143Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau aelodauLL+C
(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—
(a)nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a
(b)a chanddynt am y tro hawl i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).
(2)Caiff y Panel benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.
(3)Caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.
(4)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)
C2A. 143(1)(b)(3) wedi ei eithrio (21.1.2021 at ddibenion penodedig, 1.4.2021 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2)(7), Atod. 12 para. 1(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(j)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 143 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
I2A. 143 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(d)
I3A. 143 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)