Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/12/2020.
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Croes Bennawd: Cyffredinol yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 14 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Yn y Mesur hwn—
nid yw “addysg” (“education”) yn cynnwys addysg uwch;
ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;
mae i “anabledd” yr ystyr sydd i “disability” ac i “person anabl” yr ystyr sydd i “disabled person” yn adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p.50);
ystyr “anhawster dysgu” (“learning difficulty”) mewn cysylltiad â pherson yw—
anhawster i ddysgu sy'n sylweddol fwy nag sydd gan y mwyafrif o bersonau yr un oed, neu
anabledd sydd naill ai'n atal y person hwnnw rhag defnyddio cyfleusterau o fath a ddarperir mewn mannau perthnasol, neu sy'n ei lesteirio wrth iddo eu defnyddio,
ond ni ddylid cymryd bod gan berson anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf ar yr iaith) y dysgir y person drwyddi (yn awr neu yn y dyfodol) yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sydd wedi ei siarad ar unrhyw adeg yng nghartref y person;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw [F1awdurdod lleol] yng Nghymru; ond mewn unrhyw gyfeiriad at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ei ystyr yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o fewn yr ystyr yn [F2Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.] 1970 (p.42);
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw unrhyw gyfnod o 1 Awst i 31 Gorffennaf;
ystyr “profiad gwaith” (“work experience”) yw profiad gwaith a drefnir ar gyfer—
un o ddisgyblion cofrestredig ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, neu
myfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach,
gan gorff llywodraethu'r sefydliad addysg perthnasol, neu ar ran y corff llywodraethu;
ystyr “rhagnodi” (“prescribed”) yw rhagnodi mewn rheoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;
ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol a gymeradwywyd o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996.
(2)Mae i gyfeiriadau yn y Mesur hwn at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddynt yn [F3adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014] 1989 (p.41).
(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.
(4)Os rhoddir i ymadrodd, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr sy'n wahanol i'r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, yr ystyr a roddir iddo at ddibenion y ddarpariaeth honno sydd i fod yn gymwys yn lle'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf honno.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 24(1) wedi eu hamnewid (5.5.2010) gan Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1148), erglau. 1, 2
F2Geiriau yn a. 24(1) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 268(2)
F3Geiriau yn a. 24(2) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 268(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)
I2A. 24 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1
Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â'r darpariaethau a wneir gan y Mesur hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)
I4A. 25 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1
I5A. 25 mewn grym ar 1.9.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2
Diddymir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r graddau a bennir.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 26 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)
I7A. 26 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1
I8A. 26 mewn grym ar 1.9.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2
I9A. 26 mewn grym ar 30.10.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(1)(c)
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu [F4ddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu] ardaloedd gwahanol;
[F5(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;]
(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion [F6neu ddosbarthau ar achos] penodol;
(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.
(3)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), F7... [F87, 8, 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1] hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.
(4)Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—
(a)y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;
(b)Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;
(c)is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.
[F9(4A)Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae'r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011.]
(5)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.
(7)Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—
(a)rheoliadau o dan adran 3(9),
(b)rheoliadau o dan adran 7,
(c)rheoliadau o dan adran 8,
(d)rheoliadau o dan adran 14(14)(a), F10...
[F11(da)rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu]
[F11(db)gorchymyn o dan adran 14N(6).]
(e)rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,
onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn a. 27(2)(a) wedi eu mewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(2)(a), 16(2)
F5A. 27(2)(aa) wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(2)(b), 16(2)
F6Geiriau yn a. 27(2)(b) wedi eu mewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(2)(c), 16(2)
F7Geiriau yn a. 27(3) wedi eu hepgor (10.7.2011) yn rhinwedd Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(3), 16(2)
F8Geiriau yn a. 27(3) wedi eu mewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(3), 16(2)
F9A. 27(4A) wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(4), 16(2)
F10Gair yn a. 27(7)(d) wedi ei hepgor (10.7.2011) yn rhinwedd Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(5)(a), 16(2)
F11A. 27(7)(da)(db) wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 15(5)(b), 16(2)
Gwybodaeth Cychwyn
(1)Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor—
yr adran hon;
adran 27;
adran 29.
(2)Daw darpariaethau'r Mesur hwn sy'n weddill i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
(2)Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a geir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: