- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 7(3)(a)
1. Daeth eich cais dyddiedig ………………rhowch y dyddiad
i law ar …………………………..rhowch y dyddiad
*[Nid ydym wedi cwblhau ein harchwiliad o ffurf y cais a’r planiau a’r dogfennau cysylltiedig eto er mwyn penderfynu a yw eich cais yn cydymffurfio â’r gofynion statudol. Os byddwn yn penderfynu, yn dilyn archwiliad pellach, fod y cais yn annilys am fethu â chydymffurfio â gofynion o’r fath, byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig cyn gynted â phosibl.]
*dilëwch os nad yw’n briodol
2. Os, erbyn ……………………….…………………….
rhowch ddyddiad o 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r cais, y dystysgrif a’r datganiad o’r effaith ar dreftadaeth i law
(a)nad ydych wedi cael hysbysiad gan yr awdurdod hwn—
(i)bod eich cais yn annilys;
(ii)o’n penderfyniad;
(iii)bod eich cais wedi cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu, neu
(b)nad ydym wedi cytuno â chi yn ysgrifenedig y byddwn yn estyn y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i ni roi ein penderfyniad, fe gewch apelio.
3. Mae’r hawl i apelio, a’r weithdrefn ar gyfer apelio, yn adrannau 100 i 102 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
4. Rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl ar ffurflen y gallwch ei chael gan Weinidogion Cymru.
5. Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad sy’n gwrthod y cais neu sy’n ei ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â/ag ……...…………………………………….
rhowch ddyddiad o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad
Rheoliad 13 (3)(b)
1. Os ydych wedi eich tramgwyddo gan benderfyniad yr awdurdod cynllunio i wrthod cydsyniad ar gyfer y gwaith neu i’w roi yn ddarostyngedig i amodau, fe gewch apelio i Weinidogion Cymru. Mae’r hawl i apelio, a’r weithdrefn ar gyfer apelio, yn adrannau 100 i 102 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
2. Rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl ar ffurflen y gallwch ei chael gan Weinidogion Cymru. Rhaid i chi gyflwyno unrhyw hysbysiad o apêl yn ystod y 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.
3. Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cyfnod hwy i chi roi hysbysiad o apêl, ond ni fyddant fel arfer yn fodlon gwneud hynny oni bai bod amgylchiadau arbennig.
4. Os yw cydsyniad yn cael ei wrthod, neu’n cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau (pa un ai gan yr awdurdod cynllunio neu gan Weinidogion Cymru), os yw’r amodau ym mharagraff 6 wedi eu bodloni, mae gan y perchennog yr hawliau a ddisgrifir ym mharagraff 8.
5. Yn y paragraffau a ganlyn, ystyr “tir cysylltiedig” yw tir sy’n cynnwys yr adeilad, sy’n cydffinio ag ef neu sy’n gyfagos iddo ac a berchnogir gyda’r adeilad, ac ystyr “defnyddiadwy” yw bod modd gwneud defnydd rhesymol fuddiol ohono.
6. Yr amodau yw bod perchennog yr adeilad a’r tir cysylltiedig yn honni—
(a)bod yr adeilad a’r tir cysylltiedig yn annefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol,
(b)nad yw’n bosibl gwneud yr adeilad na’r tir cysylltiedig yn ddefnyddiadwy—
(i)mewn achos pan fo cydsyniad adeilad rhestredig wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau neu wedi ei addasu drwy osod amodau, drwy gyflawni’r gwaith y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef yn unol â’r amodau, a
(ii)mewn unrhyw achos, drwy gyflawni unrhyw waith arall y rhoddwyd cydsyniad ar ei gyfer neu y mae’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru wedi ymrwymo i roi cydsyniad ar ei gyfer,
(c)na ellir gwahanu’n sylweddol y defnydd o’r tir cysylltiedig oddi wrth y defnydd o’r adeilad rhestredig, a
(d)y dylid trin y tir cysylltiedig, ynghyd â’r adeilad, fel un daliad.
7. Mae rhagor o fanylion am ystyr “yn ddefnyddiadwy yn eu cyflwr presennol/ei gyflwr presennol” yn adran 109(7) ac (8) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
8. Os bodlonir yr amodau ym mharagraff 6, caiff y perchennog gyflwyno hysbysiad prynu i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio brynu buddiant y perchennog yn yr adeilad a’r tir cysylltiedig.
9. Mae rhagor o fanylion am yr hawl hon yn adrannau 109 i 112 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
Rheoliad 15 (3)(c)
1. Cewch apelio i Weinidogion Cymru os ydych wedi eich tramgwyddo gan benderfyniad yr awdurdod cynllunio—
(a)i wrthod amrywio neu ddileu’r amodau sydd ynghlwm wrth gydsyniad, neu
(b)i gynnwys amodau newydd.
2. Mae’r hawl i apelio, a’r weithdrefn ar gyfer apelio, yn adrannau 100 i 102 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.
3. Rhaid i chi gyflwyno unrhyw apêl ar ffurflen y gallwch ei chael gan Weinidogion Cymru. Rhaid i chi gyflwyno unrhyw hysbysiad o apêl yn ystod y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.
4. Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cyfnod hwy i chi roi hysbysiad o apêl, ond ni fyddant fel arfer yn fodlon gwneud hynny oni bai bod amgylchiadau arbennig.
Rheoliad 27
1. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(1), yn Rhan A, rhes 22, yn yr ail golofn, yn lle “rheoliadau 3” hyd at y diwedd, rhodder “Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024”.
2. Mae Rheoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “conservation area consent” a “listed building consent”, ar ôl “Act” mewnosoder “in relation to areas and buildings in England, and have the same meanings respectively as in section 162 and section 89 of the Historic Environment (Wales) Act 2023 in relation to areas and buildings in Wales”.
4. Yn rheoliad 3—
(a)ar ddiwedd y pennawd mewnosoder “in relation to England”;
(b)ym mharagraff (1), ar ôl “required” mewnosoder “in relation to a listed building or conservation area in England,”.
5. Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—
3A.—(1) This regulation applies where listed building consent or conservation area consent is required in relation to a listed building or conservation area in Wales for the purposes of proposals included in a section 6 application and either—
(a)the application for consent has been made not later than 10 weeks after the section 6 application, or
(b)the Secretary of State considers it appropriate that this regulation should apply and has given a direction to that effect.
(2) Where this regulation applies, the Listed Buildings and Conservation Areas (Procedure and Interest Rate) (Wales) Regulations 2024 have effect with the modifications in Schedule 1A.”
6. Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder—
Regulation 3A
1. The Listed Buildings and Conservation Areas (Procedure and Interest Rate) (Wales) Regulations 2024 apply as if—
(a)in the Welsh text, in regulation 3(1), there were inserted before sub-paragraph (a)—
“(za)cynnwys unrhyw drychiadau, unrhyw fodelau, unrhyw ffotograffau ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith a chaiff gynnwys—
(i)trychiadau manwl,
(ii)darnau o blaniau a thrychiadau a gyflwynwyd, neu sydd i’w cyflwyno, gyda chais o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, neu
(iii)pan na fo unrhyw ddeunyddiau o’r fath wedi eu llunio ar ddyddiad y cais, disgrifiad ysgrifenedig clir o’r gwaith y bwriedir ei gyflawni yn yr adeilad neu i’r adeilad, wedi ei ategu gan unrhyw ddeunyddiau eraill y gall y ceisydd yn rhesymol eu darparu,”;
(b)in the English text, in regulation 3(1), there were inserted before sub-paragraph (a)—
“(za)include such sections, models, photographs and other materials as are necessary to describe the works and may include—
(i)detailed sections,
(ii)extracts from plans and sections submitted, or to be submitted, with an application under section 6 of the Transport and Works Act 1992, or
(iii)where no such materials have been prepared at the date of the application, a clear written description of the works proposed to be carried out at or to the building, supported by such other materials as the applicant is reasonably able to provide,”;
(c)in the Welsh text, in regulation 6, after paragraph (2)(a) there were inserted—
“(aa)bod—
(i)hysbysiad o’r cais cydredol wedi ei roi yn unol â rheolau a wnaed o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 i’r holl bersonau (ac eithrio’r ceisydd) a oedd, ar ddechrau cyfnod o 28 o ddiwrnodau a ddaeth i ben â dyddiad y cais cydredol, yn berchnogion ar yr adeilad;
(ii)pob hysbysiad o’r fath yn cynnwys datganiad bod cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth wedi ei wneud, neu i’w wneud, mewn cysylltiad â’r adeilad,”;
(d)in the English text, in regulation 6, after paragraph (2)(a) there were inserted—
“(aa)that—
(i)notice of the concurrent application has been given in accordance with rules made under section 6 of the Transport and Works Act 1992 to all the persons (other than the applicant) who, at the beginning of a period of 28 days ending with the date of the concurrent application, were owners of the building;
(ii)every such notice contains a statement that an application for listed building consent or conservation area consent has been, or is to be, made in respect of the building,”;
(e)in the Welsh text, after paragraph (3) there were inserted—
“(4) At ddiben y rheoliad hwn, ystyr “perchennog” yw—
(a)person sydd, am y tro, â hawl i waredu ffi syml yr adeilad (pa un a yw mewn meddiant neu rifersiwn) ac nad yw’n forgeisai nad yw mewn meddiant, neu
(b)person sy’n dal les neu gytundeb sydd ag o leiaf 3 blynedd yn weddill, neu berson sydd â hawl i rent ac elw’r tir o dan les neu gytundeb o’r fath.”;
(f)in the English text, after paragraph (3) there were inserted—
“(4) For the purpose of this regulation, “owner” means—
(a)a person who is, for the time being, entitled to dispose of the fee simple of the building (whether in possession or reversion) and who is not a mortgagee not in possession, or
(b)a person holding, or entitled to the rents and profits of the land under, a lease or agreement which has at least 3 years to run.”;
(g)in the Welsh text, after regulation 6 there were inserted—
6A. Rhaid i dystysgrif sy’n ofynnol gan reoliad 6(2)(aa) fod ar y ffurf a ganlyn—
Rwyf yn ardystio:
1. (Fy mod i) (Bod y ceisydd) [dileer fel y bo’n briodol] wedi cyflwyno, yn unol â rheolau a wnaed o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, yr holl hysbysiadau y mae’n ofynnol eu cyflwyno i’r personau (ac eithrio’r ceisydd) a oedd, ar ddechrau’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a ddaeth i ben â dyddiad cais o dan adran 6, yn berchnogion yr adeilad.
2. Bod pob hysbysiad o’r fath yn cynnwys datganiad bod cais (am gydsyniad adeilad rhestredig) (ac) (am gydsyniad ardal gadwraeth) [dileer fel y bo’n briodol] wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r adeilad.
Llofnodwyd ……………..
(Ar ran) ………
Dyddiad…………………”;
(h)in the English text, after regulation 6 there were inserted—
6A. A certificate which is required by regulation 6(2)(aa) must be in the form—
I certify that:
1. (I have) (The applicant has) [delete as appropriate] served, in accordance with rules made under section 6 of the Transport and Works Act 1992, all the notices required to be served on the persons (other than the applicant) who, at the beginning of the period of 28 days ending with the date of an application under section 6, were the owners of the building.
2. Every such notice contains a statement that an application for (listed building consent) (and) (conservation area consent) [delete as appropriate] has been made in respect of the building.
Signed ……………..
(On behalf of)………
Date…………………”;
(i)in the Welsh text, in regulation 8—
(i)after paragraph (3) there were inserted—
“(3A) O ran y gofyniad ym mharagraff (3)—
(a)mae’n gymwys fel pe bai’n ofyniad ar y ceisydd, nid yr awdurdod cynllunio, a
(b)rhaid ei fodloni heb fod yn fwy na 14 o ddiwrnodau cyn nac ar ôl dyddiad y cais.
(3B) Caniateir cyfuno’r hysbysiad ym mharagraff (3)(a) ag unrhyw hysbysiad o’r cais cydredol y mae’n ofynnol i’r ceisydd ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol gan reolau a wneir o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992.”;
(ii)in paragraph (4) for “21 o ddiwrnodau” there were substituted “42 o ddiwrnodau”;
(iii)after paragraph (4) there were inserted—
“(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cais cydredol” yw cais a wneir o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, sy’n ymwneud â chynigion y mae rhoi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth yn ofynnol ar eu cyfer.”;
(j)in the English text, in regulation 8—
(i)after paragraph (3) there were inserted—
“(3A) The requirement in paragraph (3)—
(a)applies as if it were a requirement on the applicant, not the planning authority, and
(b)must be met not more than 14 days before nor after the date of the application.
(3B) The notice in paragraph (3)(a) may be combined with such notice of the concurrent application as the applicant is required to publish in a local newspaper by rules made under section 6 of the Transport and Works Act 1992.”;
(ii)in paragraph (4) for “21 days” there were substituted “42 days”;
(iii)after paragraph (4) there were inserted—
“(5) In this regulation “concurrent application” means an application made under section 6 of the Transport and Works Act 1992, relating to proposals for which the granting of listed building consent or conservation area consent is required.””
7. Yn Atodlen 5 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995(3), hepgorer paragraff 15.
8. Yn Atodlen 1 i Orchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 1996(4), hepgorer paragraff 13.
9. Yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 1996(5), yn Rhan 2 hepgorer paragraff 15 a fewnosodwyd.
10. Yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004(6)—
(a)hepgorer erthygl 13;
(b)hepgorer Atodlen 4.
11. Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
12. Yn Atodlen 4—
(a)yn lle paragraff 2 yn Rhan 2 rhodder—
“2.—(1) Wrth eu cymhwyso i gais am gydsyniad adeilad rhestredig sy’n gysylltiedig â chais am ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, mae Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 yn gymwys fel a ganlyn.
Y ddarpariaeth | Yr addasiad neu’r datgymhwysiad |
---|---|
Rheoliad 3 (gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig) | Mae rheoliad 3 i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (3), y geiriau “os yw Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “os yw’r awdurdod cynllunio y gwneir y cais iddo”. |
Rheoliad 7 (cydnabod cais am gydsyniad adeilad rhestredig) | Mae rheoliad 7 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le— “7.Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw cais yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan adran 90(2) o Ddeddf 2023 neu gan y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.” |
Rheoliad 8 (hysbysebu ceisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig) | Nid yw rheoliad 8 yn gymwys. |
Rheoliad 9 (hysbysu’r cymdeithasau amwynder etc.) | Mae rheoliad 9 i’w ddarllen fel pe bai’r cyfeiriadau at awdurdod cynllunio yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru. |
Rheoliad 12 (penderfyniad ar gais) | Mae rheoliad 12 yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le— “12.Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad cyn diwedd y cyfnod penderfynu (“determination period”) y cyfeirir ato yn adran 62L o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.” |
Rheoliad 13 (hysbysiad o benderfyniad neu atgyfeiriad at Weinidogion Cymru) | Mae rheoliad 13 i’w ddarllen fel pe bai— (a)ym mharagraff (1)— (i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), y cyfeiriad at yr awdurdod cynllunio yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru; (ii)is-baragraff (b) a’r “neu” o’i flaen wedi eu hepgor; (b)y geiriau— “(2) Rhaid i’r penderfyniad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod penderfynu o fewn yr ystyr a roddir i “determination period” yn adran 62L o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.” wedi eu rhoi yn lle paragraff (2); (c)ym mharagraff (3)— (i)y geiriau “Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu” wedi eu rhoi yn lle “Pan fo’r awdurdod cynllunio yn penderfynu”; (ii)is-baragraff (b) a’r “a” o’i flaen wedi eu hepgor. |
Rheoliad 19 (ceisiadau gan awdurdod cynllunio i ddymchwel adeilad rhestredig) | Nid yw rheoliad 19 yn gymwys. |
Rheoliad 22 (cyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron) | Nid yw rheoliad 22 yn gymwys. |
(2) Yn y paragraff hwn, mae i “cydsyniad adeilad rhestredig” yr ystyr a roddir yn adran 89 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”;
(b)ym mharagraff 3(2) o Ran 2—
(i)yn lle “adran 8 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig,” rhodder “adran 89 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023,”;
(ii)yn lle’r geiriau o “rheoliadau 3(1), 3(2) a 6 (datganiadau dylunio a mynediad)” hyd at y diwedd rhodder “rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.”
13. Yn Atodlen 5—
(a)yn lle paragraff 2 o Ran 2 rhodder—
“2.—(1) Wrth eu cymhwyso mewn perthynas â chydsyniad ardal gadwraeth sy’n gysylltiedig â chais am ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, mae Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 yn gymwys gyda’r addasiadau a’r eithriadau a ganlyn (a gweler rheoliad 24 o’r Rheoliadau hynny).
Y ddarpariaeth | Yr addasiad neu’r datgymhwysiad |
---|---|
Rheoliad 3 (gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig) | Mae rheoliad 3 i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (3), y geiriau “os yw Gweinidogion Cymru” wedi eu rhoi yn lle “os yw’r awdurdod cynllunio y gwneir y cais iddo”. |
Rheoliad 7 (cydnabod cais am gydsyniad adeilad rhestredig) | Mae rheoliad 7 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le— “7.Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw cais yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan adran 90(2) o Ddeddf 2023 neu gan y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.” |
Rheoliad 8 (hysbysebu ceisiadau) | Nid yw rheoliad 8 yn gymwys. |
Rheoliad 12 (penderfyniad ar gais) | Mae rheoliad 12 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le— “12. Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad cyn diwedd y cyfnod penderfynu (“determination period”) y cyfeirir ato yn adran 62L o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.” |
Rheoliad 13 (hysbysiad o benderfyniad neu atgyfeiriad at Weinidogion Cymru) | Mae rheoliad 13 i’w ddarllen fel pe bai— (a)ym mharagraff (1)— (i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), y cyfeiriad at yr awdurdod cynllunio yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru; (ii)is-baragraff (b) a’r “neu” o’i flaen wedi eu hepgor; (b)y geiriau— “(2) Rhaid i’r penderfyniad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod penderfynu o fewn yr ystyr a roddir i “determination period” yn adran 62L o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.” wedi eu rhoi yn lle paragraff (2); (c)ym mharagraff (3)— (i)y geiriau “Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu” wedi eu rhoi yn lle “Pan fo’r awdurdod cynllunio yn penderfynu”; (ii)is-baragraff (b) a’r “a” o’i flaen wedi eu hepgor. |
Rheoliad 19 (ceisiadau gan awdurdod cynllunio i ddymchwel adeilad rhestredig) | Nid yw rheoliad 19 yn gymwys. |
Rheoliad 22 (cyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith brys ar dir y Goron) | Nid yw rheoliad 22 yn gymwys. |
(2) Yn y paragraff hwn, mae i “cydsyniad ardal gadwraeth” yr ystyr a roddir yn adran 162 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.”;
(b)ym mharagraff 3(2) o Ran 2—
(i)yn lle “adran 74 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig” rhodder “adran 162 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023,”;
(ii)yn lle’r geiriau o “rheoliad 3(1) a (2)” hyd at y diwedd rhodder “rheoliad 3 o Reoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.”
14. Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
15. Yn rheoliad 3(1)—
(a)hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 2012”;
(b)ar ôl y diffiniad o “Rheoliadau 2015” mewnosoder—
“ystyr “Rheoliadau 2024” (“the 2024 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024;”;
(c)yn y diffiniad o “datganiad achos llawn”, yn lle paragraff (a)(ii) rhodder—
“(ii)rheoliad 2(1) o Reoliadau 2024;”;
(d)yn y diffiniad o “cais atgyfeiriedig”, yn lle “cais y bernir ei fod wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau 2012” rhodder “cais gan awdurdod cynllunio lleol a wneir o dan reoliad 19(2) o Reoliadau 2024”.
16. Mae rheoliad 54 wedi ei hepgor.
Rheoliad 28
1. Mae’r offerynnau statudol a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(9);
(b)Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2015(10);
(c)Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016(11);
(d)Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2017(12);
(e)Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017(13);
(f)Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017(14);
(g)Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021(15).
2. Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(16) wedi eu dirymu o ran Cymru, i’r graddau y maent yn parhau mewn grym.
3. Mae’r Cyfarwyddydau a ganlyn wedi eu tynnu’n ôl—
(a)Cyfarwyddyd Ceisiadau a Phenderfyniadau Adeilad Rhestredig (Dyletswydd i Hysbysu Cymdeithasau Amwynder Cenedlaethol a’r Comisiwn Brenhinol) (Cymru) 2022(17);
(b)Cyfarwyddyd Ceisiadau Cydsyniad Adeilad Rhestredig (Datgymhwyso Dyletswydd i Hysbysu Gweinidogion Cymru) (Cymru)(18);
(c)Cyfarwyddyd Ardaloedd Cadwraeth (Datgymhwyso Gofyniad i gael Cydsyniad Ardal Gadwraeth er mwyn Dymchwel) (Cymru)(19).
O.S. 2007/399 (Cy. 45), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1992/3138, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1995/2803, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1996/525, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1996/534, y mae diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2004/3156, y mae diwygiad iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2016/56 (Cy. 26), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2017/544 (Cy. 121), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
LlC 22-40.
2017 Rhif 25.
2017 Rhif 27.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: