- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gwnaed
19 Rhagfyr 2023
Yn dod i rym
1 Chwefror 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1)(b) a 15(4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2024.
2. Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010(2) wedi ei ddiwygio yn unol â’r Atodlen.
3. Bydd unrhyw hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 ac sy’n cael effaith pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym, yn parhau mewn grym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
19 Rhagfyr 2023
Erthygl 2
1. Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “map a adneuwyd”, yn lle “yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 23 Mehefin 2017” rhodder “yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru a Lloegr” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 15 Rhagfyr 2023(3)”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “ardal risg uchel yn Lloegr” (“high-risk area in England”) yw’r holl dir sydd wedi ei arlliwio a’i nodi’n “Ardal Risg Uchel” ar y map a adneuwyd;”;
(c)yn y diffiniad o “uned besgi drwyddedig”, ar ôl “arolygydd” mewnosoder “milfeddygol”;
(d)yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol” (“officially tuberculosis-free status”) yw’r statws sy’n deillio o fodloni’r amodau a bennir gan Weinidogion Cymru i alluogi masnachu gwartheg heb gyfyngiadau ar symud yn ymwneud â thwbercwlosis;”.
2. Yn erthygl 8 (hysbysu am glefyd mewn anifeiliaid buchol), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i berson, heblaw am y ceidwad, sy’n gwneud hysbysiad o dan baragraff (1) hysbysu’r ceidwad am ei amheuaeth hefyd.”
3. Yn erthygl 13A (profion ar ôl symud)—
(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Pan symudir anifail buchol i’r ardal TB ganolradd o fuches a leolir yn—
(a)yr ardal TB uchel,
(b)yr ardal risg uchel yn Lloegr, neu
(c)Gogledd Iwerddon,
rhaid i’r ceidwad sy’n cael yr anifail drefnu i brawf ar ôl symud gael ei gynnal arno gan filfeddyg cymeradwy ddim llai na 60 diwrnod, ond ddim mwy na 120 diwrnod, ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd yr anifail y fangre sy’n ei gael.”;
(b)ym mharagraff (3), yn lle “paragraff (2)” rhodder “paragraffau (2) na (2A)”.
4. Yn erthygl 14 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ba mor hir y mae buches wedi bod â statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol ar unrhyw ffurf y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas at ddibenion helpu personau eraill i ddiogelu rhag lledaeniad pellach twbercwlosis.”
5. Yn erthygl 14A (unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy)—
(a)yn y pennawd hepgorer “Unedau pesgi eithriedig ac”;
(b)ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (a);
(c)ym mharagraff (2), yn is-baragraff (b) hepgorer “uned besgi eithriedig neu’r”;
(d)ym mharagraff (3) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”;
(e)ym mharagraff (4) hepgorer “uned besgi eithriedig nac”;
(f)ym mharagraff (5) hepgorer “uned besgi eithriedig nac”;
(g)ym mharagraff (6) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”;
(h)yn lle paragraff (7) rhodder—
“(7) Mae uned besgi yn Lloegr sydd wedi ei chymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gymryd anifeiliaid buchol sydd wedi eu symud heb brawf cyn symud yn uned besgi eithriedig at ddibenion y Gorchymyn hwn.”
6. Yn erthygl 15 (gwaharddiadau)—
(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Ni chaiff unrhyw berson gymryd sampl o anifail buchol at ddiben rhoi diagnosis o dwbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.”
(b)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) Pan fo prawf perthnasol wedi ei gynnal ar anifail buchol, ni chaiff person, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, symud yr anifail hwnnw o’r fangre lle cynhaliwyd y prawf hyd nes bod canlyniad negatif wedi cael ei ddarllen gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy a hyd nes bod y ceidwad wedi cael gwybod am y canlyniad hwnnw.”
7. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5 (unedau pesgi eithriedig ac unedau pesgi cymeradwy)—
(a)yn y pennawd hepgorer “Unedau pesgi eithriedig ac”;
(b)yn is-baragraff (1)(a) hepgorer “uned besgi eithriedig neu”.
8. Yn Atodlen 2—
(a)ym mharagraff 5 (symud i unedau pesgi eithriedig) hepgorer “a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A”;
(b)hepgorer paragraff 8 (symud o fewn yr ardal TB isel neu ohoni).
9. Yn Atodlen 3—
(a)ym mharagraff 3 (symud i unedau pesgi eithriedig) hepgorer “a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A”;
(b)ar ôl paragraff 6 (symud i sioeau amaethyddol) mewnosoder—
“(6A) Symud anifail buchol i sioe amaethyddol yn yr ardal TB ganolradd, neu ddychwelyd anifail i’r ardal TB ganolradd o sioe amaethyddol y tu allan i’r ardal TB ganolradd, ar yr amod—
(a)nad yw’r symud yn golygu aros am fwy na 24 awr neu letya’r anifail hwnnw ar faes y sioe, a
(b)bod yr anifail naill ai’n mynd yn uniongyrchol o’r sioe i’w gigydda neu’n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y sioe.”;
(c)yn lle paragraff 7 (symud o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel) rhodder—
7. Symud anifail buchol o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel. Mae i “ardal risg isel” yr ystyr a roddir i “low-risk area” yn erthygl 2(1) o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021(4) ac Atodlen 1 iddo.”
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy. 122)) (“Gorchymyn 2010”).
Mae’r diwygiadau wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Mae paragraff 1 o’r Atodlen yn ychwanegu diffiniad o “ardal risg uchel yn Lloegr” at Orchymyn 2010 fel rhan o gyflwyno profion ar ôl symud yn yr ardal TB ganolradd yng Nghymru. Mae paragraff 1 hefyd yn ychwanegu diffiniad o “statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol” ac yn diwygio’r diffiniadau o “map a adneuwyd” ac “uned besgi drwyddedig”.
Mae paragraff 2 yn mewnosod paragraff newydd yn erthygl 8 o Orchymyn 2010 i osod rhwymedigaeth ar berson sy’n gwneud hysbysiad yr amheuir twbercwlosis o dan erthygl 8(1) i hysbysu’r ceidwad am ei amheuaeth hefyd.
Mae paragraff 3 yn mewnosod paragraff newydd (2A) yn erthygl 13A o Orchymyn 2010 sy’n ei gwneud yn ofynnol i geidwaid yn yr ardal TB ganolradd sy’n cael anifeiliaid buchol o’r ardal TB uchel, o’r ardal risg uchel yn Lloegr, neu o Ogledd Iwerddon, drefnu bod prawf croen ar ôl symud yn cael ei gynnal gan filfeddyg cymeradwy a thalu am y prawf hwnnw. Mae erthygl 13A(3) wedi ei diwygio fel y bydd yr eithriadau cyfredol i’r gofyniad am brawf ar ôl symud yn gymwys i’r paragraff newydd (2A) hefyd.
Mae paragraff 4 yn ychwanegu paragraff newydd at erthygl 14 o Orchymyn 2010 i ddarparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am fuchesi â statws rhydd rhag twbercwlosis swyddogol.
Mae paragraff 5 yn diwygio erthygl 14A o Orchymyn 2010 i ddileu cyfeiriadau at unedau pesgi eithriedig (gan nad yw’r rhain yn bodoli mwyach y tu allan i Loegr).
Mae paragraff 6 yn diwygio erthygl 15 o Orchymyn 2010. Mewnosodir paragraff newydd (2A) i wahardd cymryd sampl o anifail buchol heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru. Ychwanegir paragraff newydd (6) hefyd i wahardd person rhag symud anifail o fangre rhwng cynnal prawf perthnasol a chael canlyniad y prawf hwnnw.
Mae paragraff 7 yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 1 i Orchymyn 2010 i ddileu cyfeiriadau at unedau pesgi eithriedig.
Mae paragraff 8 yn diwygio Atodlen 2 i Orchymyn 2010. Mae paragraff 5 o Atodlen 2 wedi ei ddiwygio i ddileu’r cyfeiriad at unedau pesgi eithriedig a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru. Mae paragraff 8 o Atodlen 2 wedi ei hepgor er mwyn ailgyflwyno profion cyn symud ar gyfer symudiadau anifeiliaid buchol o fewn yr ardal TB isel ac ohoni.
Mae paragraff 9 yn diwygio Atodlen 3 i Orchymyn 2010. Mae paragraff 3 o Atodlen 3 wedi ei ddiwygio i ddileu cyfeiriad at unedau pesgi eithriedig a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru. Mae paragraff newydd 6A wedi ei fewnosod sy’n caniatáu rhai symudiadau ychwanegol i sioeau amaethyddol ac oddi yno heb ei gwneud yn ofynnol cynnal profion ar ôl symud. Mae’r diffiniad o “yr ardal risg isel yn Lloegr” ym mharagraff 7 o Atodlen 3 wedi ei ddiweddaru i gyd-fynd â’r diffiniad o “low-risk area” yng Ngorchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (O.S. 2021/1001) yn dilyn dirymu Gorchymyn Twbercwlosis (Lloegr) 2014 (O.S. 2014/2383).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1981 p. 22. Mae swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22) (fel y’u diffinnir yn adran 86(1) o’r Ddeddf honno) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru) yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044); ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2010/1379 (Cy. 122), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/692 (Cy. 104), 2014/632 (Cy. 72), 2015/1773 (Cy. 245), 2016/328 (Cy. 104), 2017/711 (Cy. 168) a 2019/372 (Cy. 93).
Mae’r map wedi ei adneuo ac ar gael i edrych arno yn Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Gellir cael gafael ar gopi o’r map ar www.llyw.cymru/tb-mewn-gwartheg.
O.S. 2021/1001 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2023/867.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: