Search Legislation

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, RHAN 5. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 5LL+CCYFFREDINOL

41Cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleolLL+C

(1)Caiff y partneriaid iechyd meddwl lleol at ddibenion eu swyddogaethau o dan Rannau 1 a 3 o'r Mesur hwn–

(a)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau, adeiladau neu adnoddau eraill i'w gilydd;

(b)sefydlu a chynnal cronfa gyfun.

(2)Caiff Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur hwn–

(a)roi staff, nwyddau, gwasanaethau, adeiladau neu adnoddau eraill i'w gilydd;

(b)sefydlu a chadw cronfa gyfun.

(3)At ddibenion is-adrannau (1) a (2) cronfa gyfun yw cronfa–

(a)sy'n cael ei ffurfio o gyfraniadau gan bersonau a grybwyllir yn is-adrannau (1) a (2); a

(b)y caniateir gwneud taliadau allan ohoni tuag at wariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau o dan Rannau 1 i 3.

(4)Caiff partneriaid iechyd meddwl lleol, os gwelant yn dda, arfer unrhyw un neu ragor o'u swyddogaethau o dan Rannau 1 a 3 ar y cyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 41 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I2A. 41 mewn grym ar 6.6.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(t)

I3A. 41 mewn grym ar 1.10.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(i)

42Rhannu gwybodaethLL+C

(1)Caiff partner iechyd meddwl lleol (partner 1) roi i bartner arall (partner 2)–

(a)gwybodaeth a gafodd partner 1 wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 1 neu 3 o'r Mesur hwn; a

(b)gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn y darperir neu y gellid bod yn darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol iddo gan bartner 2 neu oedolyn y mae partner 2 yn arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Mesur hwn mewn perthynas ag ef.

(2)Caiff awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru roi i'w gilydd wybodaeth–

(a)y mae unrhyw un neu ragor ohonynt wedi ei chael wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur hwn; a

(b)sy'n ymwneud â chlaf perthnasol at ddibenion y Rhan honno.

(3)Nid oes dim yn is-adran (1) neu (2) sy'n awdurdodi datgelu unrhyw wybodaeth yn groes i unrhyw ddarpariaeth, neu a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth, yn y Mesur hwn neu yn unrhyw Fesur arall neu yn unrhyw Ddeddf Seneddol neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (pryd bynnag y cawsant eu pasio neu eu gwneud) sy'n atal datgelu'r wybodaeth.

(4)Nid yw'r adran hon yn rhagfarnu unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol neu Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 42 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I5A. 42 mewn grym ar 6.6.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(u)

I6A. 42 mewn grym ar 1.10.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(j)

F143Diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970LL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 43 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I8A. 43 mewn grym ar 8.5.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/3046, ergl. 4(f) (ynghyd ag ergl. 5)

I9A. 43 mewn grym ar 6.6.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(v)

I10A. 43 mewn grym ar 1.10.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(k)

44Codau ymarferLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru baratoi, ac o bryd i'w gilydd adolygu, un neu ragor o godau ymarfer at y dibenion canlynol–

(a)er mwyn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, cydgysylltwyr gofal neu unrhyw bersonau eraill mewn perthynas â'u swyddogaethau o dan y Mesur hwn;

(b)er mwyn rhoi canllawiau i unrhyw bersonau mewn cysylltiad â gweithrediad darpariaethau'r Mesur hwn.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu bod unrhyw god o'r fath, neu unrhyw god o'r fath sydd wedi ei adolygu, yn cael ei gyhoeddi.

(3)Wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, rhaid i'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) roi sylw i unrhyw god ymarfer a gyhoeddir o dan yr adran hon.

(4)Cyn paratoi neu adolygu unrhyw god o'r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae Gweinidogion Cymru'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copïau o unrhyw god o'r fath neu unrhyw god o'r fath sydd wedi ei adolygu gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pasio penderfyniad yn ei gwneud yn ofynnol i'r cod gael ei dynnu'n ôl, rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r cod yn ôl.

(6)Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru basio penderfyniad ynghylch cod neu god wedi ei adolygu o dan is-adran (5) ar ôl i gyfnod o 40 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod y gosodwyd copi o'r cod gerbron y Cynulliad ddod i ben.

(7)At ddibenion is-adran (6), ni chymerir i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu unrhyw god ymarfer drwy gyfarwyddyd.

(9)Rhaid i unrhyw gyfarwyddyd o dan is-adran (8) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 44 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I12A. 44 mewn grym ar 3.1.2012 gan O.S. 2011/3046, ergl. 2(h) (ynghyd ag ergl. 5)

45Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbartholLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy–

(a)datgymhwyso Rhan 1 (cyhyd ag y bo'r rheoliadau mewn grym) mewn perthynas â dwy neu ragor o ardaloedd awdurdodau lleol; a

(b)yn lle cymhwyso'r Rhan honno ac, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol y Rhan hon a Rhan 6, mewn perthynas ag ardaloedd cyfun yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) (cyfeirir at yr ardal gyfun honno yn yr adran hon fel “rhanbarth”).

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn pennu o leiaf un Bwrdd Iechyd Lleol ac un awdurdod lleol yn bartneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth (ac nid oes ots os nad yw unrhyw ran o'r ardal y cyfansoddwyd y cyfryw Fwrdd neu awdurdod ar ei chyfer yn dod o fewn y rhanbarth).

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth–

(a)sy'n pennu mwy nag un Bwrdd neu awdurdod o'r fath ymhlith y partneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth;

(b)sy'n gwneud yr addasiadau hynny i Ran 1 yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 45 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I14A. 45 mewn grym ar 8.5.2012 gan O.S. 2011/3046, ergl. 4(g) (ynghyd ag ergl. 5)

46Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbartholLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy–

(a)datgymhwyso Rhan 3 (cyhyd ag y bo'r rheoliadau mewn grym) mewn perthynas â dwy neu ragor o ardaloedd awdurdodau lleol; a

(b)yn lle cymhwyso'r Rhan honno ac, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol y Rhan hon a Rhan 6, mewn perthynas ag ardaloedd cyfun yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) (cyfeirir at yr ardal gyfun honno yn yr adran hon fel “rhanbarth”).

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn pennu o leiaf un Bwrdd Iechyd Lleol ac un awdurdod lleol yn bartneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth (ac nid oes ots os nad yw unrhyw ran o'r ardal y cyfansoddwyd y cyfryw Fwrdd neu awdurdod ar ei chyfer yn dod o fewn y rhanbarth).

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth –

(a)sy'n pennu mwy nag un Bwrdd neu awdurdod o'r fath ymhlith y partneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth;

(b)sy'n gwneud yr addasiadau hynny i Ran 1 yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 46 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I16A. 46 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(w)

47Rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofalLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ynghylch cymhwystra unigolion–

(a)i arfer swyddogaethau partner iechyd meddwl lleol er mwyn cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o dan adran 9;

(b)i gael eu penodi'n gydgysylltwyr gofal o dan adran 14.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu ynghylch y materion canlynol o ran person–

(a)cymwysterau;

(b)sgiliau;

(c)hyfforddiant; neu

(d)profiad.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â chymhwystra unigolion i gynnal y cyfnod dadansoddi o ran asesiad iechyd meddwl sylfaenol o'i chymharu â'r ddarpariaeth a wneir o ran cymhwystra unigolion i gael eu penodi'n gydgysylltwyr gofal.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 47 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I18A. 47 mewn grym ar 6.6.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(x)

I19A. 47 mewn grym ar 1.10.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(l)

48Dyletswydd i adolygu'r MesurLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad y Mesur hwn at ddibenion cyhoeddi adroddiad neu adroddiadau yn unol ag is-adrannau (3) i (6).

(2)Cyn ymgymryd ag adolygiad o weithrediad unrhyw ran neu ddarpariaeth o'r Mesur, rhaid i Weinidogion Cymru eu bodloni eu hunain bod amser digonol wedi mynd heibio i'r rhan honno neu'r ddarpariaeth honno fod ar waith; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6).

(3)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 1 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 2(1), 3(1), 4(1), 6(2), 7(2), 8(2), 9(2) a 10(1) i (3).

(4)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 2 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 13(1), 16(1) ac 17(1) a (10).

(5)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 3 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 18(1) a (3), 19, 23(1) a (2), 25, 26(2) a 27(1) a (2).

(6)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 4 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn adran 130E(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, fel y'i mewnosodwyd gan adran 31 o'r Mesur hwn.

(7)Caniateir cyhoeddi unrhyw ddau adroddiad neu ragor yn yr un ddogfen.

(8)At ddibenion yr adran hon, ystyr “cychwyn” yw cychwyn ar gyfer unrhyw achos, dosbarth o achos, ardal neu ddiben.

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw adroddiad y mae'n ofynnol ei gyhoeddi o dan is-adrannau (3) i (6) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 48 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

I21A. 48 mewn grym ar 1.10.2012 gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(m)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources