- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Erthygl 3
1. Yn lle paragraff 1 rhodder—
“1. Mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru (“SASW”) yn nodi’r gofynion sylfaenol i’w cynnwys mewn fframwaith prentisiaeth Cymreig cydnabyddedig. Mae cydymffurfio â’r SASW yn un o ofynion statudol Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Mae’r fersiwn hon yn ymgorffori’r addasiadau a wnaed i’r SASW wreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2013 a’r addasiadau a wnaed yn 2016.
Mae’n ymgorffori addasiadau er mwyn caniatáu cymwysterau “procsi” ychwanegol fel dewis arall cydnabyddedig yn lle Sgiliau Hanfodol fel y manylir arnynt o dan bob lefel fframwaith prentisiaeth, ac mae’n cynnwys cynnig mwy cynhwysol i bobl ag anawsterau ac anableddau dysgu er mwyn ehangu cyfranogiad, gan agor y gofynion mynediad o ran sgiliau hanfodol ar gyfer lefelau 2 a 3.
Mae’n cynnwys adran newydd ar brentisiaethau gradd a phroffesiynol (lefelau 6 a 7), sy’n dileu’r gofynion o ran sgiliau hanfodol ar gyfer prentisiaethau ar y lefel hon.
Mae canllawiau cyfredol wedi eu cyhoeddi mewn dogfen ar wahân. Rhaid i Awdurdodau Cyhoeddi Cymru roi sylw i’r canllawiau cyfredol hyn wrth wneud penderfyniad ynghylch a yw cyflwyniad fframwaith yn cydymffurfio â’r SASW.
Mae’r addasiadau i’r SASW wedi eu gwneud drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.”
2. Yn lle paragraff 2 rhodder—
“2. Rhaid i fframwaith prentisiaeth bennu ei lefel gan ddefnyddio’r disgrifyddion lefel cenedlaethol a ddisgrifir yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (“FfCChC”).”
3. Yn lle paragraff 3 rhodder—
“3. Rhaid i fframwaith fod ar Lefel 2 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth Sylfaen, ar Lefel 3 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth, ar Lefel 4 neu 5 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth Uwch ac ar Lefel 6 neu 7 i fod yn gymwys fel Prentisiaeth Gradd neu Broffesiynol.”
4. Yn lle paragraff 6 rhodder—
“6. Rhaid i fframwaith fod yn 38 o gredydau o leiaf, heb gynnwys credydau sgiliau hanfodol, ond pan fo’n briodol, gall fod yn fwy na hyn; mewn sawl achos bydd fframweithiau gryn dipyn yn fwy na 38 o gredydau. Ni all fframwaith fod mor gul fel nad yw ond yn berthnasol i weithle penodol lle yr enillwyd y brentisiaeth.”
5. Yn lle paragraff 10 rhodder—
“10. Bydd y datblygwr fframwaith yn penderfynu ar gydbwysedd y credydau rhwng cymwyseddau galwedigaethol a chymwysterau gwybodaeth dechnegol perthnasol. Fodd bynnag, rhaid i’r fframwaith bennu:
(a)o leiaf 19 o gredydau a gyflawnwyd o gymhwyster ar sail cymhwysedd galwedigaethol neu elfen cymhwysedd cymhwyster integredig, sy’n ymwneud yn benodol â’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth ac sy’n seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) lle y maent yn bodoli, neu safonau ar gyfer y diwydiant cyfan neu, lle nad ydynt yn bodoli, safonau proffesiynol ar gyfer y sector cyflogaeth y lluniwyd y fframwaith ar ei gyfer a rhaid iddo fod ar lefel sy’n adlewyrchu rôl y swydd; a
(b)o leiaf 19 o gredydau a gyflawnwyd o gymhwyster gwybodaeth dechnegol neu elfen gwybodaeth cymhwyster integredig sy’n darparu’r wybodaeth dechnegol a’r ddealltwriaeth o’r cysyniadau damcaniaethol sy’n ymwneud yn benodol â’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth i ategu cymhwysedd galwedigaethol. Rhaid i’r elfen cymhwyster gwybodaeth roi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r diwydiant a’i farchnad i’r prentis; neu
(c)o leiaf 19 o gredydau o gymhwyster cymwyseddau cyfatebol (nad ydynt yn rhai FfCChC) a gydnabyddir gan gorff proffesiynol ar gyfer Prentisiaeth Uwch ar Lefelau 4 neu 5 a Phrentisiaethau Gradd neu Broffesiynol Lefelau 6 neu 7 pan fo cwblhau prentisiaeth o’r fath yn llwyddiannus yn llwybr cydnabyddedig at gofrestru proffesiynol.”
6. Yn lle is-baragraff 11(b) rhodder—
“(b)y cynnwys dysgu o gymhwyster cymwyseddau cyfatebol a gydnabyddir gan gorff proffesiynol ar gyfer Prentisiaeth Uwch a Phrentisiaeth Gradd a Phroffesiynol, pan fo cwblhau prentisiaeth o’r fath yn llwybr cydnabyddedig at gofrestru proffesiynol.”
7. Ar ôl paragraff 16 mewnosoder—
“16A. Mae’n bosibl y bydd rhai prentisiaid ag anhawster dysgu neu anabledd dysgu yn gallu cyrraedd y safon alwedigaethol ond y byddant yn ei chael hi’n anodd cyflawni’r cymhwyster mewn Saesneg neu fathemateg ar y lefel sy’n ofynnol fel arfer. Disgwylir i ddarparwyr barhau i wneud pob ymdrech i helpu prentisiaid i gyrraedd y safonau hyn.
Fodd bynnag, gan gydnabod y rhwystrau i gyfranogiad y gall y gofynion hyn eu peri i berson ag anhawster neu anabledd dysgu, caniateir eithriadau ar gyfer prentisiaethau sylfaen a phrentisiaethau i’r gofynion sylfaenol ar gyfer Saesneg a mathemateg.
Bydd rhesymoldeb yr addasiad sydd i’w wneud yn dibynnu ar amgylchiadau unigol y prentis a’i asesiad. Gall yr addasiad fod yn gymwys i un pwnc, neu i Saesneg a mathemateg ill dwy. Os nad yw’r addasiad ond yn cael ei gymhwyso i un pwnc, bydd y gofynion arferol ar gyfer y pwnc nas addaswyd yn parhau i fod yn gymwys. Gall y darparwr ystyried addasu’r gofynion sylfaenol am Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif fesul achos unigol pan fo’r holl amodau a ganlyn wedi eu bodloni:
Mae gan y prentis naill ai fersiwn gyfredol neu fersiwn a ddyroddwyd yn flaenorol o Gynllun Datblygu Unigol (CDU), datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (AIG), neu Gynllun Dysgu a Sgiliau (CDS);
Cynhelir asesiad â thystiolaeth sy’n dangos nad yw’r prentis, hyd yn oed gyda chymorth ac addasiadau, yn gallu cyflawni Saesneg neu fathemateg i’r lefel ofynnol o ganlyniad i’w anhawster dysgu neu ei anabledd dysgu;
Rhaid i’r cyflogwr a’r darparwr ddisgwyl yn rhesymol y bydd y prentis yn gallu cyflawni’n llwyddiannus bob agwedd arall ar ofynion y brentisiaeth, dod yn gymwys yn alwedigaethol a chyflawni Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif yn y pynciau a addaswyd cyn diwedd ei brentisiaeth; ac
Nid oes unrhyw ofynion mynediad sylfaenol ar gyfer y diwydiant penodol hwnnw.”
8. Yn lle paragraff 19 rhodder—
“19. Gall fframwaith Prentisiaeth Uwch ar Lefelau 4 neu 5 neu Brentisiaeth Gradd neu Broffesiynol Lefelau 6 neu 7 bennu cymwysterau proffesiynol ychwanegol fel y’u cydnabyddir gan y sector os ydynt yn rhoi cymhwystra ar gyfer statws proffesiynol.”
9. Yn lle paragraff 24 rhodder—
“24. Gall fframwaith prentisiaeth sylfaen bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru gymhwyster mewn Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol i Lefel 1 o leiaf, oni fydd Llythrennedd Digidol yn amherthnasol i berfformiad effeithiol yn y sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi. Fodd bynnag, caniateir eithriadau mewn cysylltiad â phrentisiaid ag anawsterau dysgu neu anabledd dysgu fel yr amlinellir ym mharagraff 16A.”
10. Ar ôl paragraff 25 mewnosoder—
“25A. Gall yr awdurdod dyroddi, yn ôl ei ddisgresiwn, bennu mewn fframwaith y derbynnir cymwysterau rheoleiddiedig sy’n cyfateb i’r cymwysterau procsi a restrir yn y SASW ar gyfer Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu sydd ar lefel uwch na’r cymwysterau procsi hynny. Rhaid i unrhyw gymwysterau o’r fath roi tystiolaeth bod y cymwyseddau a asesir yn y cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a rhif wedi eu cwblhau.
25B. Pan bennir cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn fframwaith prentisiaeth sylfaen, rhaid i’r fframwaith prentisiaeth bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru y derbynnir un o’r cymwysterau procsi cydnabyddedig a amlinellir yn y tablau isod:
Cymhwyster Saesneg | Meini prawf Lefel / Gradd |
---|---|
Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu 1 | Lefel 1 o leiaf |
TGAU/TGAU Ryngwladol Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys: Llenyddiaeth Saesneg, Saesneg Iaith, Astudiaethau Saesneg a Chyfathrebu Saesneg Cyrsiau byr, Cyrsiau peilot Cymraeg Iaith Dyfarniadau Dwbl (gradd isaf sy’n dderbyniol E neu F) (nid yw Saesneg fel Ail Iaith yn dderbyniol) | Gradd 1 o leiaf neu Radd G o leiaf |
Sgiliau Gweithredol – Saesneg | Lefel 1 o leiaf |
Safon Uwch/UG Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys: - Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, Cymraeg Iaith | Gradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf (cyfateb i Radd Gyffredin) |
Lefel O Saesneg, Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth | Gradd E o leiaf neu dystiolaeth cyn 1975 o Lwyddo |
Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu / Llythrennedd (Dim ond portffolio sydd ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Cymraeg. Mae’n ofynnol cyflawni prawf a phortffolio ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Saesneg) | Lefel 1 o leiaf |
TAU Saesneg | 2 neu 3 |
Tystysgrif Pre U Llenyddiaeth mewn Saesneg | P3 |
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu | Lefel 1 o leiaf |
Iaith Arwyddion Prydain - cymhwyster rheoleiddiedig (dim ond pan mai Iaith Arwyddion Prydain yw prif iaith y Prentis) | Lefel 1 o leiaf neu Lefel 4 SCQF o leiaf |
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 7) | Gradd C o leiaf |
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 6) | Gradd C o leiaf |
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 4 mewn Saesneg (SCQF Lefel 4) | Llwyddo |
Cymhwyster Canolradd yr Alban 1 mewn Saesneg (SCQF Lefel 4) | Gradd C o leiaf |
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 4) | Gradd 3 o leiaf |
Uned Tystysgrif Genedlaethol yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 6) | Llwyddo |
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 4) | Llwyddo |
Uned Graidd Gweithle yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 4) (Cyfathrebu Llafar a chyfathrebu ysgrifenedig) | Llwyddo |
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Llythrennedd (SCQF Lefel 4) | Llwyddo |
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) | Gradd C o leiaf |
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1 / 2 Tystysgrif mewn Iaith a Llenyddiaeth | Gradd 2 o leiaf |
Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:
| Gradd 3 o leiaf |
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-C | Gradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf |
Bagloriaeth Cymru – Dim ond pan ddangosir elfen Gyfathrebu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Hanfodol | Lefel 1 o leiaf |
Cymhwyster mathemateg | Meini Prawf Lefel/ Gradd |
---|---|
Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif | Lefel 1 o leiaf |
TGAU/TGAU Ryngwladol Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys:
| Gradd 1 o leiaf Neu Radd G o leiaf |
Sgiliau Gweithredol – Mathemateg | Lefel 1 o leiaf |
Safon Uwch/UG Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys: Mathemateg Bur, Mathemateg Bellach, Defnyddio Mathemateg | Gradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf (cyfateb i Radd Gyffredin) |
Mathemateg Lefel O | Gradd E o leiaf Neu dystiolaeth cyn 1975 o lwyddo |
Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif (Rhifedd) Dim ond portffolio sydd ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Cymraeg, mae’n ofynnol cyflawni prawf a phortffolio ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Saesneg | Lefel 1 o leiaf |
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif | Lefel 1 o leiaf |
TAU Mathemateg | Lefel 2 o leiaf |
Mathemateg Graidd Lefel 3 (pan fo wedi ei chynnwys mewn tablau perfformiad)
| Gradd E o leiaf |
Cymhwyster Mathemateg Annibynnol Lefel 2 - Sylfeini Mathemateg Uwch | Gradd E o leiaf |
Tystysgrif Pre U mewn Mathemateg neu Fathemateg Bellach | P3 o leiaf |
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Mathemateg neu Fathemateg Bellach | Gradd C o leiaf |
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 6) | Gradd C o leiaf |
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 4 mewn Mathemateg neu Sgiliau Bywyd mewn Mathemateg neu Gymhwyso Mathemateg (SCQF Lefel 4) | Llwyddo |
Cymhwyster Canolradd yr Alban 1 mewn Mathemateg (SCQF Lefel 4) | Gradd C o leiaf |
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 4) | 3 o leiaf |
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 4) Gwybodaeth Graffigol a Defnyddio Rhif | Llwyddo |
Uned Sgiliau Craidd Gweithle yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 4) | Llwyddo |
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 4) | Llwyddo |
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5) | Gradd C o leiaf |
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1/2 Tystysgrif mewn Mathemateg neu Fathemateg Estynedig | Gradd 2 o leiaf |
Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:
| Gradd 3 o leiaf |
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-C | Gradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf |
Bagloriaeth Cymru – Dim ond pan ddangosir elfen Cymhwyso Rhif Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Hanfodol | Lefel 1 o leiaf”. |
11. Yn lle paragraff 35 rhodder—
“35. Gall fframwaith prentisiaeth bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru gymhwyster mewn Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol i Lefel 2 o leiaf, oni fydd Llythrennedd Digidol yn amherthnasol i berfformiad effeithiol yn y sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi. Fodd bynnag, caniateir eithriadau ar gyfer pobl ag Anawsterau neu Anableddau Dysgu yn ogystal â’r cymwysterau hynny a amlinellir ym mharagraff 16A.”
12. Yn lle paragraff 36 rhodder—
“36. Gall yr awdurdod dyroddi, yn ôl ei ddisgresiwn, bennu mewn fframwaith y derbynnir cymwysterau rheoleiddiedig sy’n cyfateb i’r cymwysterau procsi a restrir yn y SASW ar gyfer Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif neu sydd ar lefel uwch na’r cymwysterau procsi hynny. Rhaid i unrhyw gymwysterau o’r fath roi tystiolaeth bod y cymwyseddau a asesir yn y cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a rhif wedi eu cwblhau.
36A. Pan bennir cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn fframweithiau prentisiaeth, rhaid i’r fframwaith prentisiaeth bennu fel un o ofynion tystysgrif Cymru y derbynnir un o’r cymwysterau procsi cydnabyddedig a amlinellir yn y tablau isod:
Cymhwyster Saesneg | Meini Prawf Lefel / Gradd |
---|---|
Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu 1 | Lefel 2 o leiaf |
TGAU/TGAU Ryngwladol Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys:
(nid yw Saesneg fel Ail Iaith yn dderbyniol) | Gradd 4 o leiaf neu Radd C o leiaf |
Sgiliau Gweithredol – Saesneg | Lefel 2 o leiaf |
Safon Uwch/UG Saesneg - unrhyw un â Saesneg yn yr enw. Gan gynnwys: Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, Cymraeg Iaith | Gradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf (cyfateb i Radd Gyffredin) |
Lefel O Saesneg, Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg neu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth | Gradd C o leiaf neu dystiolaeth cyn 1975 o Lwyddo |
Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu / Llythrennedd (Dim ond portffolio sydd ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Cymraeg. Mae’n ofynnol cyflawni prawf a phortffolio ar gyfer Sgiliau Allweddol mewn Saesneg) | Lefel 2 o leiaf |
TAU Saesneg | Gradd 1 o leiaf |
Tystysgrif Pre U Llenyddiaeth mewn Saesneg | P3 |
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu | Lefel 2 o leiaf |
Iaith Arwyddion Prydain - cymhwyster rheoleiddiedig (dim ond pan mai Iaith Arwyddion Prydain yw prif iaith y Prentis) | Lefel 2 o leiaf neu Lefel 5 SCQF o leiaf |
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 7) | Gradd C o leiaf |
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 6) | Gradd C o leiaf |
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) | Gradd D o leiaf |
Cymhwyster Canolradd yr Alban 2 mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) | Gradd C o leiaf |
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) | 2 o leiaf |
Uned Tystysgrif Genedlaethol yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 6) | Llwyddo |
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 5) | Llwyddo |
Uned Graidd Gweithle yr Alban mewn Cyfathrebu (SCQF Lefel 5) (Cyfathrebu Llafar A chyfathrebu ysgrifenedig) | Llwyddo |
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Llythrennedd (SCQF Lefel 5) | Llwyddo |
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Saesneg (SCQF Lefel 5) | Gradd C o leiaf |
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1 / 2 Tystysgrif mewn Iaith a Llenyddiaeth | Gradd 3 o leiaf |
Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn:
| Gradd 3 o leiaf |
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-C | Gradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf |
Bagloriaeth Cymru –Dim ond pan ddangosir elfen Gyfathrebu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Hanfodol | Lefel 2 o leiaf |
Cymhwyster Mathemateg | Meini prawf Lefel / Gradd |
---|---|
Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif neu Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif | Lefel 2 o leiaf |
TGAU/TGAU Ryngwladol Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys:
| Gradd 4 o leiaf neu Radd C o leiaf |
Sgiliau Gweithredol – Mathemateg | Lefel 2 o leiaf |
Safon Uwch/UG Mathemateg - unrhyw un â Mathemateg yn yr enw. Gan gynnwys: Mathemateg Bur, Mathemateg Bellach, Defnyddio Mathemateg | Gradd E o leiaf neu radd “O” Safon Uwch cyn 1986 o leiaf ( cyfateb i Radd Gyffredin) |
Mathemateg Lefel O | Gradd C o leiaf Neu dystiolaeth cyn 1975 o lwyddo |
Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif (Rhifedd) | Lefel 2 o leiaf |
Tystysgrif Gogledd Iwerddon mewn Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif | Lefel 2 o leiaf |
TAU Mathemateg | Lefel 1 o leiaf |
Mathemateg Graidd Lefel 3 (pan fo wedi ei chynnwys yn y tablau perfformiad)
| Gradd E o leiaf |
Cymhwyster Mathemateg Annibynnol Lefel 2 - Sylfeini Mathemateg Uwch | Gradd C o leiaf |
Tystysgrif Pre U mewn Mathemateg neu Fathemateg Bellach | P3 o leiaf |
Cymhwyster Uwch Estynedig yr Alban mewn Mathemateg | Gradd C o leiaf |
Cymhwyster Uwch yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 6) | Gradd C o leiaf |
Cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 mewn Mathemateg neu Sgiliau Bywyd mewn Mathemateg neu Gymhwyso Mathemateg (SCQF Lefel 5) | Gradd D o leiaf |
Cymhwyster Canolradd yr Alban 2 mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5) | Gradd C o leiaf |
Gradd Safonol Gyffredinol yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5) | 2 o leiaf |
Uned Sgiliau Craidd yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 5) Gwybodaeth Graffigol a Defnyddio Rhif | Llwyddo |
Uned Sgiliau Craidd Gweithle yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 5) | Llwyddo |
Uned Genedlaethol yr Alban mewn Rhifedd (SCQF Lefel 5) | Llwyddo |
Gradd Gyffredin yr Alban mewn Mathemateg (SCQF Lefel 5) | Gradd C o leiaf |
Rhaglen Blynyddoedd Canol y Fagloriaeth Ryngwladol Lefel 1/2 Tystysgrif mewn Mathemateg neu Fathemateg Estynedig | Gradd 3 o leiaf |
Cymhwyster Safonol neu Lefel Uwch Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol mewn: Astudiaethau Mathemategol; neu Fathemategol; neu Fathemateg Bellach | Gradd 3 o leiaf |
Mae cymwysterau tramor yn dderbyniol gyda thystiolaeth glir gan NARIC (tystysgrif / datganiad o gymharedd) fod y cymhwyster ar lefel sy’n cyfateb i ofynion sylfaenol y SASW a gwybodaeth ychwanegol sy’n cadarnhau bod y cymhwyster yn cyfateb i TGAU A*-C | Gradd sy’n cyfateb i TGAU A*-C o leiaf |
Bagloriaeth Cymru –Dim ond pan ddangosir elfen Cymhwyso Rhif Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Hanfodol | Lefel 2 o leiaf”. |
13. Yn lle’r pennawd ym mharagraff 38 rhodder “Fframweithiau Prentisiaeth Uwch (Lefelau 4 a 5)”.
14. Ar ôl paragraff 42 mewnosoder—
“Prentisiaethau Gradd neu Broffesiynol (Lefel 6 a 7) – Cymwysterau sy’n gysylltiedig â’r sector | Cyfeirnodau adran |
---|---|
43. Rhaid i fframwaith prentisiaeth gradd neu broffesiynol nodi’r cymhwyster cymwyseddau galwedigaethol y mae’n rhaid i’r prentis eu cyflawni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tystysgrif prentisiaeth Cymru, a’r cymhwyster sy’n ofynnol er mwyn dangos cymhwysedd wrth gyflawni’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi. Rhaid i’r cymhwyster cymwyseddau fod ar lefel y fframwaith a bennir a chael ei ategu gan Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) lle y maent yn bodoli, neu safonau ar gyfer y diwydiant cyfan neu safonau proffesiynol lle nad ydynt yn bodoli. | Adran 31(2)(c)(iii) |
44. Rhaid i fframwaith prentisiaeth gradd neu broffesiynol nodi cymhwyster gwybodaeth dechnegol y mae’n rhaid i’r prentis ei gyflawni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tystysgrif prentisiaeth Cymru. Cymhwyster gwybodaeth dechnegol yw’r cymhwyster sy’n ofynnol i ddangos bod y sgiliau technegol, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r cysyniadau damcaniaethol a’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r diwydiant a’i farchnad yn berthnasol i’r sgil, y fasnach neu’r alwedigaeth y mae’r fframwaith yn ymwneud ag ef/â hi wedi eu cyflawni. | Adran 31(2)(c)(ii) |
45. Rhaid i fframwaith prentisiaeth gradd a phroffesiynol nodi: cymhwyster cymwyseddau galwedigaethol a chymhwyster gwybodaeth dechnegol ar wahân ar Lefel 6 o leiaf; neu gymhwyster integredig ar Lefel 6 o leiaf sy’n cyfuno cymwyseddau galwedigaethol ac elfennau gwybodaeth dechnegol y caiff pob elfen ei hasesu ar wahân ynddynt; neu bennu cymhwyster gwybodaeth dechnegol berthnasol a gydnabyddir gan gorff proffesiynol sy’n cynrychioli’r maes galwedigaethol. | Adran 31(2)(a) Adran 31(2)(c)(iii) |
Sgiliau Hanfodol | |
---|---|
46. Nid oes unrhyw ofynion sgiliau hanfodol ar gyfer fframweithiau prentisiaeth Gradd a Phroffesiynol. |
Hyfforddiant mewn swydd a hyfforddiant y tu allan i’r gwaith | |
---|---|
47. Mae’r gofynion fel y maent ar gyfer fframwaith prentisiaeth sylfaen ar Lefel 2 | Adran 31(2)(b)”. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: