- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 3
1.—(1) Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â throsedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.
(2) Cyn gwneud hynny rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Swm y gosb sydd i’w thalu i’r rheoleiddiwr fel cosb ariannol benodedig yw £200.
2.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw.
(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros y cynnig i osod y gosb ariannol benodedig;
(b)swm y gosb;
(c)datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;
(d)gwybodaeth am—
(i)effaith y taliad rhyddhau hwnnw;
(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
(iii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gofyniad (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
3. Caiff y gosb ei rhyddhau os yw person sy’n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad.
4. Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig.
5.—(1) Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol sy’n gosod cosb ariannol benodedig.
(2) Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(3) Ni chaiff rheoleiddiwr sy’n cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.
6. Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—
(a)swm y gosb;
(b)y seiliau dros osod y gosb;
(c)sut y caniateir talu;
(d)y cyfnod o 56 o ddiwrnodau y mae rhaid talu o’i fewn;
(e)manylion y disgowntiau am dalu’n gynnar a’r cosbau am dalu’n hwyr;
(f)hawliau apelio; ac
(g)canlyniadau peidio â thalu.
7. Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau’r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol.
8.—(1) Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(d)unrhyw reswm tebyg arall.
9.—(1) Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 56 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad terfynol.
(2) Os na thelir y gosb o fewn 56 o ddiwrnodau cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.
(3) Yn achos apêl mae’n daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau cynyddir swm y gosb 50%.
10.—(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a
(b)os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.
(2) Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
Rheoliad 3
1.—(1) Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod—
(a)gofyniad i dalu cosb ariannol i’r rheoleiddiwr o unrhyw swm y caiff y rheoleiddiwr ei ganfod (“cosb ariannol amrywiadwy”);
(b)gofyniad i gymryd unrhyw gamau y caiff y rheoleiddiwr eu pennu, o fewn unrhyw gyfnod y caiff ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto (“hysbysiad cydymffurfio”);
neu gyfuniad o’r gofynion hyn, mewn perthynas â throsedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.
(2) Cyn gwneud hynny rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan y paragraff hwn ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
(4) Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o’r drosedd.
2.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr yn cynnig gosod gofyniad ar berson o dan yr Atodlen hon, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Yn achos hysbysiad cydymffurfio arfaethedig rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros yr hysbysiad arfaethedig;
(b)gofyniad yr hysbysiad;
(c)gwybodaeth am—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod yr hysbysiad (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
(3) Yn achos cosb ariannol amrywiadwy arfaethedig rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y seiliau dros osod y gosb ariannol amrywiadwy;
(b)swm y gosb,
(c)gwybodaeth am—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
3. Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio.
4.—(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran y camau sydd i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno (“ymgymeriad trydydd parti”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti o’r fath.
5.—(1) Ar ôl i’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ddod i ben, rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai—
(a)i osod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)i osod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr bŵer i’w osod o dan yr Atodlen hon.
(2) Wrth wneud ei benderfyniad, rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i unrhyw ymgymeriad trydydd parti a dderbyniwyd ganddo.
(3) Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 6 neu 7.
(4) Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
6. Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros osod y gosb;
(b)y swm sydd i’w dalu;
(c)sut y caniateir talu;
(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau;
(e)hawliau apelio; ac
(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
7. Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;
(b)pa gamau cydymffurfio sy’n ofynnol ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid eu cymryd;
(c)yr hawliau apelio; a
(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
8.—(1) Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, fod swm y gosb yn afresymol;
(d)yn achos hysbysiad cydymffurfio, fod natur y gofyniad yn afresymol;
(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(f)unrhyw reswm tebyg arall.
9.—(1) Os—
(a)gosodir cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio ar unrhyw berson, neu
(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti oddi wrth unrhyw berson,
ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy, yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
(2) Mae’r achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn achos—
(a)pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei osod ar berson neu pan fo ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,
(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac
(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
(3) Caniateir dechrau achos troseddol am drosedd y mae hysbysiad neu ymgymeriad yn is-baragraff (2) yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad pan fydd y rheoleiddiwr yn hysbysu’r person bod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad neu’r ymgymeriad hwnnw.
Rheoliad 3
1.—(1) Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â throsedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.
(2) Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad stop ond mewn achos sydd o fewn is-baragraff (3) neu (4).
(3) Mae achos sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn achos—
(a)pan fo’r person yn ymgymryd â’r gweithgarwch,
(b)pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgarwch fel y mae’r person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn achosi niwed difrifol i unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), neu’n peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath, ac
(c)pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgarwch fel y mae’r person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023 gan y person hwnnw.
(4) Mae achos sy’n dod o fewn yr is-baragraff hwn yn achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol—
(a)bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgarwch,
(b)y bydd y gweithgarwch fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw’n ymgymryd ag ef yn achosi niwed sylweddol i unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5), neu y bydd yn peri risg sylweddol o achosi niwed o’r fath, ac
(c)y bydd y gweithgarwch fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw’n ymgymryd ag ef yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023 gan y person hwnnw.
(5) Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (3)(b) a (4)(b) yw—
(a)iechyd dynol,
(b)yr amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid a phlanhigion).
2. Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad stop;
(b)y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop;
(c)hawliau apelio; a
(d)canlyniadau peidio â chydymffurfio.
3.—(1) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;
(e)nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
(f)na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
(g)unrhyw reswm tebyg arall.
4.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).
(2) Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.
(3) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo wneud cais am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau o fewn 14 o ddiwrnodau i gais o’r fath.
(5) Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y sail bod y penderfyniad—
(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)yn anghywir mewn cyfraith;
(c)yn annheg neu’n afresymol;
(d)yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.
5.—(1) Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau os yw’r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i’r hysbysiad neu’r gwrthodiad ac—
(a)bod yr hysbysiad stop yn cael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio wedi hynny gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol;
(b)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol; neu
(c)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.
(2) Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu benderfyniad ynghylch swm y digollediad—
(a)ar y sail bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;
(b)ar y sail bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar wallau ffeithiol;
(c)am unrhyw reswm tebyg arall.
6. Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—
(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy, neu i ddedfryd o garchar am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cyffredinol mewn llys ynadon, neu’r ddau, neu
(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddedfryd o garchar am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu’r ddau.
Rheoliad 3
1. Caiff y rheoleiddiwr dderbyn ymgymeriad gorfodi gan berson mewn achos pan fo gan y rheoleiddiwr sail resymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd o dan adran 5 o Ddeddf 2023.
2.—(1) Rhaid i ymgymeriad gorfodi fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—
(a)camau i sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau nac yn digwydd eto,
(b)camau i sicrhau bod y sefyllfa, i’r graddau y bo’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn a fyddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni,
(c)camau (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno, neu
(d)pan na fo’n bosibl adfer y niwed sy’n deillio o’r drosedd, gamau a fydd yn sicrhau budd cyfatebol neu welliant i’r amgylchedd.
(2) Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd y camau.
(3) Rhaid iddo gynnwys—
(a)datganiad bod yr ymgymeriad wedi ei wneud yn unol â’r Atodlen hon;
(b)telerau’r ymgymeriad;
(c)sut a phryd yr ystyrir bod person wedi cyflawni’r ymgymeriad.
(4) Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodi, neu ymestyn y cyfnod y mae rhaid cymryd y camau o’i fewn, os yw’r ddau barti yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.
3. Os yw’r rheoleiddiwr wedi derbyn ymgymeriad gorfodi, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad neu unrhyw ran ohono—
(a)ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud â hi;
(b)ni chaiff y rheoleiddiwr osod unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy nac unrhyw hysbysiad cydymffurfio ar y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred honno.
4.—(1) Rhaid i’r rheoleiddiwr sefydlu a chyhoeddi’r weithdrefn ar gyfer ymrwymo i ymgymeriad gorfodi.
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn gwneud hynny.
(3) Pan fydd yn derbyn ymgymeriad caiff y rheoleiddiwr ei gyhoeddi ym mha bynnag fodd y gwêl yn dda.
5.—(1) Rhaid i reoleiddiwr sydd wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodi ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw.
(2) Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.
(3) Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais am dystysgrif o’r fath ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif o’r fath, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig am y penderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau i gais o’r fath.
(5) Caiff y person y rhoddir yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif ar y sail bod y penderfyniad—
(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)yn anghywir mewn cyfraith;
(c)yn annheg neu’n afresymol;
(d)yn anghywir am unrhyw reswm tebyg arall.
6.—(1) Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodi i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.
(2) Caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 5 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol.
7.—(1) Os na chydymffurfir ag ymgymeriad gorfodi, caiff y rheoleiddiwr naill ai—
(a)cyflwyno hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio, neu
(b)cychwyn achos troseddol
mewn cysylltiad â’r drosedd.
(2) Os yw person wedi cydymffurfio’n rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu unrhyw sancsiwn arall ar y person.
(3) Caniateir cychwyn achos troseddol am y drosedd y mae ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at chwe mis o’r dyddiad y mae’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person bod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: