Valid from 01/04/2012
(a gyflwynir gan adran 3)
ATODLEN 1LL+CSWYDDOGAETHAU
1LL+CHybu neu wneud gwaith ymchwil gwyddonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
2LL+CHybu neu wneud ymholiadau ynghylch—
(a)deunyddiau a chyfarpar, a
(b)dulliau cynhyrchu, rheoli a defnyddio llafur.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
3LL+CMae hybu neu wneud ymholiadau o dan baragraff 2 yn cynnwys hybu neu wneud gwaith—
(a)darganfod a datblygu—
(i)deunyddiau, cyfarpar a dulliau newydd, a
(ii)gwelliannau i'r rheini a ddefnyddir eisoes,
(b)asesu manteision gwahanol ddewisiadau, ac
(c)cynnal sefydliadau arbrofol a phrofion ar raddfa fasnachol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
4LL+CHybu cynhyrchu a marchnata cynhyrchion safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
5LL+CHybu diffinio disgrifiadau masnachol yn well a defnyddio disgrifiadau masnachol yn fwy cyson.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
6LL+CDatblygu, hybu, marchnata neu weithredu—
(a)safonau sy'n ymwneud ag ansawdd cynhyrchion, neu
(b)systemau i roi dosbarth ar gynhyrchion.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
7LL+CDatblygu, adolygu neu weithredu cynlluniau ar gyfer ardystio cynhyrchion neu weithgareddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu neu gyflenwi cynhyrchion.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
8LL+CGwneud gwaith ardystio cynhyrchion, cofrestru nodau masnach ardystio, a swyddogaethau perchenogion nodau o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
9LL+CDarparu neu hybu darparu—
(a)hyfforddiant ar gyfer personau sy'n cymryd rhan yn y diwydiant cig coch neu'n bwriadu cymryd rhan ynddo, a
(b)eu haddysg mewn pynciau sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
10LL+CHybu—
(a)mabwysiadu mesurau i sicrhau amodau gwaith mwy diogel a gwell, a
(b)darparu a gwella cyfleusterau i bersonau a gyflogir yn y diwydiant cig coch.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
11LL+CHybu neu wneud gwaith ymchwil i fesurau i sicrhau amodau gwaith mwy diogel a gwell.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
12LL+CHybu neu wneud gwaith ymchwil i amlder, ffyrdd o atal a ffyrdd o wella clefydau diwydiannol.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
13LL+CHybu neu wneud trefniadau i annog pobl i ddod i mewn i'r diwydiant cig coch.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
14LL+CHybu neu wneud gwaith ymchwil i wella trefniadau ar gyfer marchnata a dosbarthu cynhyrchion.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
15LL+CHybu neu wneud gwaith ymchwil i faterion sy'n ymwneud â mynd trwy neu ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir gan y diwydiant cig coch.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
16LL+CHybu trefniadau—
(a)ar gyfer cymdeithasau cydweithredol,
(b)i gyflenwi deunyddiau a chyfarpar, ac
(c)i farchnata a dosbarthu cynhyrchion.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
17LL+CHybu datblygiad y fasnach allforio, gan gynnwys hybu neu wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddusrwydd tramor.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
18LL+CHybu neu wneud trefniadau fel bod y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn dod yn fwy cyfarwydd â'r nwyddau a'r gwasanaethau a gyflenwir gan y diwydiant cig coch ac â'r dulliau o'u defnyddio.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
19LL+CHybu neu wneud y gwaith o gasglu a fformiwleiddio ystadegau.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
20LL+CRhoi cyngor ar unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r diwydiant cig coch a gwneud ymchwil at y dibenion hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
21LL+CGwneud trefniadau i roi ar gael wybodaeth sy'n ymwneud â'r diwydiant cig coch.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
22LL+CYmgymryd ag unrhyw ffurf ar gydlafurio neu gydweithredu â phersonau eraill wrth iddynt arfer unrhyw un neu unrhyw rai o'r swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
(a gyflwynir gan adran 5)
ATODLEN 2LL+CTALU
RHAN 1LL+CCYFRIFO ARDOLL A THALU
1LL+CCaiff ardoll sy'n cael ei gosod ar gigyddwr neu allforiwr ei chyfrifo'n unol â'r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
2LL+CMae ardoll yn cael ei chyfrifo drwy adio'r gwahanol elfennau canlynol at ei gilydd yn achos pob anifail a gigyddir neu a allforir—
(a)yr elfen gynhyrchu, a
(b)yr elfen gigydda neu allforio.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
3(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu cyfradd yr elfen gynhyrchu a'r elfen gigydda neu allforio.LL+C
(2)Caiff Gweinidogion Cymru bennu gwahanol gyfraddau ar gyfer gwahanol achosion (gan gynnwys gwahanol ddisgrifiadau o gigyddwr neu allforiwr a gwahanol ddisgrifiadau o anifail).
(3)Caiff y cyfraddau a bennir o dan y paragraff hwn gynnwys cyfradd o ddim, ond ni chânt fod yn uwch na'r cyfraddau uchaf a nodir yn yr Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
4LL+CAt ddibenion y tablau a welir yn y paragraffau sy'n dilyn—
(a)mae llo yn anifail sy'n llai na chwe mis oed (yn achos anifail a allforir) neu anifail sydd a'i bwysau wedi iddo gael ei baratoi ar ôl ei gigydda yn llai na 68kg (yn achos anifail a gigyddwyd), a
(b)nid yw cyfeiriad at “wartheg” yn cynnwys lloi.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
Cyfradd uchaf yr elfen gynhyrchuLL+C
5Ni chaiff yr elfen gynhyrchu ar gyfer pob anifail unigol fod yn uwch na'r cyfraddau uchaf sydd wedi eu nodi yn y tabl canlynol—
Yr Anifail | Cyfradd uchaf yr elfen gynhyrchu ar gyfer pob anifail(£) |
---|---|
Gwartheg | 5.25 |
Lloi | 0.50 |
Defaid | 0.60 |
Moch | 1.075 |
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
Cyfradd uchaf yr elfen gigydda neu allforioLL+C
6Ni chaiff yr elfen gigydda neu allforio ar gyfer pob anifail unigol fod yn uwch na'r cyfraddau uchaf sydd wedi eu nodi yn y tabl canlynol—
[F1Anifail | Cyfradd uchaf yr elfen gigydda neu allforio ar gyfer pob anifail) |
---|---|
Gwartheg | £ 2.12 |
Lloi | £ 0.50 |
Defaid | £ 0.32 |
Moch | £ 0.40] |
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 para. 6 Table wedi ei amnewid (1.4.2012) gan Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/2946), erglau. 1, 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)
I29Sch. 2 para. 6 in force at 1.4.2012 by S.I. 2011/2802, art. 2(2) (with arts. 3, 4)
RHAN 2LL+CDYDDIADAU TALU
Talu'r ardoll gan gigyddwyr ac allforwyrLL+C
7Rhaid i gigyddwr neu allforiwr dalu ardoll sy'n cael ei gosod mewn perthynas â gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt mewn unrhyw fis o fewn 15 niwrnod i ddiwedd y mis hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)