Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009
2009 mccc 1
Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglŷn â hawlogaeth plant sydd yn nwy flynedd olaf addysg orfodol a phersonau ifanc nad ydynt wedi cyrraedd pedwar ar bymtheg oed i gael addysg; i wneud darpariaeth ynghylch y gwasanaethau perthynol i addysg a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau yn y sector addysg bellach; i wneud darpariaeth ar gyfer datgelu gwybodaeth am y cwricwlwm; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Mawrth 2009 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 13 Mai 2009, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—