Search Legislation

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 14H

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Adran 14H yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 05 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

[F114HAwdurdod gorfodiLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau benodi person neu gorff (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) i fod yn awdurdod gorfodi.

(2)Caniateir penodi mwy nag un person neu gorff yn awdurdod gorfodi.

(3)Caiff rheoliadau roi pwerau i awdurdod gorfodi neu osod dyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adrannau 14B a 14C ac Atodlen A1 a chânt (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i awdurdodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “arolygydd”) i arfer y pwerau yn adrannau 14I a 14J,

(b)gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy'n gymwys i'r awdurdod gorfodi, neu

(c)darparu i'r cyfryw ddeddfiad fod yn gymwys, gyda neu heb addasiadau, at ddibenion adran 14A a rheoliadau o dan adrannau 14B a 14C, yr adran hon ac Atodlen A1.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at berson neu gorff a benodir o dan yr adran hon ac maent yn cynnwys person a benodir gan awdurdod gorfodi.

(5)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys—

(a)deddfiad pryd bynnag y'i pasiwyd neu y'i gwnaed,

(b)deddfiad a geir mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac

(c)darpariaeth a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr is-ddeddfwriaeth yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).]

Diwygiadau Testunol

Back to top

Options/Help