- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
9. Caiff y rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—
(a)tynnu hysbysiad cosb ariannol benodedig yn ôl;
(b)tynnu hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad adennill cost gorfodaeth yn ôl neu leihau’r swm a bennir yn yr hysbysiad;
(c)tynnu hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop yn ôl neu ddiwygio’r camau a bennir yn yr hysbysiad er mwyn lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.
10.—(1) Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(2) Mewn unrhyw apêl (ac eithrio mewn perthynas â hysbysiad stop) pan fo cyflawni trosedd yn fater y mae’n ofynnol penderfynu arno, rhaid i’r rheoleiddiwr brofi’r drosedd honno yn ôl yr un baich profi a’r un safon brofi ag mewn erlyniad troseddol.
(3) Mewn unrhyw achos arall rhaid i’r Tribiwnlys bennu’r safon brofi.
(4) Mae pob hysbysiad (ac eithrio hysbysiadau stop) wedi ei atal dros dro wrth aros am apêl.
(5) Caiff y Tribiwnlys atal dros dro neu amrywio hysbysiad stop.
(6) Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—
(a)tynnu’r gofyniad neu’r hysbysiad yn ôl;
(b)cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;
(c)amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad;
(d)cymryd unrhyw gamau y gallai’r rheoleiddiwr eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad;
(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, i’r rheoleiddiwr.
11.—(1) Pan fo pŵer i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â throsedd yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr yn y Rheoliadau hyn—
(a)rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o’r sancsiwn;
(b)yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol;
(c)rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol;
(d)rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.
(2) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gosb yn debygol o gael ei gosod;
(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei gosod;
(c)swm y gosb;
(d)sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw; ac
(e)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.
(3) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod;
(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod;
(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys person yn rhoi gwybod o’i wirfodd nad yw wedi cydymffurfio); a
(d)hawliau i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a hawliau apelio.
(4) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â hysbysiad stop, yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) yw gwybodaeth am—
(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o gyflwyno’r hysbysiad;
(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod; ac
(c)hawliau apelio.
12. Rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth sy’n pennu—
(a)o dan ba amgylchiadau y maent yn debygol o gael eu gosod;
(b)o dan ba amgylchiadau na chaniateir eu gosod;
(c)materion i’w hystyried wrth bennu’r swm o dan sylw;
(d)hawliau apelio.
13. Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu unrhyw ganllawiau diwygiedig o dan y Rheoliadau hyn.
14.—(1) Pa fo pŵer yn cael ei roi i’r rheoleiddiwr i osod sancsiwn sifil o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â throsedd, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiadau sy’n pennu—
(a)yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt;
(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ynddynt yn sgil talu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd;
(c)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol amrywiadwy neu’n hysbysiad cydymffurfio, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt;
(d)achosion yr ymrwymwyd i ymgymeriad gorfodi ynddynt.
(2) Ym mharagraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyhoeddi camau gorfodi yn amhriodol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: