Adran 23 – Diwygio Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006
68.Mae adran 23 yn gwneud diwygiadau i adrannau 162 a 181 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac yn mewnosod adran 182A newydd yn y Ddeddf honno. Mae adran 162 yn rhagnodi’r pŵer i ddiddymu cyfeiriadau at awdurdod addysg lleol mewn Deddfau ac mewn offerynnau statudol. Bydd y diwygiad a wneir gan adran 23 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio cyfeiriadau at awdurdod addysg lleol mewn Mesurau.
69.Mae adran 181 o Ddeddf 2006 yn rhagnodi sut y mae gorchmynion a rheoliadau o dan Ddeddf 2006 i gael eu gwneud. Effaith y diwygiad a wneir o dan adran 23 o’r Mesur fydd gwneud y pŵer gwneud gorchmynion a fewnosodir yn adran 162 o Ddeddf 2006 yn arferadwy drwy offeryn statudol.
70.Mae adran 182A(1) newydd o Ddeddf 2006 yn rhagnodi bod yn rhaid i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 162(5A) o Ddeddf 2006 gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad (y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol). Mae adran 182A(2) newydd o Ddeddf 2006 yn amlygu beth yw effaith Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.