Search Legislation

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 37

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Adran 37. Help about Changes to Legislation

37Personau sy'n dod o fewn Atodlen 8LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P) sy'n dod o fewn Atodlen 8.

(2)Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn gymwysadwy i P os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno—

(a)yn safon cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â darparu gan P wasanaeth a bennir (“safon neilltuedig cyflenwi gwasanaethau”), neu

(b)yn safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion—

(i)am safonau neilltuedig cyflenwi gwasanaethau,

(ii)am gwynion yn ymwneud â chydymffurfedd P â safonau neilltuedig cyflenwi gwasanaethau, neu

(iii)am gwynion mewn perthynas â'r Gymraeg sy'n ymwneud â darparu gan P wasanaeth a bennir.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “gwasanaeth a bennir” yw gwasanaeth a bennir yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8.

(4)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 37 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 37 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Back to top

Options/Help