Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

Cyflwyniad

1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 fel y cafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 2 Tachwedd 2010 a’i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 15 Rhagfyr 2010.

2.Mae Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi eu paratoi er mwyn cynorthwyo'r sawl sy’n darllen y Mesur. Nid ydynt yn rhan o'r Mesur drafft nac wedi eu hategu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

3.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Mesur arfaethedig. Nid ydynt, ac ni fwriedir iddynt fod, yn ddisgrifiad cynhwysfawr o'r Mesur. Felly, pan fo adran neu ran o adran yn hunanesboniadol, ni roddir unrhyw esboniad pellach na sylw pellach.

4.Mae'r Mesur yn gwneud darpariaeth ynghylch—

  • pen taith enillion o daliadau a godir am fagiau siopa untro;

  • y targedau sydd i'w cyrraedd gan awdurdodau lleol mewn perthynas â gwastraff;

  • gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng gwastraff ar safle tirlenwi;

  • cynlluniau rheoli gwastraff safle i weithiau sy'n cynnwys adeiladu neu ddymchwel.

5.Ceir cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu ar y pynciau hyn ym Materion 6.1, 6.3 a 6.4 sydd wedi eu cynnwys ym Maes 6 o Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Ychwanegwyd y Materion hyn at Atodlen 5 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Amgylchedd) 2010 ac maent yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth ynghylch—

  • atal, lleihau, casglu, rheoli, trin neu waredu gwastraff,

  • diogelu neu wella'r amgylchedd, o ran llygredd(1),

  • a diogelu neu wella’r amgylchedd o ran niwsansau(2).

6.Mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol o dan faterion 6.1, 6.3 a 6.4 yn ddarostyngedig i nifer o eithriadau, nad yw’r un ohonynt yn eithrio’r ddarpariaeth a wneir yn y Mesur hwn o gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Y taliadau a godir am fagiau siopa untro: pen taith yr enillion

7.Mae'r adran hon yn diwygio Atodlen 6 i Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p.27) (“Deddf 2008”). Mae'r Atodlen hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y broses o godi tâl gan werthwyr nwyddau am gyflenwi bagiau siopa untro. Mae Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn bwriadu i reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i werthwyr godi tâl ddod i rym yn 2011.

8.Nid oedd Deddf 2008 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod dyletswyddau ar werthwyr nwyddau, nac unrhyw un arall, mewn cysylltiad â phen taith yr enillion o'r taliadau a osodir o dan reoliadau. Mae adran 1 o'r Mesur hwn yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud hynny drwy fewnosod paragraff 4A newydd a pharagraff 4B newydd yn Atodlen 6 i Ddeddf 2008.

9.Diben ac effaith y paragraff 4A newydd yw caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i ddefnyddio enillion net y tâl at ddibenion y mae’n rhaid iddynt ymwneud â materion amgylcheddol penodol ac a bennir mewn rheoliadau. Mae effaith wedi ei rhoi i hyn yn bennaf drwy is-baragraff (2) o baragraff 4A sy'n darparu y gall y ddarpariaeth honno gael ei gwneud drwy reoliadau o dan Atodlen 6.

10.Mae i “net proceeds of the charge” yr un ystyr at y diben hwn ag sydd iddo at bob diben arall o dan Atodlen 6 ac o’r herwydd caiff ei ddiffinio drwy gyfeirio at y diffiniad o’r term hwnnw sydd eisoes ym mharagraff 7(4) o Atodlen 6(3). Wrth wneud rheoliadau ynghylch defnyddio enillion net y tâl bydd y rheoliadau gan hynny yn canolbwyntio ar y symiau sy’n cynrychioli’r balans rhwng y cyfanswm a gafwyd gan y gwerthwyr drwy’r tâl statudol am fagiau siopa untro, yn llai unrhyw symiau a bennir mewn rheoliadau (er enghraifft, mae’r Rheoliadau Drafft sydd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn pennu TAW a chostau rhesymol).

11.Diben is-baragraff (1) yw egluro ar wyneb Atodlen 6 i Ddeddf 2008 (sy'n rhychwantu Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon) mai dim ond i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru y mae’r pwerau a roddir gan baragraff 4A yn gymwys.

12.Mae is-baragraff (2) yn ehangu cwmpas pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan Atodlen 6 i Ddeddf 2008 fel bod y rheoliadau hefyd yn gallu cynnwys darpariaeth i gymhwyso enillion net y tâl i’r dibenion penodedig.

13.Mae is-baragraff (3) yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan y pŵer a geir yn is-baragraff (2). Gallai rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i werthwyr ddefnyddio enillion net y tâl at ddibenion a bennir yn y rheoliadau (is-baragraff (3)(a)). Gallent ddarparu hefyd i unrhyw ddyletswydd o'r fath gael ei chyflawni drwy drydydd partïon yn derbyn enillion net gwerthwyr. Byddai’r trydydd partïon hynny yn cael eu pennu yn y rheoliadau a gallent fod yn bersonau neu’n gategorïau o bersonau (is-baragraff (3)(b)). Gallai'r rheoliadau’r ymdrin â’r trefniadau i drosglwyddo enillion net i unrhyw drydydd partïon (is-baragraff (3)(c)), a gallent ei gwneud yn ofynnol i'r trydydd partïon a bennir yn y rheoliadau ddefnyddio'r enillion at un neu fwy o ddibenion penodedig (is-baragraff (3)(d)).

14.Mae is-baragraff (3)(e) yn caniatáu i reoliadau ymdrin ag adennill symiau pan na fo’r enillion net wedi cael eu derbyn na’u defnyddio fel y dylasid eu defnyddio. Mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch adennill symiau oddi wrth werthwyr ac oddi wrth unrhyw bersonau sy’n cael yr enillion wrth werthwyr. Mae is-baragraff (3)(f) yn caniatáu i reoliadau ymdrin â defnyddio unrhyw symiau a adenillwyd at ddibenion penodedig. Mae’n ei gwneud yn glir ar wyneb y ddeddfwriaeth bod rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio symiau a adenillwyd at ddibenion penodedig hefyd yn gallu gwneud darpariaeth fel nad yw’r symiau hynny yn mynd i Gronfa Gyfunol Cymru. Gallai'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru roi canllawiau ynghylch cydymffurfio â'r rheoliadau (is-baragraff 3(g)).

15.Mae is-baragraffau (4) a (5) yn ymwneud â'r dibenion y gellir eu pennu mewn rheoliadau fel dibenion y mae’n rhaid defnyddio enillion net y tâl ar eu cyfer. Mae'r rhain yn gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu yn y maes hwn.

16.Gall y rheoliadau, o dan amgylchiadau penodol, fod yn gymwys i bersonau nad ydynt yn werthwyr os yw Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai hynny’n briodol i gyrraedd y naill neu’r llall neu’r ddau amcan hyn. Mae a wnelo’r amcan cyntaf â gorfodi unrhyw ddarpariaeth ynghylch defnyddio enillion net y tâl. Mae a wnelo’r ail amcan â gwneud unrhyw ddarpariaeth am ddefnyddio’r enillion net yn effeithiol (is-baragraff (6)).

17.Mae is-baragraffau (7) ac (8) yn ychwanegu hyblygrwydd o ran sut y gellir cymhwyso rheoliadau o dan Atodlen 6 i Ddeddf 2008.

18.Mae Atodlen 6 eisoes yn caniatáu cymhwyso rheoliadau i bob gwerthwr, i werthwyr a enwir neu i werthwyr a ddynodir drwy gyfeirio at ffactorau a nodir yn Atodlen 6 (neu gyfuniad o enw a ffactorau). Mae is-baragraff (7) yn awr yn caniatáu i reoliadau gael eu cymhwyso drwy gyfeirio at drefniadau gwerthwr i ddefnyddio enillion net y tâl a thrwy gyfeirio at unrhyw ffactor arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru. Enghreifftiau o’r canlyniadau y gellid eu cyflawni o dan yr hyblygrwydd ychwanegol hwn yw cymhwyso rheoliadau i werthwyr a ddynodir drwy gyfeirio at y nifer neu’r math o fagiau siopa untro y maent yn eu cyflenwi.

19.Mae is-baragraff (8) yn caniatáu i reoliadau wneud eithriadau ac esemptiadau. Mae hyn er enghraifft yn dangos y tu hwnt i amheuaeth y gellid esemptio gwerthwyr a ddynodir wrth eu henwau o’r rheoliadau.

20.Mae paragraff 4B yn diffinio nifer o dermau a ddefnyddir ym mharagraff 4A.

21.Caiff diwygiadau pellach i Atodlen 6 i Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 eu gwneud gan adran 1(3) ac 1(4) o'r Mesur.

22.Mae adran 1(3) yn mewnosod paragraff 7(3A) newydd yn Atodlen 6. Mae paragraff 7 o Atodlen 6 yn ymwneud â chadw cofnodion a chyhoeddi cofnodion. Effaith paragraff 7(3A) yw y caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr Atodlen honno ei gwneud yn ofynnol hefyd i gyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth ynglŷn â'r swm a gafwyd gan berson oddi wrth werthwr fel enillion net y tâl. Byddai hyn, er enghraifft, yn caniatáu i’r rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n cael yr enillion net wrth werthwr gyhoeddi a chyflenwi cofnodion.

23.Mae adran 1(4) yn mewnosod paragraff 8(2A) newydd yn Atodlen 6. Mae paragraff 8 yn ymwneud â gorfodi. Effaith paragraff 8(2A) yw galluogi Gweinidogion Cymru i roi pwerau i weinyddydd i holi'r rhai y mae gan y gweinyddydd sail resymol dros gredu eu bod wedi cael unrhyw enillion net o'r tâl. Caiff gweinyddwyr eu penodi o dan y rheoliadau i weinyddu a gorfodi’r ddarpariaeth a wneir ganddynt.

Adran 2 – Rheoliadau: y weithdrefn

24.Mae'r adran hon yn diwygio adran 77 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Mae adran 77 yn cyflwyno Atodlen 6 ac yn cynnwys darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i'w defnyddio pan fo rheoliadau'n cael eu gwneud o dan yr Atodlen. Mae adran 2 yn mewnosod is-adran 4(aa) newydd yn adran 77 a'i heffaith yw y bydd y set gyntaf o reoliadau sydd i'w gwneud gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 4A o Atodlen 6 fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Mae hyn yn golygu na all y rheoliadau ddod i rym oni osodir drafft ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Adran 3 – Targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio

25.Mae adran 3 yn gosod targedau ar gyfer awdurdodau lleol o ran ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio gwastraff trefol ac yn gwneud awdurdodau nad ydynt yn cyrraedd y targedau yn atebol i dalu cosb ariannol. Mae'r awdurdodau lleol y cyfeirir atynt yn yr adran hon yn gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru (gweler y diffiniadau yn adran 17).

26.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod o leiaf y maint targed o'u gwastraff trefol ym mhob blwyddyn ariannol darged yn cael ei adfer (drwy weithrediadau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio neu gompostio). Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i awdurdodau lleol gyrraedd y maint targed ym mhob blwyddyn ariannol ddilynol nes cyrraedd y flwyddyn ariannol darged nesaf, ac ar yr adeg honno bydd maint targed newydd yn cael ei ddefnyddio. Mae'r tabl yn is-adran (3) yn pennu’r blynyddoedd targed a’r meintiau targed ar gyfer pob un ohonynt. Mae is-adran (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r tabl hwn drwy orchymyn. Mae unrhyw orchymyn o'r fath yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 20 (2) a (3)).

27.At ddibenion y targed, mae “compostio” yn cynnwys unrhyw ffurf arall ar drawsnewid drwy brosesau biolegol (is-adran (5)). Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ychwanegol hefyd drwy orchymyn, sy'n nodi sut i gadarnhau a yw gwastraff yn cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, neu ei gompostio at ddibenion y targedau. Mae'r gorchmynion hynny yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 20(1)).

28.Os na fydd awdurdod lleol yn cyrraedd targed ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio neu gompostio, bydd atebolrwydd i dalu cosb yn codi o dan is-adran (7). Mae cosbau i'w talu i Weinidogion Cymru. Gwneir darpariaeth ychwanegol am gosbau yn adran 6 (gweler y nodiadau esboniadol perthnasol isod).

29.Mae is-adran (8) yn esbonio beth a olygir gan wastraff trefol awdurdod lleol o flwyddyn ariannol darged. Maint cyfan y canlynol yn ôl eu pwysau ydyw-

  • yr holl wastraff y mae'r awdurdod yn ei gasglu yn y flwyddyn honno yn rhinwedd ei swydd fel awdurdod casglu gwastraff o dan adran 45 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43) (“Deddf 1990”) (ar y cyfan mae hynny'n cynnwys pob gwastraff cartref; gwastraff masnachol o fangre pan fo meddiannydd y fangre honno wedi gofyn iddo gael ei gasglu; a gwastraff diwydiannol o fangre pan fo meddiannydd y fangre wedi gofyn iddo gael ei gasglu gan yr awdurdod a bod yr awdurdod yn fodlon ei gasglu);

  • yr holl wastraff sydd wedi ei ollwng i ofal yr awdurdod yn y mannau y mae'n eu darparu at y diben hwnnw yn rhinwedd ei swydd fel awdurdod gwaredu gwastraff o dan is-adrannau (1)(b) a (3) o adran 51 – e.e. mannau a nodir fel “safleoedd amwynder dinesig” neu “ganolfannau ailgyrchu”; (rhaid darparu'r mannau hyn er mwyn i bersonau sy'n preswylio yn ei ardal ollwng eu gwastraff cartref a chaniateir i'r awdurdod drefnu iddynt fod ar gael i bersonau eraill ollwng gwastraff cartref, gwastraff masnachol neu wastraff diwydiannol); ac

  • unrhyw wastraff arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn (mae'r gorchmynion hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol (gweler adran 20(1)).

Adran 4 – Rheoliadau i osod targedau gwastraff

30.Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu targedau gwastraff eraill, yn ychwanegol at y rhai a osodir o dan adran 3, sy'n ymwneud ag atal, lleihau, casglu, rheoli, trin neu waredu gwastraff gan awdurdodau lleol. Mae'r adran hon hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu dangosyddion i fesur perfformiad awdurdod lleol mewn perthynas â'r targedau hyn ac i osod cosb ariannol ar awdurdodau lleol os na chyrhaeddir y targedau hyn.

31.Mae rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 20(3)).

Adran 5 – Monitro ac archwilio cydymffurfedd â thargedau

32.Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch asesu, monitro ac archwilio cydymffurfedd mewn perthynas â thargedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio o dan adran 3 neu dargedau gwastraff eraill o dan adran 4. Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—

  • ar gyfer y dull o asesu cydymffurfedd â thargedau;

  • ynghylch trefniadau ar gyfer monitro ac archwilio cydymffurfedd;

  • rhoi pwerau mynediad a phwerau arolygu i'r personau hynny sy'n monitro ac archwilio cydymffurfedd;

  • yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gadw cofnodion a darparu gwybodaeth;

  • ynghylch cyhoeddi gwybodaeth mewn perthynas â thargedau; a

  • gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i dalu cosb os yw'n methu cydymffurfio ag unrhyw ofyniad mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran hon.

33.Mae rheoliadau o dan yr adran hon sy'n gosod atebolrwydd i dalu cosb yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 23). Mae pob rheoliad arall o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn negyddol (gweler adran 20(1), (2) a (3)).

Adran 6 – Rheoliadau am gosbau

34.Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau am gosbau y gall awdurdodau lleol fod yn atebol i’w talu—

  • am fethu â chyrraedd y targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a osodir o dan adran 3;

  • am fethu â chyrraedd targedau gwastraff o dan adran 4, neu

  • am dorri rheoliadau o dan adran 5 sy'n ymwneud â monitro ac archwilio cydymffurfedd.

35.Caiff y Rheoliadau o dan adran 6 osod swm y gosb neu osod rheolau ar gyfer ei chyfrifo. Caniateir iddynt hefyd bennu pryd y mae taliadau i'w talu a gwneud darpariaeth ynghylch llog ar gosbau sydd heb eu talu; ynghylch adennill, gwrth-hawlio neu sicrhau symiau sydd heb eu talu o ran cosbau a llog; ac ynghylch hepgor cosbau.

36.Mae rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 20(3)).

Adran 7 – Canllawiau

37.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau o dan adrannau 3 i 6 o’r Mesur.

Adran 8 – Ymgynghori

38.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol, ac unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol cyn gwneud gorchmynion neu reoliadau o dan adran 3 neu reoliadau o dan adrannau 4, 5 neu 6 neu cyn rhoi unrhyw ganllawiau o dan adran 7.

39.Mae is-adran (2) yn darparu, os bydd Gweinidogion Cymru wedi cynnal unrhyw ymgynghoriad at ddibenion is-adran (1) cyn i'r Mesur gael ei basio, fod yr ymgynghoriad hwnnw'n cael effaith fel petai wedi ei wneud ar ôl i'r Mesur gael ei basio. Hynny yw, mae’n bodloni’r gofyniad yn is-adran (1).

Adran 9 – Rheoliadau yn gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

40.Mae is-adran (1) yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Ystyr “pennu” yw pennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru ac ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o’r fath (adran 17).

41.Mae'r weithred o ollwng gwastraff ar safle tirlenwi yn cael ei reoleiddio (yn rhannol) ar hyn o bryd gan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007 (OS 2007/3538). Mae'r Rheoliadau hynny wedi eu gwneud o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p. 24). Diben adran 2 o Ddeddf 1999 (ymhlith pethau eraill) yw rheoleiddio gweithgareddau a allai achosi unrhyw lygredd amgylcheddol. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 2 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru(4). Diben adran 9 o'r Mesur hwn yw rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng gwastraff ar safle tirlenwi p'un a fyddai gollwng y math hwnnw o wastraff yn gallu achosi llygredd amgylcheddol ai peidio.

42.Mae is-adran (2) yn pennu y caiff y rheoliadau ddiwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy'n ymwneud â gweithredu safle tirlenwi. Bydd hyn yn caniatáu i ddarpariaeth o dan adran 9 o'r Mesur hwn gael ei hymgorffori yn y drefn bresennol ar gyfer caniatáu amgylcheddol. Mae'r is-adran yn darparu hefyd y caiff rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud i fethiant i gydymffurfio â'r rheoliadau yn dramgwydd; darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny; a nodi pwy fydd yr awdurdodau gorfodi a beth fydd eu swyddogaethau.

43.Mae pŵer Gweinidogion Cymru i greu tramgwyddau troseddol o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i'r terfynau a osodir gan baragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni fyddent yn gallu defnyddio'r pŵer hwn i greu unrhyw dramgwydd troseddol y gellid ei gosbi—

  • ar gollfarn ddiannod, â charchariad am gyfnod hwy na’r tymor rhagnodedig neu â dirwy sy'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd), neu

  • ar gollfarn ar dditiad, â chyfnod o garchariad sy'n hwy na dwy flynedd.

Ar hyn o bryd y cyfnod rhagnodedig yw chwe mis mewn perthynas â chollfarn ddiannod, p’un a oedd y tramgwydd yn ddull neillffordd ai peidio.    Ond pan ddaw adrannau 154(1) a 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) i rym, bydd y cyfnod yn 51 o wythnosau mewn achos o dramgwydd diannod ac yn 12 mis pan fydd y tramgwydd yn un neillffordd(5).

44.Mae rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 20(3).

Adran 10 – Sancsiynau sifil mewn cysylltiad â gollwng gwastraff ar safle tirlenwi

45.Mae'r adran hon yn pennu bod y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 9 yn cynnwys pŵer i ddarparu ar gyfer sancsiynau sifil o ran tramgwyddau a grëir o dan adran 9. Mae sancsiynau sifil yn ddewis amgen i gosbau troseddol fel dull o fynd i’r afael â thorri rheoliadau.

46.Mae'r pŵer yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth gyfatebol, mewn perthynas ag awdurdod gorfodi, i ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) (“RESA”) mewn perthynas â rheoleiddiwr.

47.Mae hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud darpariaeth sy’n galluogi awdurdod gorfodi wneud y canlynol—

  • gosod cosb ariannol sefydlog (gweler adran 39 o RESA);

  • gosod cosb ariannol amrywiadwy a ddyfarnwyd gan yr awdurdod gorfodi (gweler adran 42 o RESA);

  • ei gwneud yn ofynnol bod camau penodedig yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau nad yw’r tramgwydd yn parhau neu’n digwydd eto (ibid);

  • ei gwneud yn ofynnol bod camau penodedig yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod y sefyllfa yn cael ei hadfer i'r hyn a fyddai wedi bod pe na bai'r tramgwydd wedi ei gyflawni (ibid);

  • dyroddi hysbysiad stop, sy'n hysbysiad sy'n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd hyd nes y bydd y camau a bennir yn yr hysbysiad wedi eu cymryd (adran 46 o RESA);

  • derbyn ymrwymiad gorfodi gan berson mewn achos lle mae gan yr awdurdod sail resymol dros amau bod y person wedi cyflawni tramgwydd perthnasol (adran 50 o RESA) (ymrwymiad gorfodi yw ymrwymiad i gymryd camau a bennwyd; mae cyflawni’r ymrwymiad yn cael yr effaith o atal y person hwnnw rhag cael ei gollfarnu o dramgwydd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymrwymiad yn berthnasol iddi neu rhag bod yn destun cosbau ariannol sefydlog neu ofynion disgresiynol a osodir arno mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno).

48.Mae adrannau 39(4) a 42(6) wedi eu datgymhwyso yn achos darpariaeth a wneir o dan adran 9(1) o'r Mesur yn rhinwedd is-adran 3. Mae hyn oherwydd bod y ddwy ddarpariaeth yn RESA yn gosod terfynau ar gosbau, ac mae’r terfynau y maent yn eu gosod yn gallu bod yn uwch na’r terfynau a ganiateir mewn Mesurau yn rhinwedd paragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweler paragraff 37 uchod).

49.Mae is-adran (3)(b) hefyd yn addasu is-adran 49(1) o RESA, am yr un rheswm. Mae adran 49 o RESA yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i orfodi hysbysiadau stop drwy greu tramgwyddau troseddol. Mae'r ddirwy uchaf ar gollfarn ddiannod a bennir yn adran 49 yn fwy na'r swm y gellir ei osod mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd gan neu o dan Fesur Cynulliad (gweler uchod, paragraff 37). Mae is-adran (3)(b) yn addasu is-adran 49(1) o RESA er mwyn cael gwared o’r anghysondeb hwn drwy ei gwneud yn glir bod y cyfeiriad yn adran 49(1)(a) at “£20,000” i'w ddarllen fel cyfeiriad at “level 5 on the standard scale” – sef y ddirwy uchaf a ganiateir o dan baragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

50.Mae is-adran (4) yn cymhwyso adrannau 63 i 69 o RESA i reoliadau a wneir o dan adran 9 o'r Mesur yn yr un modd ag y byddent yn gymwys i orchymyn a wneid o dan Ran 3 o RESA. Mae is-adrannau (5) a (6) yn gwneud darpariaeth gysylltiedig.

51.Nodir effaith gyfunol is-adrannau (4) i (6) yn y paragraffau a ganlyn.

52.Pan fo Gweinidogion Cymru’n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thramgwydd, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sicrhau'r canlyniadau canlynol (gweler adran 63 o RESA)—

  • bod yr awdurdod yn cyhoeddi canllawiau am ei ddefnydd o'r sancsiwn;

  • bod y canllawiau’n cynnwys gwybodaeth benodedig, gan ddibynnu ar y math o sancsiwn, megis o dan ba amgylchiadau y byddai gosod cosb ariannol neu hysbysiad stop yn debygol, ac o dan ba amgylchiadau na ellid eu gosod; swm unrhyw gosb ariannol; sut i ryddhau cosbau a hawliau i apelio a phethau tebyg;

  • bod y canllawiau yn cael eu diwygio lle y bo hynny’n briodol;

  • bod yr awdurdod yn ymgynghori â'r personau a bennir yn rheoliadau Gweinidogion Cymru cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau;

  • bod yr awdurdod yn rhoi sylw i'r canllawiau wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

53.Pan fo pŵer yn cael ei roi i awdurdod gorfodi i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thramgwydd rhaid i'r awdurdod hefyd—

  • paratoi a chyhoeddi canllawiau ynghylch sut y gorfodir y gyfraith ynglŷn â’r tramgwydd (gweler adran 64 o RESA);

  • cyhoeddi adroddiadau ynghylch yr achosion lle mae'r sancsiwn sifil wedi ei osod (gweler adran 65 o RESA).

54.Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod gorfodi i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thramgwydd oni fydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd yr awdurdod yn gweithredu'n unol â'r egwyddorion canlynol (y cyfeirir atynt yn RESA fel yr egwyddorion rheoleiddiol (“the regulatory principles”)) wrth arfer y pŵer hwnnw—

  • y dylai gweithgareddau rheoleiddiol gael eu cyflawni mewn ffordd sy'n dryloyw, atebol, cymesur a chyson; ac

  • y dylai gweithgareddau rheoleiddiol gael eu targedu'n unig ar achosion lle mae angen gweithredu.

55.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi pŵer i osod sancsiynau sifil, rhaid iddynt adolygu'r modd y gweithredir y pŵer hwnnw (gweler adran 67 o RESA) a chânt atal dros dro bŵer awdurdod gorfodi i osod sancsiynau o’r fath (gweler adran 68 o RESA).

56.Rhaid i dderbyniadau o sancsiynau sifil – e.e. oddi wrth gosbau am daliadau ariannol – gael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru pan fo gan yr awdurdod gorfodi swyddogaethau mewn perthynas â Chymru'n unig, ac i Gronfa Gyfunol y DU pan fo gan yr awdurdod gorfodi swyddogaethau mewn perthynas â Chymru a rhan arall o'r DU (gweler adran 69 o RESA).

Adran 11 – Ymgynghori

57.Mae adran 11(1) yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 9, ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd; awdurdodau lleol; cynrychiolwyr y personau hynny y mae’n debygol y gosodir dyletswyddau arnynt gan y rheoliadau; a phersonau eraill yn ôl yr hyn a fernir ei fod yn briodol.

58.Effaith is-adran (2) yw caniatáu i ymgynghori a wneir cyn pasio'r Mesur gyfrif at ddibenion is-adran (1).

Adran 12 – Cynlluniau Rheoli Gwastraff Safle

59.Mae adrannau 12 i 16 o'r Mesur yn ailddatgan, gydag addasiadau, adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16). Mae'r addasiadau’n ymwneud â gweinyddu a gorfodi’r drefn: mae adran 12 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau am gynlluniau codi ffioedd a thaliadau, mae adran 14 yn galluogi i sancsiynau sifil gael eu cymhwyso i dramgwyddau ac mae adran 16 yn darparu ar gyfer ymgynghori.

60.Diben ac effaith adran 12(1) yw caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, i'w gwneud yn ofynnol i bersonau penodedig wneud cynlluniau sy'n nodi sut y byddant yn rheoli ac yn gwaredu gwastraff a grëir wrth wneud gweithiau penodedig sy'n cynnwys adeiladu a dymchwel (is-adran (1)(a)). Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i'r rhai y mae gofyn iddynt wneud cynlluniau gydymffurfio â hwy (is-adran (1)(b)).

61.Mae is-adran (2) yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o'r ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1). Mae'r rhain yn cynnwys o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid paratoi'r cynlluniau (is-adran (2) (a)); cynnwys cynlluniau (is-adran (2)(b)); darpariaethau am awdurdodau gorfodi a'u swyddogaethau (is-adran (2)(c)) ac am gadw cynlluniau a'u dangos i awdurdodau gorfodi (is-adran (2)(d)). Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru, neu awdurdod gorfodi, sefydlu cynllun codi ffioedd a thaliadau i alluogi costau rhesymol a dynnir gan awdurdod gorfodi wrth gyflawni'r swyddogaethau a roddir iddo gan y rheoliadau i gael eu hadennill (is-adran (2)(e)).

62.Caniateir i'r gweithiau yr effeithir arnynt gan y rheoliadau gael eu disgrifio, yn rhinwedd is-adran (3), drwy gyfeirio at gost neu gost debygol y gweithiau hynny neu drwy gyfeirio at feini prawf eraill.

63.Darpariaeth arbed yw is-adran (4). Bydd yn sicrhau, os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau am gynlluniau rheoli gwastraff safle o dan adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 cyn i'r Mesur ddod i rym, y bydd effaith i'r rheoliadau hynny fel petaent wedi eu gwneud o dan y ddarpariaeth yn y Mesur hwn.

Adran 13 – Tramgwyddau a chosbau

64.Mae'r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â thramgwyddau a chosbau am dorri'r gofynion a sefydlwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 12. Mae’r adran hefyd yn gosod, neu’n gwneud yn eglur, y terfynau y gellir eu gosod am dramgwyddau o’r fath.

65.Fel y nodir uchod, mae adran 12 ar y cyfan yn ailddeddfu darpariaeth yn adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. O’r herwydd, nid yw'r terfynau ar y sancsiynau troseddol y gellir eu gosod mewn Mesurau yn gymwys i dramgwyddau a gaiff eu creu oddi tani. (Gosodir y terfynau hyn ym mharagraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; a gwelir y ffaith nad ydynt yn gymwys mewn achosion pan fo Mesur yn ailddatgan y gyfraith ym mharagraff 9 o Ran 3 o Atodlen 5).

66.Yn lle hynny, mae adran 13(2) a (3) yn gosod y terfynau sy’n gymwys i sancsiynau am dramgwyddau a gafodd eu creu o dan adran 12. Mae adran 13(2) yn ymdrin â thramgwyddau am dorri amodau mewn darpariaethau sydd wedi eu hailddatgan, h.y. torri gofynion a sefydlwyd o dan adran 12(2)(a) i (d). Mae’n gosod cyfyngiadau sy’n gwahardd creu tramgwyddau y gellir eu cosbi drwy garchariad, neu drwy ddirwy sy’n uwch na £50,000 ar gollfarn ddiannod.

67.Er hynny, nid yw’r ddarpariaeth a wneir gan adran 12(2)(e) yn ailddatgan y gyfraith gyfredol ond mae’n ychwanegu ati. Mae hyn y golygu nad yw’r terfynau ar sancsiynau troseddol a osodir ym mharagraff 2 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gymwys yn yr achos hwn. Er hynny, yr oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r farn ei bod yn ddymunol gwneud y terfyn ar y sancsiynau yn eglur ar wyneb y Mesur, ac mae adran 13(3) gan hynny’n darparu na ddylid cosbi tramgwyddau a wneir o dan y ddarpariaeth hon gan ddirwy sy’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Adran 14 – Sancsiynau sifil mewn cysylltiad â chynlluniau rheoli gwastraff safle

68.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru alluogi awdurdodau gorfodi i osod sancsiynau sifil mewn perthynas â thramgwyddau a gyflawnir o dan rheoliadau cynlluniau rheoli gwastraff safle, fel dewis amgen i erlyniad o’r tramgwyddau hynny yn y llysoedd troseddol. Mae’r dull hwn yn dilyn dull adran 10 mewn perthynas â thramgwyddau tirlenwi. Yn benodol, mae’r Mesur arfaethedig yn amrywio adran 49(1) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 i alluogi’r drefn sancsiynau sifil mewn perthynas â Chynlluniau Rheoli Gwastraff Safle i gydymffurfio â therfyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar uchafswm cosbau. Er hynny, nid yw’r terfyn yn gymwys i dramgwyddau cynlluniau rheoli gwastraff safle yn yr un modd ag y mae’n gymwys i dramgwyddau tirlenwi, ac o’r herwydd nid yw adrannau 39(4) a 42(6) yn cael eu datgymhwyso.

Adran 15 – Canllawiau

69.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gorfodi roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cynlluniau rheoli gwastraff safle.

Adran 16 – Ymgynghori

70.Mae adran 16(1) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gwneud unrhyw reoliadau, ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd; awdurdodau lleol; cynrychiolwyr priodol o bersonau yr effeithir arnynt gan y rheoliadau; a phersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

71.Effaith is-adran (2) yw caniatáu i ymgynghoriad a wnaed cyn pasio’r Mesur gyfrif at ddibenion is-adran (1).

Adran 17 – Dehongli

72.Mae'r adran hon yn darparu diffiniadau at ddiben y Mesur.

Adran 18 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

73.Mae'r adran hon yn cyflwyno mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sydd wedi eu nodi yn yr Atodlen i'r Mesur.

Adran 19 – Gorchmynion a rheoliadau

74.Mae'r adran hon yn cynnwys darpariaethau cyffredinol am reoliadau a gorchmynion a wneir o dan y Mesur hwn.

75.Mae is-adran (1) yn darparu, pan fo pŵer wedi ei roi i Weinidogion Cymru gan y Mesur i wneud gorchmynion neu reoliadau, eu bod i'w gwneud drwy offerynnau statudol. Mae is-adran (2) yn darparu bod unrhyw bŵer i wneud rheoliadau neu orchmynion, a roddir i Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn, yn cynnwys pŵer i wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol ar achosion, personau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o berson, a dibenion gwahanol. Hefyd, mae'n galluogi gorchmynion neu reoliadau i beri i ddarpariaethau gwahanol fod yn gymwys ar adegau gwahanol ac i wneud darpariaethau sydd yn gymwys yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol. Mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru hefyd i wneud darpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

76.O dan is-adran (3), caniateir i ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn o dan y Mesur hwn gael ei gwneud drwy reoliadau. O dan is-adran (4), caniateir i ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan y Mesur hwn gael ei gwneud drwy orchymyn. Mae hyn yn galluogi i amrywiol ddarpariaethau o dan y Mesur gael eu cyfuno mewn un offeryn statudol unigol, yn hytrach na bod mewn dau offeryn ar wahân.

Adran 20 – Gorchmynion a rheoliadau: gweithdrefnau

77.Mae is-adran (1) yn darparu’r sefyllfa ddiofyn y bydd unrhyw offeryn statudol a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae dau eithriad i hyn, a cheir hwy yn is-adran (2). Y cyntaf yw gorchmynion o dan adran 21(1) o’r Mesur sy’n cychwyn adran 3 o’r Mesur. Nid yw'r gorchmynion cychwyn hyn yn ddarostyngedig i unrhyw un o weithdrefnau'r Cynulliad. Mae is-adran (2) yn darparu hefyd nad yw'r weithdrefn negyddol yn gymwys i'r gorchmynion a'r rheoliadau a restrir yn is-adran (3). Mae'r gorchmynion a'r rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol.

78.Mae is-adran (3) yn pennu'r gorchmynion a'r rheoliadau y mae angen eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a'u cymeradwyo ganddo drwy benderfyniad (hynny yw, y gorchmynion a'r rheoliadau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol). Sef—

  • gorchmynion a wneir o dan adran 3(4) – gorchmynion sy'n diwygio'r tabl o dargedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a nodir yn adran 3(3).

  • rheoliadau a wneir o dan yr adran 4 (rheoliadau i osod targedau gwastraff);

  • rheoliadau a wneir o dan adran 5(1)(g) (rheoliadau sy'n gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i dalu cosb os yw'n methu â chydymffurfio â rheoliadau mewn perthynas â monitro ac archwilio cydymffurfedd â thargedau);

  • rheoliadau a wneir o dan adran 6 (rheoliadau ynghylch cosbau am dorri amodau targedau o dan adrannau 3 neu 4 neu am dorri amodau gofynion monitro ac archwilio o dan adran 5);

  • rheoliadau a wneir o dan adran 9 (rheoliadau sy’n gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwi) a rheoliadau a wneir o dan adran 14 (rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer sancsiynau sifil mewn cysylltiad â chynlluniau rheoli gwastraff safle).

79.Mae is-adran (4) yn darparu, pan fo rheoliadau yn gwneud darpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn, y bydd y weithdrefn a fyddai'n gymwys i'r gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys i'r rheoliadau. Yn yr un modd, o dan is-adran (5), pan fo gorchymyn yn gwneud darpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau, bydd y weithdrefn a fyddai'n gymwys i'r rheoliadau o dan yr adran hon yn gymwys i'r gorchymyn. Mae hyn yn sicrhau, pan wneir darpariaethau o dan wahanol adrannau o’r Mesur mewn offeryn statudol unigol, bod gweithdrefn y Cynulliad sy’n gymwys i’r offeryn hwnnw yn glir.

Adran 21 – Cychwyn

80.Mae is-adran (1) yn nodi y daw adran 3 i rym drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

81.Mae is-adran (2) yn darparu y daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn awtomatig ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

Adran  22 – Enw byr

82.Mae'r adran hon yn darparu enw byr y Mesur.

Yr Atodlen

83.Mae'r Atodlen yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16) a Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).

COFNOD O’R TRAFODION YNG NGHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod o’r Trafodion a gwybodaeth bellach ar daith y Mesur hwn ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-waste.htm

CyfnodDyddiad
Cyflwyno22 Chwefror 2010
Cyfnod 1 - Dadl6 Gorffennaf 2010
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu yn ystyried y gwelliannau30 Medi 2010
Cyfnod 3  Y Cyfarfod Llawn yn ystyried gwelliannau2 Tachwedd 2010
Cyfnod 4 Cymeradwyaeth gan y Cynulliad2 Tachwedd 2010
Cymeradwyaeth Frenhinol yn y Cyfrin Gyngor15 Rhagfyr 2010
1

Mae’r term “pollution” yn destun darpariaeth ddehongli ym Maes 6 o Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

2

Mae’r term “nuisance” yn destun darpariaeth ddehongli ym Maes 6 o Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

3

“The seller’s gross proceeds of the charge reduced by such amounts as may be specified”: paragraff 7(4) o Atodlen 6.

4

Ac eithrio i'r graddau y mae'r pŵer yn arferadwy mewn perthynas â chwilio am olew a nwy alltraeth ac elwa arnynt: erys y pŵer gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr amgylchiadau hyn. Os yw’r pŵer yn arferadwy mewn perthynas â chorff trawsffiniol ond, o ran eu natur, ni ellir ei arfer yn benodol mewn perthynas â Chymru, mae'r pŵer yn arferadwy gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r corff hwnnw yn gydamserol â'r Ysgrifennydd Gwladol (Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2005 (OS 2005/1958), erthygl 3).

5

Paragraff 52, Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources