Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 24/08/2024
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/05/2020.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn y croes-bennawd wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(2)
(1)Bydd Comisiynydd Safonau ar gyfer [F2y Senedd] (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).
(2)Mae'r Comisiynydd i'w benodi gan y [F3Senedd].
(3)Nid yw person yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd os yw'r person hwnnw —
(a)yn [F4Aelod o’r Senedd],
(b)wedi bod yn [F4Aelod o’r Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(c)yn aelod o staff y [F3Senedd],
(d)wedi bod yn aelod o staff y [F3Senedd] ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(e)yn aelod o staff Llywodraeth F5... Cymru, neu
(f)wedi bod yn aelod o staff Llywodraeth F6... Cymru ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.
(4)Mae'r Comisiynydd i'w benodi am gyfnod o 6 blynedd.
(5)Ni chaniateir i berson sydd wedi dal swydd y Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod arall (yn olynol neu beidio).
(6)Caniateir ar unrhyw adeg i berson sydd wedi'i benodi'n Gomisiynydd —
(a)ymddiswyddo drwy hysbysiad a roddir i'r [F3Senedd], neu
(b)cael ei ddiswyddo gan y [F3Senedd].
(7)Ni chaniateir i berson gael ei ddiswyddo o swydd y Comisiynydd o dan is-adran (6)(b) oni bai —
(a)bod y [F3Senedd] yn penderfynu felly, a
(b)bod nifer y pleidleisiau a fwrir o blaid y penderfyniad, os caiff y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, heb fod yn llai na dau draean o gyfanswm y pleidleisiau a fwrir.
(8)Mae penodiad person yn Gomisiynydd yn dod i ben os bydd y person hwnnw —
F7(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)yn cael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol, neu ei ddynodi i arfer swyddogaethau'r swydd honno, o dan adran 49 o'r Ddeddf, neu,
(c)yn cael ei benodi'n aelod o staff y [F3Senedd] neu o staff Llywodraeth F8... Cymru.
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn a. 1(1) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), aau. 7, 42(2)
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F4Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(8) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F5Gair yn a. 1(3)(e) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(3)(a)
F6Gair yn a. 1(3)(f) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(3)(a)
F7A. 1(8)(a) wedi ei hepgor (yn effeithiol yn unol ag a. 42(1)(c) o'r Ddeddf ddiwygio) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 35(3)
F8Gair yn a. 1(8)(c) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)
Prif nod y Comisiynydd wrth arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn yw hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus [F4Aelod o’r Senedd].
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(8) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
Mae'r Atodlen yn gwneud rhagor o ddarpariaethau ynghylch y Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)
(1)Pan fydd swydd y Comisiynydd yn wag neu pan fydd y Comisiynydd, am unrhyw reswm, yn methu â gweithredu, caiff y [F3Senedd] benodi person i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno naill ai'n gyffredinol neu mewn perthynas ag unrhyw achos neu ddosbarth o achosion, a hynny hyd at unrhyw amser a bennir gan delerau ac amodau'r penodiad hwnnw; a chyfeirir at berson a benodir felly yn yr adran hon fel y “Comisiynydd dros dro”.
(2)Caiff y Comisiynydd a'r Comisiynydd dros dro ill dau gyflawni swyddogaethau swydd y Comisiynydd ar yr un pryd ond mewn perthynas ag achosion gwahanol.
(3)Nid yw person nad yw'n gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd dros dro.
(4)Mae person a benodir yn Gomisiynydd dros dro —
(a)yn cael ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy hysbysiad a roddir i'r [F3Senedd],
(b)yn gallu cael ei ddiswyddo ar unrhyw adeg gan y [F3Senedd],
(c)yn peidio â dal y swydd o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 1(8)(a), (b) a (c),
(d)fel arall yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau a bennir gan y [F3Senedd], ac
(e)i'w drin i bob diben (ac eithrio dibenion adran 1), tra bydd yn dal y swydd honno, fel y Comisiynydd.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 4 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
Yn ddarostyngedig i adran 19, wrth iddo arfer unrhyw swyddogaethau, nid yw'r Comisiynydd i ddod o dan gyfarwyddyd neu reolaeth y [F3Senedd].
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 5 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Swyddogaethau'r Comisiynydd yw —
(a)derbyn unrhyw gŵyn bod ymddygiad [F4Aelod o’r Senedd], ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio ag un o ofynion darpariaeth berthnasol,
(b)ymchwilio i unrhyw gŵyn o'r fath yn unol â darpariaethau'r Mesur hwn,
(c)cyflwyno adroddiad i'r [F3Senedd] ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath,
(d)cynghori [F9Aelodau o’r Senedd] ac aelodau'r cyhoedd am y gweithdrefnau ynglŷn â gwneud cwynion ac ymchwilio i gwynion y mae paragraff (a) yn gymwys iddynt, a
(e)y swyddogaethau eraill a roddir gan adran 7.
(2)Ystyr “adeg berthnasol” yw adeg pan oedd y gofyniad o dan sylw mewn grym ond nid yw'n berthnasol a honnir bod yr ymddygiad o dan sylw wedi digwydd cyn i'r adran hon ddod i rym neu ar ôl hynny.
(3)Ystyr “darpariaeth berthnasol” yw —
(a)unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â'r canlynol—
(i)cofrestru neu ddatgan buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill,
(ii)hysbysiadau gan [F9Aelodau o’r Senedd] ynglŷn â'u haelodaeth o gymdeithasau,
(iii)cofrestru neu hysbysu unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud ag [F9Aelodau o’r Senedd] neu â phersonau sy'n gysylltiedig ag [F9Aelodau o’r Senedd].
(b)unrhyw benderfyniad gan y [F3Senedd] sy'n ymwneud â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill [F9Aelodau o’r Senedd],
(c)unrhyw God Ymddygiad a gymeradwyir gan y [F3Senedd] sy'n ymwneud â safonau ymddygiad [F9Aelodau o’r Senedd],
(d)unrhyw benderfyniad gan y [F3Senedd] sy'n ymwneud â safonau ymddygiad [F9Aelodau o’r Senedd], ac
(e)unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir yn y Rheolau Sefydlog (neu mewn unrhyw god neu brotocol a wneir odanynt) yn unol ag adran 36(6) o'r Ddeddf.
(4)Nid yw'n berthnasol a ddaeth darpariaeth berthnasol i rym cyn i'r adran hon ddod i rym neu ar ôl hynny.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F4Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(8) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F9Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(9) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 6 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
Fe gaiff y Comisiynydd (ac os gofynnir iddo wneud hynny gan y [F3Senedd] mae'n rhaid iddo) roi cyngor i'r [F3Senedd]—
(a)ar unrhyw fater arall o egwyddor gyffredinol sy'n ymwneud â darpariaethau perthnasol neu â safonau ymddygiad [F9elodau o’r Senedd] yn gyffredinol,
(b)ar weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion bod [F9Aelodau o’r Senedd] wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau perthnasol,
(c)ar unrhyw fater sy'n ymwneud â hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus [F4Aelod o’r Senedd].
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F4Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(8) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F9Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(9) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 7 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Nid oes dim yn y Mesur hwn sy'n awdurdodi'r Comisiynydd i fynegi barn ar—
(a)unrhyw ddarpariaeth sy'n ymwneud â safonau ymddygiad a gynhwysir mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion,
(b)unrhyw ddarpariaeth sy'n ymwneud â safonau ymddygiad a allai gael ei chynnwys mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion,
(c)unrhyw honiad bod ymddygiad unrhyw berson yn groes i ddarpariaeth sy'n ymwneud â'r safonau ymddygiad a gynhwysir mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion, neu
(d)effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion, mewn perthynas ag unrhyw ymddygiad penodol neu yn gyffredinol.
(2)At ddibenion yr adran hon—
(a)ystyr “Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion” yw unrhyw ddogfen (pa fodd bynnag y disgrifir y ddogfen honno) sy'n cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â safonau ymddygiad—
(i)sydd wedi'i chyhoeddi drwy awdurdod y Prif Weinidog neu o dan ei awdurdod,
(ii)sy'n gymwys i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol, neu i unrhyw un ohonynt,
(iii)sy'n ymwneud â safonau ymddygiad yn y swyddi hynny, a
(iv)sy'n ceisio cymhwyso safonau ymddygiad sy'n wahanol i'r rheini sy'n gymwys i [F10Aelodau o’r Senedd] yn gyffredinol, neu sy'n ychwanegol atynt, a
(b)mae darpariaeth sy'n ymwneud â safonau ymddygiad yn un a allai gael ei chynnwys mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion os yw'r ddarpariaeth honno'n bodloni gofynion paragraff (a)(ii), (iii) a (iv).
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(10) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 8 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
Os oes gan y Clerc sail resymol dros amau—
(a)bod ymddygiad [F4Aelod o’r Senedd], ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a
(b)bod yr ymddygiad o dan sylw yn berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o'r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i'r Comisiwn), rhaid i'r Clerc fynegi'r sail honno mewn ysgrifen i'r Comisiynydd a rhaid i'r Comisiynydd drin yr ohebiaeth fel cwyn y mae adran 6(1)(a) yn gymwys iddi.
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(8) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 9 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Rhaid i'r Comisiynydd ymchwilio i gwynion ac, yn ddarostyngedig i is-adran (3), rhaid iddo gyflwyno adroddiad i'r [F3Senedd] ar ganlyniad ymchwiliadau, yn unol â'r canlynol —
(a)darpariaethau'r Rheolau Sefydlog, a
(b)unrhyw reolau sy'n ymwneud ag ystyried cwynion yn erbyn [F9Aelodau o’r Senedd] sydd wedi'u mabwysiadu gan y [F3Senedd] o dan y Rheolau Sefydlog.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (1), mater i'r Comisiynydd yw penderfynu pryd a sut y dylid cynnal ymchwiliad a chyflwyno adroddiad ar ei ganlyniad.
(3)O dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir gan reolau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), caiff y Comisiynydd wrthod cwyn yn ddiannod heb gyflwyno adroddiad arni i'r [F3Senedd] ond rhaid yn hytrach iddo gyflwyno adroddiad mewn ysgrifen i'r [F4Aelod o’r Senedd] o dan sylw ac i'r person a wnaeth y gŵyn, gan roi rhesymau dros ei gwrthod.
(4)Ni chaiff adroddiad gan y Comisiynydd i'r [F3Senedd] ar ganlyniad ymchwiliad gynnwys argymhelliad ynghylch pa sancsiwn a ddylai gael ei orfodi ar yr [F4Aelod o’r Senedd] o dan sylw, os dylai unrhyw sancsiwn gael ei orfodi o gwbl.
(5)Os caiff y Comisiynydd wybod, wrth gynnal ymchwiliad, am unrhyw amgylchiadau—
(a)sy'n codi materion o egwyddor neu o arfer cyffredinol sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o'r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i'r Comisiwn) , neu
(b)a allai, ar ôl rhagor o ystyriaeth gan y Clerc, arwain at ddyletswydd ar y Clerc o dan adran 9,
rhaid i'r Comisiynydd fynegi'r amgylchiadau hynny mewn ysgrifen i'r Clerc.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F4Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(8) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F9Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(9) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 10 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Yn unol ag adran 12, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson—
(a)dod gerbron y Comisiynydd er mwyn rhoi tystiolaeth, neu
(b)cyflwyno i'r Comisiynydd ddogfennau sydd ym meddiant y person hwnnw neu sydd o dan ei reolaeth,
ynghylch unrhyw fater sy'n berthnasol i ymchwiliad y mae'r Comisiynydd yn ei gynnal o dan y Mesur hwn.
(2)At ddibenion yr adran hon,
(a)cymerir bod person yn cydymffurfio â gofyniad i gyflwyno dogfen os bydd yperson hwnnw'n cyflwyno copi o'r ddogfen neu ddarn o'r rhan berthnasol ohoni,
(b)ystyr “dogfen” yw unrhyw beth y mae gwybodaeth wedi'i chofnodi ynddo ar unrhyw ffurf, ac
(c)mae cyfeiriadau at gyflwyno dogfen yn gyfeiriadau at gyflwyno'r wybodaetha gofnodwyd ynddi ar ffurf weladwy a darllenadwy.
(3)Caiff y Comisiynydd dalu unrhyw lwfansau a threuliau rhesymol i bersonau sy'n rhoi tystiolaeth gerbron y Comisiynydd, neu sy'n cyflwyno dogfennau i'r Comisiynydd, yn unol â phenderfyniad y Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 11 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11 gael ei orfodi ar berson yw i'r Comisiynydd roi i'r person o dan sylw hysbysiad mewn ysgrifen sy'n pennu —
(a)yr amser a'r lle y mae'r person i fod yn bresennol a'r pynciau penodol y mae'n ofynnol i'r person roi tystiolaeth yn eu cylch,
(b)y dogfennau, neu'r mathau o ddogfennau, y mae'r person i'w cyflwyno, erbyn pa bryd ac i ba berson y maent i'w cyflwyno a'r pynciau penodol y gofynnir amdanynt yn eu cylch.
(2)Mae hysbysiad o dan is-adran (1) i'w roi —
(a)yn achos unigolyn, drwy ei anfon yn unol ag is-adran (3) wedi'i gyfeirio at y person yng nghyfeiriad arferol neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person neu, os yw'r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno'r hysbysiad, yn y cyfeiriad hwnnw, neu
(b)mewn unrhyw achos arall, drwy ei anfon felly wedi'i gyfeirio at y person yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r person,
ond dim ond os yw'r cyfeiriad o dan sylw yng Nghymru neu yn Lloegr y caniateir iddo gael ei roi.
(3)Mae hysbysiad wedi'i anfon yn unol â'r is-adran hon os yw wedi'i anfon —
(a)drwy wasanaeth post cofrestredig (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Post 2000 (p.26)), neu
(b)drwy wasanaeth post sy'n darparu ar gyfer cofnodi'r ffaith ei fod wedi cyrraedd pen ei daith drwy'r post.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 12 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
Caiff y Comisiynydd—
(a)gweinyddu llw neu gadarnhad i unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth i'r Comisiynydd, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw dyngu llw neu roi cadarnhad.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 13 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Nid yw unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 11(1) yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb neu ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu Loegr.
(2)Nid yw'n ofynnol o dan adran 11(1) i berson sy'n gweithredu fel erlynydd mewn achos troseddol ateb unrhyw gwestiwn na chyflwyno unrhyw ddogfen ynghylch sut mae'r system erlyn troseddol yn gweithredu mewn unrhyw achos penodol os yw'r person hwnnw (neu, os yw is-adran (3) yn gymwys, y Cwnsler Cyffredinol) o'r farn y gallai ateb y cwestiwn neu gyflwyno'r ddogfen ragfarnu trafodion troseddol yn yr achos neu y byddai fel arall yn groes i fuddiant y cyhoedd.
(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys os cafodd yr achos ei sefydlu gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol, neu ar eu rhan.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 14 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Mae person y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1) yn cyflawni tramgwydd os yw'r person hwnnw —
(a)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad,
(b)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol, pan fo'n dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad, ag ateb unrhyw gwestiwn ynghylch y pynciau a bennwyd yn yr hysbysiad,
(c)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â chyflwyno unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chyflwyno o dan yr hysbysiad, neu
(d)yn mynd ati'n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio unrhyw ddogfen o'r fath.
(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adran 14.
(3)Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn gwrthod tyngu llw neu roi cadarnhad pan fo'n ofynnol iddo wneud hynny o dan adran 13 yn cyflawni tramgwydd.
(4)Os bydd person a gyhuddir o dramgwydd o dan is-adran (1)(a), (b) neu (c) neu o dan is-adran (3) yn cyflwyno tystiolaeth o esgus rhesymol dros wrthod neu fethu, mater i'r erlyniad yw profi nad oedd gan y person esgus o'r fath.
(5)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr adran hon yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod —
(a)i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol,
(b)i gael ei garcharu am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis, neu
(c)i'r ddau.
(6)Os profir bod tramgwydd o dan yr adran hon wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn yn unol â hynny.
(7)Yn is-adran (6) ystyr “cyfarwyddwr”, yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 15 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Ac eithrio fel y caniateir gan is-adran (2), rhaid i'r Comisiynydd neu staff y Comisiynydd, neu unrhyw berson arall a benodir gan y Comisiynydd beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y gŵyn nac unrhyw wybodaeth a roddir iddynt neu a sicrheir ganddynt yn ystod ymchwiliad i'r gŵyn honno, neu at ddibenion yr ymchwiliad hwnnw.
(2)Caniateir i wybodaeth felly gael ei datgelu er mwyn —
(a)galluogi neu helpu'r Comisiynydd i gyflawni unrhyw swyddogaethau a osodir ar y Comisiynydd neu a roddir iddo yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn,
(b)galluogi'r Comisiynydd i gydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir ar y Comisiynydd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, neu
(c)ymchwilio i unrhyw dramgwydd neu dramgwydd a amheuir neu eu herlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 16 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae unrhyw ddatganiad a wneir yn unol â dibenion y Mesur hwn—
(a)gan y Comisiynydd, neu
(b)i'r Comisiynydd
o dan fraint lwyr.
(2)Yn is-adran (1), mae i “datganiad” yr un ystyr ag sydd i “statement” yn Neddf Difenwi 1996 (p. 31).
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 17 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Caiff y [F3Senedd] ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd gynnal ymchwiliad i unrhyw gŵyn sydd, ar y diwrnod y daw'r adran hon i rym, wedi dod i law, neu'n destun ymchwiliad, o dan reolau y cyfeirir atynt yn adran 10(1)(b).
(2)Caiff unrhyw ofyniad o'r fath gyfarwyddo'r Comisiynydd i gymryd i ystyriaeth unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â'r gŵyn a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad o'r fath, mae unrhyw gŵyn y cyfarwyddir y Comisiynydd i ymchwilio iddi i'w thrin yn yr un modd ag unrhyw gŵyn arall a wneir i'r Comisiynydd.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 18 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Cyn gynted ag y gellir ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Comisiynydd osod gerbron y [F3Senedd] adroddiad blynyddol ar gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd drwy gydol y flwyddyn honno.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3) rhaid i'r adroddiad gynnwys datganiad cryno o wybodaeth sy'n ymwneud â materion a thrafodion ariannol y Comisiynydd wrth gyflawni'r swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn honno.
(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y [F3Senedd] o ran ffurf yr adroddiad blynyddol ac o ran unrhyw wybodaeth benodol neu ddosbarth penodol o wybodaeth y mae'n rhaid iddo eu cynnwys.
(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (5), rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—
(a)i ddod gerbron y pwyllgor hwnnw,
(b)i roi i'r pwyllgor unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol i'r pwyllgor ofyn amdani mewn perthynas ag unrhyw fater a gynhwyswyd mewn adroddiad sydd wedi'i osod gerbron y [F3Senedd] o dan is-adran (1) neu yr oedd yn ofynnol ei gynnwys mewn adroddiad o'r fath.
(5)Nid oes angen i'r Comisiynydd gydymffurfio a gofyniad o dan is-adran (4) —
(a)os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, a
(b)ac eithrio yn achos gofyniad o dan is-adran (4)(b) a fynegir i'r Comisiynydd ar lafar yn un o gyfarfodydd y pwyllgor, oni bai bod y gofyniad yn un ysgrifenedig.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 19 mewn grym yn unol â a. 21(2)(b)(3)
(1)Yn y Mesur hwn —
F11...
[F12“mae “Aelod o’r Senedd” (“Member of the Senedd”) yn cynnwys—
at ddibenion adran 1(3)(a) a (b) yn unig, y Cwnsler Cyffredinol hyd yn oed os nad yw’r swyddog hwnnw’n Aelod o’r Senedd, a
ac eithrio at ddibenion adran 1(3)(a) a (b), cyn Aelod o’r Senedd,]
ystyr “y Clerc” (“the Clerk”) yw Clerc y [F3Senedd],
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn [F13y Senedd],
ystyr “Cwnsler Cyffredinol” (“Counsel General”) yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth F14... Cymru,
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32),
ystyr “y Pwyllgor Safonau Ymddygiad” (“the Committee on Standards of Conduct”) yw unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r [F3Senedd] y dirprwywyd iddo, gan y Rheolau Sefydlog neu odanynt, swyddogaethau sy'n ymwneud â chwynion bod [F9Aelodau o’r Senedd] wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaeth berthnasol, ac
ystyr “Rheolau Sefydlog” (“Standing Orders”) yw Rheolau Sefydlog y [F3Senedd].
(2)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Mesur hwn at “y [F3Senedd]” yn gyfeiriad —
(a)at [F15Senedd Cymru], neu
(b)heblaw yn adrannau 1 ,4, 6(3)(b), (c) a (d) a'r Atodlen, at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(11) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F9Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 3(9) (ynghyd ag Atod. 1 para. 3(6)(7))
F11Geiriau yn a. 20(1) wedi eu hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(a)(i)
F12Geiriau yn a. 20(1) wedi eu mewnosod (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(a)(i)
F13Gair yn a. 20(1) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(a)(ii)
F14Gair yn a. 20(1) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(a)(iii)
F15Geiriau yn a. 20(2)(a) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 3(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 20 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)
(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.
(2)Daw'r Mesur hwn i rym fel a ganlyn —
(a)daw'r adran hon ac adrannau 1, 3 (gan gynnwys yr Atodlen) a 20 i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, a
(b)daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir hysbysiad o dan is-adran (3).
(3)Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiad cyntaf Comisiynydd o dan y Mesur hwn ddod i rym, beri cyhoeddi, mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yng Nghymru, hysbysiad —
(a)o'r ffaith bod y penodiad o dan sylw wedi dod i rym, a
(b)o'r ffaith y bydd holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) oherwydd cyhoeddi'r hysbysiad yn dod i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 21 mewn grym ar 10.12.2009, gweler a. 21(2)(a)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: