
Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010
2010 mccc 4
Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i drosglwyddo i'r Bwrdd hwnnw swyddogaethau gwneud penderfyniadau mewn perthynas â thaliadau aelodau'r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru, ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â hynny.
Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 26 Mai 2010 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 21 Gorffennaf 2010, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—
1 [Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd] LL+C
(1)Bydd [bwrdd i’w alw’n Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd] (“y Bwrdd”).
(2)Aelodau'r Bwrdd yw'r Cadeirydd a phedwar aelod arall.
(3)Os bydd swydd y Cadeirydd yn wag, neu os na all y Cadeirydd weithredu, caiff aelodau eraill y Bwrdd benodi un o'u plith yn Gadeirydd Dros Dro.
(4)Cworwm y Bwrdd yw tri.
(5)Ni chaiff y Bwrdd wneud yr un penderfyniad o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf oni bai bod y cynnig i wneud hynny wedi'i gymeradwyo gan o leiaf dri o aelodau'r Bwrdd.
(6)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) a (5) ac i adran 2(2), mae'r Bwrdd i reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(7)Nid yw'r canlynol yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion y Bwrdd—
(a)swydd wag ymhlith yr aelodau, neu
(b)diffyg wrth benodi aelod.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
2Annibyniaeth, bod yn agored ac yn gynhwysolLL+C
(1)Nid yw'r Bwrdd, wrth arfer ei swyddogaethau, i fod o dan gyfarwyddyd na rheolaeth y [Senedd] na Chomisiwn y [Senedd].
(2)Rhaid i'r Bwrdd—
(a)weithredu'n gyffredinol mewn modd agored a thryloyw, a
(b)cyhoeddi ar wefan y [Senedd] y cyfryw wybodaeth a fydd yn caniatáu i'r cyhoedd gael eu hysbysu am ei weithgareddau.
(3)Nid yw is-adran (2) yn atal y Bwrdd rhag ystyried mater yn breifat na rhag cadw ei ystyriaeth ar y mater hwnnw'n breifat os yw natur y mater hwnnw, ym marn y Bwrdd, yn golygu ei bod yn briodol gwneud hynny.
(4)Rhaid i'r Bwrdd, cyn arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, ymgynghori â'r personau a ganlyn y mae'n debyg yr effeithir arnynt, oni bai bod y Bwrdd yn credu bod amgylchiadau sy'n golygu ei bod yn amhriodol gwneud hynny—
(a)[Aelodau o’r Senedd],
(b)staff a gyflogir gan [Aelodau o’r Senedd] (neu gan [Aelodau o’r Senedd]),
(c)undebau llafur perthnasol, a
(d)unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn briodol.
(5)Rhaid i'r Bwrdd, wrth ymgynghori ag [Aelodau o’r Senedd], roi sylw i is-adran (1).
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
3Swyddogaethau'r BwrddLL+C
(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), swyddogaethau'r Bwrdd yw'r rhai a roddir iddo gan adrannau 20, 22, 24, 53 a 54 o'r Ddeddf, fel y'i diwygir gan y Mesur hwn.
(2)Rhaid i'r Bwrdd arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar wireddu'r amcanion canlynol—
(a)darparu lefel taliadau ar gyfer [Aelodau o’r Senedd] —
(i)sy'n adlewyrchiad teg o gymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y disgwylir iddynt eu cyflawni, a
(ii)nad yw, ar sail ariannol, yn atal personau y mae ganddynt yr ymrwymiad a'r gallu angenrheidiol rhag ceisio cael eu hethol i'r [Senedd],
(b)darparu adnoddau ar gyfer [Aelodau o’r Senedd] sy'n ddigonol i'w galluogi i arfer eu swyddogaethau fel [Aelodau o’r Senedd], a
(c)sicrhau priodolder, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder o ran gwariant cyllid cyhoeddus.
(3)Rhaid i'r Bwrdd adolygu'n barhaus i ba raddau y mae'n ymddangos bod y penderfyniadau hynny'n gwireddu'r amcanion a nodir yn is-adran (2), gan roi sylw i'r canlynol—
(a)y profiad a geir drwy roi penderfyniadau'r Bwrdd ar waith,
(b)newidiadau yn swyddogaethau [Aelodau o’r Senedd], a
(c)unrhyw newidiadau perthnasol eraill yn yr amgylchiadau.
(4)Caiff y Bwrdd, o dro i dro, ystyried unrhyw fater arall sy'n berthnasol i gyflawni ei swyddogaethau, naill ai o'i ben a'i bastwn ei hun neu ar ôl cael cais ysgrifenedig gan y Clerc.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
4Anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r BwrddLL+C
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n cael eu hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd.
5Pŵer i ddiwygio Atodlen 1LL+C
(1)Mae'r adran hon yn effeithiol os bydd y [Senedd] yn penderfynu y dylid diwygio Atodlen 1 er mwyn—
(a)ychwanegu swydd neu ddisgrifiad o berson a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen honno,
(b)dileu swydd neu ddisgrifiad o berson o'r fath, neu
(c)newid disgrifiad swydd neu berson o'r fath.
(2)Caiff y Cwnsler Cyffredinol, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 1 er mwyn rhoi ei effaith i benderfyniad o'r fath.
(3)Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (2) yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(4)Rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol, pan y'i hysbysir yn ysgrifenedig gan y Llywydd bod y [Senedd] wedi gwneud penderfyniad o dan is-adran (1)—
(a)arfer y pŵer a roddir iddo gan is-adran (2), a
(b)gwneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
6Penodi aelodau'r BwrddLL+C
(1)Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd—
(a)i'w penodi gan Gomisiwn y [Senedd], a
(b)i ddal eu swydd am gyfnod penodedig o bum mlynedd o ddyddiad eu priod benodiadau.
(2)Ni chaniateir penodi neb yn aelod o'r Bwrdd os yw'r person hwnnw eisoes wedi'i benodi'n aelod o'r Bwrdd ddwy waith.
(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Bwrdd.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
7Terfynu aelodaeth o'r BwrddLL+C
Mae'r Cadeirydd neu unrhyw aelod arall o'r Bwrdd yn peidio â dal swydd—
(a)pan ddaw'r cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer i ben,
(b)os bydd y person hwnnw'n ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gomisiwn y [Senedd],
(c)os daw'r person hwnnw'n anghymwys i fod yn aelod o'r Bwrdd, neu
(d)os bydd y [Senedd] yn penderfynu felly drwy gynnig a gynigir ar ran Comisiwn y [Senedd] gan aelod o Gomisiwn y [Senedd], ar yr amod, os caiff y penderfyniad ei basio ar bleidlais, na fydd nifer y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw o blaid y penderfyniad yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
8Telerau ac amodauLL+C
(1)Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd i ddal eu swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.
(2)Comisiwn y [Senedd] sydd i bennu'r telerau a'r amodau hynny.
(3)Rhaid i Gomisiwn y [Senedd] dalu Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd unrhyw symiau y mae ganddynt hawl i'w cael o dan y telerau a'r amodau hynny.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
9Cymorth gweinyddolLL+C
Rhaid i Gomisiwn y [Senedd] ddarparu ar gyfer y Bwrdd unrhyw gymorth gweinyddol y mae'n rhesymol i'r Bwrdd ofyn amdano i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
10Cyfarfodydd y BwrddLL+C
(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3) ac i adran 13(7), (8) a (9), mater i'r Bwrdd yw penderfynu pa bryd y bydd yn cyfarfod.
(2)Rhaid i'r Bwrdd gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
(3)Rhaid i'r Bwrdd, os bydd y Clerc yn gofyn iddo, gyfarfod er mwyn ystyried mater neu faterion penodol sy'n berthnasol i'w swyddogaethau.
(4)Rhaid i gais o dan is-adran (3) fod mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu'r mater neu'r materion o dan sylw.
11Adroddiad blynyddolLL+C
Rhaid i'r Bwrdd, cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, osod gerbron y [Senedd] adroddiad blynyddol ar ei weithgareddau, gan gynnwys sut mae wedi defnyddio adnoddau, yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
12PenderfyniadauLL+C
(1)Rhaid i bob penderfyniad a wneir gan y Bwrdd o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf fod mewn ysgrifen.
(2)Rhaid i'r Bwrdd gyfleu ei benderfyniadau i Gomisiwn y [Senedd].
(3)Rhaid i Gomisiwn y [Senedd], cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i unrhyw benderfyniad gael ei wneud gan y Bwrdd—
(a)ymgorffori'r penderfyniad hwnnw, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau eraill sydd i barhau mewn grym, mewn un ddogfen, a
(b)cyhoeddi'r ddogfen honno.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
13Arfer swyddogaethau mewn perthynas â chyflogauLL+C
(1)Yn ddarostyngedig i is-adran (2), mae cyfeiriadau yn yr adran hon at dymor [Senedd] yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir pôl mewn etholiad cyffredinol cyffredin i'r [Senedd] ac sy'n diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir pôl yn yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf i'r [Senedd] .
(2)Os bydd—
(a)etholiad cyffredinol anghyffredin i'r [Senedd] yn cael ei gynnal, a
(b)bod adran 5(5) o'r Ddeddf yn gymwys,
wedyn, at ddibenion yr adran hon, mae tymor y [Senedd] yn diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol anghyffredin hwnnw ac mae tymor nesaf y [Senedd] yn dechrau ar y diwrnod y cynhelir y pôl hwnnw.
(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4) ni chaiff y Bwrdd wneud mwy nag—
(a)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i [Aelodau o’r Senedd]), a
(b)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru),
sydd i fod yn effeithiol yn ystod pob un o dymhorau'r [Senedd] .
(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan is-adran (3) beidio â bod yn gymwys.
(5)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (4) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(6)Rhaid i Gomisiwn y [Senedd] osod gerbron y [Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (5) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(7)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor [Senedd], wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.
(8)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor [Senedd], wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.
(9)Rhaid i'r Bwrdd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (7) ac (8) cyn diwedd y tymor [Senedd] cyn y tymor [Senedd] y maent i fod yn effeithiol mewn perthynas ag ef, ond os yw'n methu â gwneud hynny, rhaid i Gomisiwn y [Senedd] —
(a)nes bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud, barhau i wneud taliadau yn unol â'r penderfyniadau a gafodd effaith mewn perthynas â'r tymor blaenorol hwnnw o'r [Senedd], a
(b)pan gaiff penderfyniadau o'r fath eu gwneud, addasu unrhyw daliadau dilynol i wneud iawn am unrhyw dandaliadau neu adennill unrhyw ordaliadau, yn ôl fel y digwydd.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
14Arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ad-dalu costau a ysgwyddwyd wrth gyflogi staffLL+C
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth ar gyfer ad-dalu costau a ysgwyddwyd gan [Aelodau o’r Senedd] (neu gan grwpiau o [Aelodau o’r Senedd]) wrth gyflogi staff.
(2)Os yw'r Bwrdd wedi gwneud penderfyniad sy'n cynnwys unrhyw ddarpariaeth y mae'r adran hon yn gymwys iddi, ni chaiff y Bwrdd, drwy benderfyniad dilynol, wneud unrhyw addasiad i'r ddarpariaeth honno mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'r ddarpariaeth honno'n effeithiol mewn perthynas â hi (neu â rhan ohoni) gyntaf.
(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiad a osodir gan isadran (2) beidio â bod yn gymwys.
(4)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (3) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(5)Rhaid i Gomisiwn y [Senedd] osod gerbron y [Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (4) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
15Arfer swyddogaethau: cyffredinolLL+C
(1)Rhaid i'r Bwrdd, y tro cyntaf y mae'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i argymhellion Panel Adolygu Annibynnol [Senedd] Cenedlaethol Cymru ar drefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i [Aelodau o’r Senedd] a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2009, i'r graddau y mae'r argymhellion hynny'n berthnasol i'r mater hwnnw.
(2)Os bydd y Bwrdd, wrth wneud penderfyniad y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, yn cynnwys yn y penderfyniad hwnnw ddarpariaeth sydd, mewn unrhyw fodd, yn wahanol i'r argymhellion hynny, rhaid i'r Bwrdd ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros wneud hynny gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(3)Rhaid i Gomisiwn y [Senedd] osod gerbron y [Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (2) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.
(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (1) caiff y Bwrdd, pan fo'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i'r argymhellion hynny i'r graddau y mae'n ymddangos i'r Bwrdd eu bod yn dal yn berthnasol i'r mater hwnnw.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
16Diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006LL+C
Diwygir y Ddeddf yn unol ag Atodlen 3.
17Diwygio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000LL+C
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
18DehongliLL+C
Yn y Mesur hwn—
(a)ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32),
(b)mae i unrhyw ymadroddion eraill sydd heb eu diffinio fel arall yn y Mesur hwn yr un ystyr ag yn y Ddeddf.
19Darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbedLL+C
(1)Nid yw'r ffaith bod adran 16 yn dod i rym yn effeithio ar unrhyw benderfyniad neu gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan ddarpariaethau'r canlynol—
(a)adrannau 20, 24 neu 53 o'r Ddeddf, neu
(b)adrannau 16, 18 neu 34A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).
(2)Mae unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan benderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath yn parhau mewn grym fel pe bai wedi'i gwneud gan y Bwrdd o dan adrannau 20, 24 neu 53 (yn ôl fel y digwydd) o'r Ddeddf fel y'i diwygir gan y Mesur hwn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriadau at y [Senedd] neu at Gomisiwn y [Senedd] mewn penderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath fel cyfeiriadau at y Bwrdd, i'r graddau bod angen gwneud hynny er mwyn rhoi effaith i'r is-adran hon.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
20Enw Byr a ChychwynLL+C
(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur [Senedd] Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
(2)Daw adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 12, 17, 18 a'r adran hon i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y gosodir hysbysiad o dan is-adran (4) gerbron y [Senedd] .
(4)Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiadau cyntaf Cadeirydd a phedwar aelod arall y Bwrdd i gyd gael eu gwneud, osod gerbron y [Senedd] hysbysiad—
(a)o'r ffaith bod y penodiadau o dan sylw wedi'u gwneud,
(b)o enwau'r personau a benodwyd, a
(c)o'r ffaith y daw holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) i rym drannoeth y diwrnod y gosodir yr hysbysiad a hynny am fod yr hysbysiad yn cael ei osod.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
(a gyflwynir gan adran 4)
ATODLEN 1LL+CANGHYMWYSO RHAG BOD YN AELOD O'R BWRDD
1LL+CMae'r personau canlynol wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd—
(a)[Aelod o’r Senedd],
(b)y Cwnsler Cyffredinol (os nad yw'n [Aelod o’r Senedd]),
(c)ymgeisydd i'w ethol yn [Aelod o’r Senedd],
(d)person y gallai fod angen i'w enw, pe bai sedd [Aelod ... o’r Senedd] yn dod yn wag, gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf (seddi gwag ...),
(e)aelod o Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, ... Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon,
(f)aelod o staff y [Senedd],
(g)aelod o staff Llywodraeth ... Cymru,
(h)person a gyflogir gan [Aelod o’r Senedd] neu gan [grŵp o Aelodau] er mwyn helpu'r aelod hwnnw neu'r aelodau o'r grŵp hwnnw i gyflawni swyddogaethau [Aelod o’r Senedd],
(i)Archwilydd Cyffredinol Cymru,
(j)Comisiynydd Safonau [y Senedd],
(k)aelod o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Comisiwn y [Senedd],
(l)person sy'n dal apwyntiad fel Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y [Senedd],
(m). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(n)person sy'n dal apwyntiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llywodraeth ... Cymru.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
2LL+CAt ddibenion paragraff 1(c) daw person yn ymgeisydd i'w ethol yn [Aelod o’r Senedd]—
(a)ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw'n ymgeisydd (boed gan y person o dan sylw neu gan eraill ), neu
(b)ar y diwrnod yr enwebir y person hwnnw'n ymgeisydd mewn etholiad i'r [Senedd],
p'un bynnag fydd gyntaf.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
3LL+CWrth benderfynu, at ddibenion paragraff 1(d), a allai fod angen i enw person gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae gofynion paragraffau (b) a (c) o [is-adran (4)] o'r adran honno i'w hanwybyddu.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
(a gyflwynir gan adran 6(3))
ATODLEN 2LL+CPENODI AELODAU'R BWRDD
1LL+CRhaid i'r Clerc wneud trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr i'w penodi'n Gadeirydd, ac yn aelodau eraill i'r Bwrdd.
2LL+CCaiff y trefniadau hynny—
(a)eu diwygio o dro i dro, a
(b)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer penodiadau gwahanol a phenodiadau a wneir mewn amgylchiadau gwahanol.
3LL+CO ran y trefniadau hynny, rhaid i'r Clerc sicrhau—
(a)nad ydynt yn cynnwys cyfraniad gan unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Clerc ei bod yn debyg yr effeithir arno wrth i'r Bwrdd arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, na chan unrhyw berson sy'n gysylltiedig â pherson o'r fath, a
(b)eu bod, yn ddarostyngedig i is-baragraff (a), yn rhoi sylw priodol i'r egwyddor y dylid cael cyfle cyfartal i bawb.
4LL+CRhaid i'r Clerc beidio â rhoi eu heffaith i'r trefniadau mewn perthynas â phenodiad penodol oni bai eu bod wedi'u cyhoeddi ar wefan y [Senedd] yn gyntaf a'u bod yn parhau i gael eu cyhoeddi tra bo'r broses o ddewis person i'w benodi i'r swydd yn mynd rhagddi.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
5LL+CRhaid i Gomisiwn y [Senedd] benodi'n Gadeirydd, neu'n aelod o'r Bwrdd, yn ôl fel y digwydd, unrhyw berson a ddetholir, yn unol â'r trefniadau hyn, i'w benodi i'r swydd honno.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
6LL+CNid yw paragraff 3 yn gymwys os yw'n ymddangos i Gomisiwn y [Senedd] fod y person o dan sylw wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Bwrdd o dan adran 3.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
(a gyflwynir gan adran 16)
ATODLEN 3LL+CDIWYGIO DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 2006
Adran 20LL+C
1Yn adran 20(1) yn lle “The Assembly must make provision” rhowch “Provision must be made”.
2Yn adran 20(2) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.
3Yn adran 20(3) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.
4Yn lle adran 20(6) rhowch—
“(6)Provision under this section is to be made by determination made by the Board.”.
5Ar ôl adran 20(6) rhowch—
“(7)The Assembly Commission must give effect to any determination made by the Board under this section.
(8)In this section (and in sections 22, 24, 53 and 54) “the Board” means the National Assembly for Wales Remuneration Board established by section 1 of the National Assembly for Wales (Remuneration) Measure 2010 (nawm 4 —).”.
Adran 22LL+C
6Yn adran 22(2) yn lle “The Assembly” rhowch “The Assembly Commission” a hepgorwch “(and may, in particular, do so by requiring it to be published by the Assembly Commission).”.
7Yn lle adran 22(3) rhowch—
“(3)The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 20(6) as soon as is reasonably practicable after it is made.”.
Adran 24LL+C
8Yn adran 24(1) hepgorwch “as the Assembly from time to time determines” ac yn ei le rhowch “as the Board from time to time determines”.
9Hepgorwch is-adran 24(4).
10Yn lle is-adran 24(6) rhowch—
“(6)The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 24(1) as soon as is reasonably practicable after it is made.”.
11Ar ôl is-adran 24(6) rhowch—
“(7)The Assembly Commission must ensure that information concerning the sums paid under this section is published for each financial year.”.
Adran 53LL+C
12Yn adran 53(1) yn lle “The Assembly must make provision” rhowch “Provision must be made”.
13Yn adran 53(2) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.
14Yn adran 53(3) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.
15Yn lle adran 53(7) rhowch—
“(7)Provision under this section is to be made by determination made by the Board.”.
16Ar ôl adran 53(7) rhowch—
“(8)The Assembly Commission must give effect to any determination made by the Board under this section.”.
Adran 54LL+C
17Yn adran 54(2) yn lle “The Assembly” rhowch “The Assembly Commission” a hepgorwch “(and may, in particular, do so by requiring it to be published by the Assembly Commission)”.
18Yn lle adran 54(3) rhowch—
“(3)The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 53(7) as soon as is reasonably practicable after it is made.”.