Search Legislation

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 04 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

(a gyflwynwyd gan adran 18)

YR ATODLENLL+CMÅN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005LL+C

1(1)Mae adran 54 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)–

(a)yn lle “appropriate person” rhodder “Secretary of State”;

(b)ym mharagraff (a), ar ôl “works” mewnosoder “in England”.

(3)Yn is-adran (8), yn lle “appropriate person” rhodder “Secretary of State”.

(4)Yn is-adran (9), hepgorer y geiriau o ““appropriate person”” hyd at “for Wales;”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 1 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)

Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008LL+C

2(1)Mae Adran 98 (mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn y golofn gyntaf, ar ôl ““the chair” (in Schedule 1)” mewnosoder ““children” (in Schedule 6)” ac yn y lle cyfatebol yn yr ail golofn mewnosoder “paragraph 4B(2) of Schedule 6”.

(3)Yn y golofn gyntaf, ar ôl ““non-monetary discretionary requirement” (in Schedule 6)” mewnosoder ““nuisance” (in Schedule 6)” ac yn y lle cyfatebol yn yr ail golofn mewnosoder “paragraph 4B(6) of Schedule 6”.

(4)Yn y golofn gyntaf, ar ôl ““participant” (in Part 3)” mewnosoder ““pollution” (in Schedule 6)” ac yn y lle cyfatebol yn yr ail golofn mewnosoder “paragraph 4B(3) of Schedule 6”.

(5)Yn y golofn gyntaf, ar ôl ““the waste reduction provisions” (in section 72)” mewnosoder ““young people” (in Schedule 6)” ac yn y lle cyfatebol yn yr ail golofn mewnosoder “paragraph 4B(8) of Schedule 6”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. para. 2 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)

Back to top

Options/Help