- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Bydd Comisiynydd Safonau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Comisiynydd”).
(2)Mae'r Comisiynydd i'w benodi gan y Cynulliad.
(3)Nid yw person yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd os yw'r person hwnnw —
(a)yn Aelod Cynulliad,
(b)wedi bod yn Aelod Cynulliad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(c)yn aelod o staff y Cynulliad,
(d)wedi bod yn aelod o staff y Cynulliad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym,
(e)yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu
(f)wedi bod yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae'r penodiad i ddod i rym.
(4)Mae'r Comisiynydd i'w benodi am gyfnod o 6 blynedd.
(5)Ni chaniateir i berson sydd wedi dal swydd y Comisiynydd gael ei benodi am gyfnod arall (yn olynol neu beidio).
(6)Caniateir ar unrhyw adeg i berson sydd wedi'i benodi'n Gomisiynydd —
(a)ymddiswyddo drwy hysbysiad a roddir i'r Cynulliad, neu
(b)cael ei ddiswyddo gan y Cynulliad.
(7)Ni chaniateir i berson gael ei ddiswyddo o swydd y Comisiynydd o dan is-adran (6)(b) oni bai —
(a)bod y Cynulliad yn penderfynu felly, a
(b)bod nifer y pleidleisiau a fwrir o blaid y penderfyniad, os caiff y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, heb fod yn llai na dau draean o gyfanswm y pleidleisiau a fwrir.
(8)Mae penodiad person yn Gomisiynydd yn dod i ben os bydd y person hwnnw —
(a)yn dod yn ymgeisydd i fod yn Aelod Cynulliad dros un o etholaethau'r Cynulliad neu dros un o ranbarthau etholiadol y Cynulliad,
(b)yn cael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol, neu ei ddynodi i arfer swyddogaethau'r swydd honno, o dan adran 49 o'r Ddeddf, neu,
(c)yn cael ei benodi'n aelod o staff y Cynulliad neu o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Prif nod y Comisiynydd wrth arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn yw hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus Aelod Cynulliad.
Mae'r Atodlen yn gwneud rhagor o ddarpariaethau ynghylch y Comisiynydd.
(1)Pan fydd swydd y Comisiynydd yn wag neu pan fydd y Comisiynydd, am unrhyw reswm, yn methu â gweithredu, caiff y Cynulliad benodi person i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno naill ai'n gyffredinol neu mewn perthynas ag unrhyw achos neu ddosbarth o achosion, a hynny hyd at unrhyw amser a bennir gan delerau ac amodau'r penodiad hwnnw; a chyfeirir at berson a benodir felly yn yr adran hon fel y “Comisiynydd dros dro”.
(2)Caiff y Comisiynydd a'r Comisiynydd dros dro ill dau gyflawni swyddogaethau swydd y Comisiynydd ar yr un pryd ond mewn perthynas ag achosion gwahanol.
(3)Nid yw person nad yw'n gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd yn gymwys i'w benodi'n Gomisiynydd dros dro.
(4)Mae person a benodir yn Gomisiynydd dros dro —
(a)yn cael ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy hysbysiad a roddir i'r Cynulliad,
(b)yn gallu cael ei ddiswyddo ar unrhyw adeg gan y Cynulliad,
(c)yn peidio â dal y swydd o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 1(8)(a), (b) a (c),
(d)fel arall yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau a bennir gan y Cynulliad, ac
(e)i'w drin i bob diben (ac eithrio dibenion adran 1), tra bydd yn dal y swydd honno, fel y Comisiynydd.
Yn ddarostyngedig i adran 19, wrth iddo arfer unrhyw swyddogaethau, nid yw'r Comisiynydd i ddod o dan gyfarwyddyd neu reolaeth y Cynulliad.
(1)Swyddogaethau'r Comisiynydd yw —
(a)derbyn unrhyw gŵyn bod ymddygiad Aelod Cynulliad, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio ag un o ofynion darpariaeth berthnasol,
(b)ymchwilio i unrhyw gŵyn o'r fath yn unol â darpariaethau'r Mesur hwn,
(c)cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad o'r fath,
(d)cynghori Aelodau Cynulliad ac aelodau'r cyhoedd am y gweithdrefnau ynglŷn â gwneud cwynion ac ymchwilio i gwynion y mae paragraff (a) yn gymwys iddynt, a
(e)y swyddogaethau eraill a roddir gan adran 7.
(2)Ystyr “adeg berthnasol” yw adeg pan oedd y gofyniad o dan sylw mewn grym ond nid yw'n berthnasol a honnir bod yr ymddygiad o dan sylw wedi digwydd cyn i'r adran hon ddod i rym neu ar ôl hynny.
(3)Ystyr “darpariaeth berthnasol” yw —
(a)unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â'r canlynol—
(i)cofrestru neu ddatgan buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill,
(ii)hysbysiadau gan Aelodau Cynulliad ynglŷn â'u haelodaeth o gymdeithasau,
(iii)cofrestru neu hysbysu unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud ag Aelodau Cynulliad neu â phersonau sy'n gysylltiedig ag Aelodau Cynulliad.
(b)unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad sy'n ymwneud â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill Aelodau Cynulliad,
(c)unrhyw God Ymddygiad a gymeradwyir gan y Cynulliad sy'n ymwneud â safonau ymddygiad Aelodau Cynulliad,
(d)unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad sy'n ymwneud â safonau ymddygiad Aelodau Cynulliad, ac
(e)unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir yn y Rheolau Sefydlog (neu mewn unrhyw god neu brotocol a wneir odanynt) yn unol ag adran 36(6) o'r Ddeddf.
(4)Nid yw'n berthnasol a ddaeth darpariaeth berthnasol i rym cyn i'r adran hon ddod i rym neu ar ôl hynny.
Fe gaiff y Comisiynydd (ac os gofynnir iddo wneud hynny gan y Cynulliad mae'n rhaid iddo) roi cyngor i'r Cynulliad —
(a)ar unrhyw fater arall o egwyddor gyffredinol sy'n ymwneud â darpariaethau perthnasol neu â safonau ymddygiad Aelodau Cynulliad yn gyffredinol,
(b)ar weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion bod Aelodau Cynulliad wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau perthnasol,
(c)ar unrhyw fater sy'n ymwneud â hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus Aelod Cynulliad.
(1)Nid oes dim yn y Mesur hwn sy'n awdurdodi'r Comisiynydd i fynegi barn ar—
(a)unrhyw ddarpariaeth sy'n ymwneud â safonau ymddygiad a gynhwysir mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion,
(b)unrhyw ddarpariaeth sy'n ymwneud â safonau ymddygiad a allai gael ei chynnwys mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion,
(c)unrhyw honiad bod ymddygiad unrhyw berson yn groes i ddarpariaeth sy'n ymwneud â'r safonau ymddygiad a gynhwysir mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion, neu
(d)effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion, mewn perthynas ag unrhyw ymddygiad penodol neu yn gyffredinol.
(2)At ddibenion yr adran hon—
(a)ystyr “Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion” yw unrhyw ddogfen (pa fodd bynnag y disgrifir y ddogfen honno) sy'n cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â safonau ymddygiad—
(i)sydd wedi'i chyhoeddi drwy awdurdod y Prif Weinidog neu o dan ei awdurdod,
(ii)sy'n gymwys i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol, neu i unrhyw un ohonynt,
(iii)sy'n ymwneud â safonau ymddygiad yn y swyddi hynny, a
(iv)sy'n ceisio cymhwyso safonau ymddygiad sy'n wahanol i'r rheini sy'n gymwys i Aelodau'r Cynulliad yn gyffredinol, neu sy'n ychwanegol atynt, a
(b)mae darpariaeth sy'n ymwneud â safonau ymddygiad yn un a allai gael ei chynnwys mewn Cod Cymreig ar gyfer Gweinidogion os yw'r ddarpariaeth honno'n bodloni gofynion paragraff (a)(ii), (iii) a (iv).
Os oes gan y Clerc sail resymol dros amau—
(a)bod ymddygiad Aelod Cynulliad, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a
(b)bod yr ymddygiad o dan sylw yn berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o'r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i'r Comisiwn), rhaid i'r Clerc fynegi'r sail honno mewn ysgrifen i'r Comisiynydd a rhaid i'r Comisiynydd drin yr ohebiaeth fel cwyn y mae adran 6(1)(a) yn gymwys iddi.
(1)Rhaid i'r Comisiynydd ymchwilio i gwynion ac, yn ddarostyngedig i is-adran (3), rhaid iddo gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar ganlyniad ymchwiliadau, yn unol â'r canlynol —
(a)darpariaethau'r Rheolau Sefydlog, a
(b)unrhyw reolau sy'n ymwneud ag ystyried cwynion yn erbyn Aelodau Cynulliad sydd wedi'u mabwysiadu gan y Cynulliad o dan y Rheolau Sefydlog.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (1), mater i'r Comisiynydd yw penderfynu pryd a sut y dylid cynnal ymchwiliad a chyflwyno adroddiad ar ei ganlyniad.
(3)O dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir gan reolau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), caiff y Comisiynydd wrthod cwyn yn ddiannod heb gyflwyno adroddiad arni i'r Cynulliad ond rhaid yn hytrach iddo gyflwyno adroddiad mewn ysgrifen i'r Aelod Cynulliad o dan sylw ac i'r person a wnaeth y gŵyn, gan roi rhesymau dros ei gwrthod.
(4)Ni chaiff adroddiad gan y Comisiynydd i'r Cynulliad ar ganlyniad ymchwiliad gynnwys argymhelliad ynghylch pa sancsiwn a ddylai gael ei orfodi ar yr Aelod Cynulliad o dan sylw, os dylai unrhyw sancsiwn gael ei orfodi o gwbl.
(5)Os caiff y Comisiynydd wybod, wrth gynnal ymchwiliad, am unrhyw amgylchiadau—
(a)sy'n codi materion o egwyddor neu o arfer cyffredinol sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o'r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i'r Comisiwn) , neu
(b)a allai, ar ôl rhagor o ystyriaeth gan y Clerc, arwain at ddyletswydd ar y Clerc o dan adran 9,
rhaid i'r Comisiynydd fynegi'r amgylchiadau hynny mewn ysgrifen i'r Clerc.
(1)Yn unol ag adran 12, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson—
(a)dod gerbron y Comisiynydd er mwyn rhoi tystiolaeth, neu
(b)cyflwyno i'r Comisiynydd ddogfennau sydd ym meddiant y person hwnnw neu sydd o dan ei reolaeth,
ynghylch unrhyw fater sy'n berthnasol i ymchwiliad y mae'r Comisiynydd yn ei gynnal o dan y Mesur hwn.
(2)At ddibenion yr adran hon,
(a)cymerir bod person yn cydymffurfio â gofyniad i gyflwyno dogfen os bydd yperson hwnnw'n cyflwyno copi o'r ddogfen neu ddarn o'r rhan berthnasol ohoni,
(b)ystyr “dogfen” yw unrhyw beth y mae gwybodaeth wedi'i chofnodi ynddo ar unrhyw ffurf, ac
(c)mae cyfeiriadau at gyflwyno dogfen yn gyfeiriadau at gyflwyno'r wybodaetha gofnodwyd ynddi ar ffurf weladwy a darllenadwy.
(3)Caiff y Comisiynydd dalu unrhyw lwfansau a threuliau rhesymol i bersonau sy'n rhoi tystiolaeth gerbron y Comisiynydd, neu sy'n cyflwyno dogfennau i'r Comisiynydd, yn unol â phenderfyniad y Comisiynydd.
(1)Yr unig fodd i ofyniad o dan adran 11 gael ei orfodi ar berson yw i'r Comisiynydd roi i'r person o dan sylw hysbysiad mewn ysgrifen sy'n pennu —
(a)yr amser a'r lle y mae'r person i fod yn bresennol a'r pynciau penodol y mae'n ofynnol i'r person roi tystiolaeth yn eu cylch,
(b)y dogfennau, neu'r mathau o ddogfennau, y mae'r person i'w cyflwyno, erbyn pa bryd ac i ba berson y maent i'w cyflwyno a'r pynciau penodol y gofynnir amdanynt yn eu cylch.
(2)Mae hysbysiad o dan is-adran (1) i'w roi —
(a)yn achos unigolyn, drwy ei anfon yn unol ag is-adran (3) wedi'i gyfeirio at y person yng nghyfeiriad arferol neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person neu, os yw'r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno'r hysbysiad, yn y cyfeiriad hwnnw, neu
(b)mewn unrhyw achos arall, drwy ei anfon felly wedi'i gyfeirio at y person yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r person,
ond dim ond os yw'r cyfeiriad o dan sylw yng Nghymru neu yn Lloegr y caniateir iddo gael ei roi.
(3)Mae hysbysiad wedi'i anfon yn unol â'r is-adran hon os yw wedi'i anfon —
(a)drwy wasanaeth post cofrestredig (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Post 2000 (p.26)), neu
(b)drwy wasanaeth post sy'n darparu ar gyfer cofnodi'r ffaith ei fod wedi cyrraedd pen ei daith drwy'r post.
Caiff y Comisiynydd—
(a)gweinyddu llw neu gadarnhad i unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth i'r Comisiynydd, a
(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw dyngu llw neu roi cadarnhad.
(1)Nid yw unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 11(1) yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb neu ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu Loegr.
(2)Nid yw'n ofynnol o dan adran 11(1) i berson sy'n gweithredu fel erlynydd mewn achos troseddol ateb unrhyw gwestiwn na chyflwyno unrhyw ddogfen ynghylch sut mae'r system erlyn troseddol yn gweithredu mewn unrhyw achos penodol os yw'r person hwnnw (neu, os yw is-adran (3) yn gymwys, y Cwnsler Cyffredinol) o'r farn y gallai ateb y cwestiwn neu gyflwyno'r ddogfen ragfarnu trafodion troseddol yn yr achos neu y byddai fel arall yn groes i fuddiant y cyhoedd.
(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys os cafodd yr achos ei sefydlu gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol, neu ar eu rhan.
(1)Mae person y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1) yn cyflawni tramgwydd os yw'r person hwnnw —
(a)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad,
(b)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol, pan fo'n dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad, ag ateb unrhyw gwestiwn ynghylch y pynciau a bennwyd yn yr hysbysiad,
(c)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â chyflwyno unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chyflwyno o dan yr hysbysiad, neu
(d)yn mynd ati'n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio unrhyw ddogfen o'r fath.
(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adran 14.
(3)Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn gwrthod tyngu llw neu roi cadarnhad pan fo'n ofynnol iddo wneud hynny o dan adran 13 yn cyflawni tramgwydd.
(4)Os bydd person a gyhuddir o dramgwydd o dan is-adran (1)(a), (b) neu (c) neu o dan is-adran (3) yn cyflwyno tystiolaeth o esgus rhesymol dros wrthod neu fethu, mater i'r erlyniad yw profi nad oedd gan y person esgus o'r fath.
(5)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr adran hon yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod —
(a)i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol,
(b)i gael ei garcharu am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis, neu
(c)i'r ddau.
(6)Os profir bod tramgwydd o dan yr adran hon wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn yn unol â hynny.
(7)Yn is-adran (6) ystyr “cyfarwyddwr”, yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
(1)Ac eithrio fel y caniateir gan is-adran (2), rhaid i'r Comisiynydd neu staff y Comisiynydd, neu unrhyw berson arall a benodir gan y Comisiynydd beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y gŵyn nac unrhyw wybodaeth a roddir iddynt neu a sicrheir ganddynt yn ystod ymchwiliad i'r gŵyn honno, neu at ddibenion yr ymchwiliad hwnnw.
(2)Caniateir i wybodaeth felly gael ei datgelu er mwyn —
(a)galluogi neu helpu'r Comisiynydd i gyflawni unrhyw swyddogaethau a osodir ar y Comisiynydd neu a roddir iddo yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn,
(b)galluogi'r Comisiynydd i gydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir ar y Comisiynydd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, neu
(c)ymchwilio i unrhyw dramgwydd neu dramgwydd a amheuir neu eu herlyn.
(1)At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae unrhyw ddatganiad a wneir yn unol â dibenion y Mesur hwn—
(a)gan y Comisiynydd, neu
(b)i'r Comisiynydd
o dan fraint lwyr.
(2)Yn is-adran (1), mae i “datganiad” yr un ystyr ag sydd i “statement” yn Neddf Difenwi 1996 (p. 31).
(1)Caiff y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd gynnal ymchwiliad i unrhyw gŵyn sydd, ar y diwrnod y daw'r adran hon i rym, wedi dod i law, neu'n destun ymchwiliad, o dan reolau y cyfeirir atynt yn adran 10(1)(b).
(2)Caiff unrhyw ofyniad o'r fath gyfarwyddo'r Comisiynydd i gymryd i ystyriaeth unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â'r gŵyn a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad o'r fath, mae unrhyw gŵyn y cyfarwyddir y Comisiynydd i ymchwilio iddi i'w thrin yn yr un modd ag unrhyw gŵyn arall a wneir i'r Comisiynydd.
(1)Cyn gynted ag y gellir ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Comisiynydd osod gerbron y Cynulliad adroddiad blynyddol ar gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd drwy gydol y flwyddyn honno.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3) rhaid i'r adroddiad gynnwys datganiad cryno o wybodaeth sy'n ymwneud â materion a thrafodion ariannol y Comisiynydd wrth gyflawni'r swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn honno.
(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Cynulliad o ran ffurf yr adroddiad blynyddol ac o ran unrhyw wybodaeth benodol neu ddosbarth penodol o wybodaeth y mae'n rhaid iddo eu cynnwys.
(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (5), rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—
(a)i ddod gerbron y pwyllgor hwnnw,
(b)i roi i'r pwyllgor unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol i'r pwyllgor ofyn amdani mewn perthynas ag unrhyw fater a gynhwyswyd mewn adroddiad sydd wedi'i osod gerbron y Cynulliad o dan is-adran (1) neu yr oedd yn ofynnol ei gynnwys mewn adroddiad o'r fath.
(5)Nid oes angen i'r Comisiynydd gydymffurfio a gofyniad o dan is-adran (4) —
(a)os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, a
(b)ac eithrio yn achos gofyniad o dan is-adran (4)(b) a fynegir i'r Comisiynydd ar lafar yn un o gyfarfodydd y pwyllgor, oni bai bod y gofyniad yn un ysgrifenedig.
(1)Yn y Mesur hwn —
mae “Aelod Cynulliad” (“Assembly Member”) yn cynnwys —
at ddibenion adran 1(3)(a) a (b) yn unig,y Cwnsler Cyffredinol hyd yn oed os nad yw'r swyddog hwnnw'n Aelod o'r Cynulliad, a
ac eithrio at ddibenion adran 1(3)(a) a (b), cyn Aelod o'r Cynulliad,
ystyr “y Clerc” (“the Clerk”) yw Clerc y Cynulliad,
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
ystyr “Cwnsler Cyffredinol” (“Counsel General”) yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru,
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32),
ystyr “y Pwyllgor Safonau Ymddygiad” (“the Committee on Standards of Conduct”) yw unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r Cynulliad y dirprwywyd iddo, gan y Rheolau Sefydlog neu odanynt, swyddogaethau sy'n ymwneud â chwynion bod Aelodau Cynulliad wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaeth berthnasol, ac
ystyr “Rheolau Sefydlog” (“Standing Orders”) yw Rheolau Sefydlog y Cynulliad.
(2)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Mesur hwn at “y Cynulliad” yn gyfeiriad —
(a)at Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
(b)heblaw yn adrannau 1 ,4, 6(3)(b), (c) a (d) a'r Atodlen, at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.
(2)Daw'r Mesur hwn i rym fel a ganlyn —
(a)daw'r adran hon ac adrannau 1, 3 (gan gynnwys yr Atodlen) a 20 i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, a
(b)daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir hysbysiad o dan is-adran (3).
(3)Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiad cyntaf Comisiynydd o dan y Mesur hwn ddod i rym, beri cyhoeddi, mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yng Nghymru, hysbysiad —
(a)o'r ffaith bod y penodiad o dan sylw wedi dod i rym, a
(b)o'r ffaith y bydd holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) oherwydd cyhoeddi'r hysbysiad yn dod i rym drannoeth y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: