Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 3 – Targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio

25.Mae adran 3 yn gosod targedau ar gyfer awdurdodau lleol o ran ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio gwastraff trefol ac yn gwneud awdurdodau nad ydynt yn cyrraedd y targedau yn atebol i dalu cosb ariannol. Mae'r awdurdodau lleol y cyfeirir atynt yn yr adran hon yn gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru (gweler y diffiniadau yn adran 17).

26.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod o leiaf y maint targed o'u gwastraff trefol ym mhob blwyddyn ariannol darged yn cael ei adfer (drwy weithrediadau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio neu gompostio). Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i awdurdodau lleol gyrraedd y maint targed ym mhob blwyddyn ariannol ddilynol nes cyrraedd y flwyddyn ariannol darged nesaf, ac ar yr adeg honno bydd maint targed newydd yn cael ei ddefnyddio. Mae'r tabl yn is-adran (3) yn pennu’r blynyddoedd targed a’r meintiau targed ar gyfer pob un ohonynt. Mae is-adran (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r tabl hwn drwy orchymyn. Mae unrhyw orchymyn o'r fath yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 20 (2) a (3)).

27.At ddibenion y targed, mae “compostio” yn cynnwys unrhyw ffurf arall ar drawsnewid drwy brosesau biolegol (is-adran (5)). Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ychwanegol hefyd drwy orchymyn, sy'n nodi sut i gadarnhau a yw gwastraff yn cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, neu ei gompostio at ddibenion y targedau. Mae'r gorchmynion hynny yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 20(1)).

28.Os na fydd awdurdod lleol yn cyrraedd targed ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio neu gompostio, bydd atebolrwydd i dalu cosb yn codi o dan is-adran (7). Mae cosbau i'w talu i Weinidogion Cymru. Gwneir darpariaeth ychwanegol am gosbau yn adran 6 (gweler y nodiadau esboniadol perthnasol isod).

29.Mae is-adran (8) yn esbonio beth a olygir gan wastraff trefol awdurdod lleol o flwyddyn ariannol darged. Maint cyfan y canlynol yn ôl eu pwysau ydyw-