- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
12 Mehefin 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
14 Mehefin 2024
Yn dod i rym
1 Awst 2024
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 1 Awst 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996(3) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “self-employment route”, ym mharagraff (b)(ii)(4), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers or the Commission for Tertiary Education and Research”.
(3) Yn rheoliad 41 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “access funds”(5)—
(i)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)grants made under section 85 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 for the purposes of providing funds on a discretionary basis to be paid to students;”;
(ii)yn lle paragraff (d) rhodder—
“(d)discretionary payments made from funds known as “Financial Contingency Funds” paid to students by the Welsh Ministers under section 14 of the Education Act 2002;”;
(b)yn y diffiniad o “full-time course of study”(6)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “or by the National Assembly for Wales” rhodder “, by the Welsh Ministers or by the Commission for Tertiary Education and Research,”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “or by the National Assembly for Wales” rhodder “, by the Welsh Ministers or by the Commission for Tertiary Education and Research”;
(iii)ym mharagraff (b)(ii)—
(aa)yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers or by the Commission for Tertiary Education and Research”;
(bb)yn lle “that Council” rhodder “the Welsh Ministers or the Commission for Tertiary Education and Research”.
(4) Yn rheoliad 43 (penderfynu incwm grant), hepgorer paragraff (3A)(7).
(5) Yn rheoliad 46 (trin benthyciadau i fyfyrwyr)—
(a)ym mharagraff (1)(8), hepgorer “unless it is a hardship loan, in which case it shall be disregarded”;
(b)hepgorer paragraff (1A)(9);
(c)ym mharagraff (2)(aa)(10), yn lle “regulation 2 of the Education (Student Support) Regulations 2002” rhodder “Schedule 7 to the Education (Student Support) (Wales) Regulations 2018”.
Julie James
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
12 Mehefin 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (“Rheoliadau 1996”), sy’n nodi’r prawf modd ar gyfer penderfynu swm y grant y caniateir i awdurdodau tai lleol ei dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“Deddf 2022”) yn sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”) ac yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1996 i ddiweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth a ddiddymir gan Ddeddf 2022 ac i roi cyfeiriad at Weinidogion Cymru neu’r Comisiwn, fel y bo’n briodol, yn lle cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 1996 i gywiro cyfeiriadau nad ydynt yn gyfredol bellach at ddeddfwriaeth cymorth i fyfyrwyr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 30, 146(1) a 146(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Ailenwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru neu Welsh Parliament gan adran 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1). Yn rhinwedd paragraff 7 o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r gofyniad i gael cymeradwyaeth y Trysorlys yn adran 30(9) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 wedi ei ddatgymhwyso.
O.S. 1996/2890; y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2001/2073 (Cy. 145), O.S. 2002/2798 (Cy. 266), O.S. 2004/253 (Cy. 28), O.S. 2005/3238 (Cy. 243), O.S. 2010/297 (Cy. 39). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Mewnosodwyd y diffiniad o “self-employment route” yn rheoliad 2(1) gan O.S. 2001/2073 (Cy. 145), rheoliad 3(c). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Mewnosodwyd y diffiniad o “access funds” yn rheoliad 41 gan O.S. 2001/2073 (Cy. 145), rheoliad 12(a). Y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2002/2798 (Cy. 266), O.S. 2005/3238 (Cy. 243) ac O.S. 2010/297 (Cy. 39). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2002/2798 (Cy. 266) ac O.S. 2005/3238 (Cy. 243).
Mewnosodwyd paragraff (3A) gan O.S. 2002/2798 (Cy. 266), rheoliad 13(c), ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2004/253 (Cy. 28).
Amnewidiwyd paragraff (1) gan O.S. 2001/2073 (Cy. 145), rheoliad 15(a).
Mewnosodwyd paragraff (1A) gan O.S. 2001/2073 (Cy. 145), rheoliad 15(a).
Mewnosodwyd paragraff (2)(aa) gan O.S. 2002/2798 (Cy. 266), rheoliad 14(a).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: