Search Legislation

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Gwybodaeth

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 25/09/2022

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Croes Bennawd: Gwybodaeth. Help about Changes to Legislation

GwybodaethLL+C

44Cyflenwi gwybodaeth i Weinidogion CymruLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon roi iddynt unrhyw wybodaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau'r person fel gwarchodwr plant neu wrth ddarparu gofal dydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei chael at ddibenion eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 44 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

45Cyflenwi gwybodaeth i awdurdodau lleolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybodaeth a ragnodwyd i'r awdurdod lleol perthnasol, os ydynt yn cymryd unrhyw un neu unrhyw rai o'r camau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)caniatáu cais cofrestru i berson;

(b)rhoi hysbysiad o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad person;

(c)diddymu cofrestriad person;

(d)atal cofrestriad person;

(e)tynnu person oddi ar y gofrestr ar gais y person hwnnw.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd roi gwybodaeth a ragnodwyd i'r awdurdod lleol perthnasol os gwneir gorchymyn o dan adran 34(2).

(3)Yr wybodaeth y gellir ei rhagnodi at ddibenion yr adran hon yw gwybodaeth a fyddai'n cynorthwyo'r awdurdod lleol wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21).

(4)Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod lleol perthnasol” yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r person yn gweithredu fel gwarchodwr plant ynddi (neu wedi gweithredu felly) neu'n darparu (neu wedi darparu) gofal dydd y mae'r person (neu yr oedd y person) wedi ei gofrestru ynglŷn ag ef.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru roi gwybodaeth i berson sy'n arfer swyddogaethau statudol (at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r swyddogaethau hynny) ynghylch a yw person wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon ai peidio.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 45: rhoddwyd pŵer i addasu (dd.) (25.3.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(1), Atod. 17 para. 7 (ynghyd ag aau. 88-90)

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 45 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I4A. 45 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Back to top

Options/Help