (Cy. 92).
Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (TC 395), fel y’u diwygiwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: