- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Point in Time (31/12/2020) - English
- Point in Time (31/12/2020) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Paragraff 22 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 26 Gorffennaf 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[F122(1)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud darpariaeth sy'n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi heblaw hwy eu hunain i osod cosb sifil mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod gorfodi—
(a)pan fo'r pŵer yn bŵer i osod cosb ariannol benodedig, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad pellach o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw;
(b)pan fo'r pŵer yn bŵer i osod gofyniad yn ôl disgresiwn, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad pellach o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw;
(c)pan fo'r pŵer yn bŵer i osod hysbysiad stop, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiadau stop pellach mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw;
(d)pan fo'r pŵer yn bŵer i dderbyn ymgymeriad gorfodi, i beidio â derbyn unrhyw ymgymeriad pellach mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw.
(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod gorfodi wedi methu ar fwy nag un achlysur—
(a)â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir arno o dan yr Atodlen hon neu yn ei rhinwedd mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw,
(b)â gweithredu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddodd o dan baragraff 18 mewn perthynas â thoriad o'r math hwnnw, neu
(c)â gweithredu yn unol â'r egwyddorion y cyfeirir atynt ym mharagraff 20 neu egwyddorion eraill o arferion gorau mewn perthynas â gorfodi'r gyfraith o ran toriad o'r math hwnnw.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd ddirymu cyfarwyddyd a roddir ganddynt o dan is-baragraff (1) os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod gorfodi wedi cymryd y camau priodol i unioni'r methiant yr oedd y cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef.
(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) neu (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—
(a)â'r awdurdod gorfodi, a
(b)ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn eu barn hwy.
(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddynt osod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(a)cyhoeddi'r cyfarwyddyd mewn ffordd sy'n briodol yn marn Gweinidogion Cymru, a
(b)cymryd unrhyw gamau eraill sy'n briodol ym marn yr awdurdod gorfodi neu y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol er mwyn dwyn y cyfarwyddyd at sylw personau eraill y mae'n debygol y bydd yn effeithio arnynt.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. A1 wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), a. 16(2), Atod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: