Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

[F1143ASwyddogaethau sy’n ymwneud â [F2chydnabyddiaeth ariannol] penaethiaid gwasanaethau cyflogedigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—

(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â [F3chydnabyddiaeth ariannol] pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod;

(b)unrhyw newid arfaethedig i [F3gydnabyddiaeth ariannol] pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.

(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).

(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid [F4cydnabyddiaeth ariannol] pennaeth ei wasanaeth cyflogedig mewn modd nad yw’n gymesur â newid i [F5gydnabyddiaeth ariannol] staff arall yr awdurdod—

(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a

(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.

[F6(3A)Ond caiff awdurdod perthnasol cymwys sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig mewn [F7cydnabyddiaeth ariannol] wneud y gostyngiad cyn derbyn argymhelliad gan y Panel os nad yw’r contract y mae’r [F7cydnabyddiaeth ariannol] yn [F8cael ei darparu] oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y [F7cydnabyddiaeth ariannol] ar ôl derbyn argymhelliad.

(3B)Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn newid [F9cydnabyddiaeth ariannol] ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig yn unol ag is-adran (3A) ac yn derbyn argymhelliad gan y Panel ynghylch y newid wedi hynny—

(a)rhaid iddo ailystyried y [F9cydnabyddiaeth ariannol] , a

(b)wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i’r argymhelliad.]

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

[F10(4A)Rhaid i’r Panel hysbysu Gweinidogion Cymru am bob argymhelliad y mae’n ei wneud o dan yr adran hon.]

(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.

[F11(5A)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)hysbysu’r Panel a Gweinidogion Cymru am ei ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i [F12gydnabyddiaeth ariannol] ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn penderfynu ar yr ymateb, a

(b)peidio â newid y [F12cydnabyddiaeth ariannol] cyn—

(i)diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (a), neu

(ii)os yw Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn hysbysu’r awdurdod na fyddant yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod o dan is-adran (5B), y diwrnod y derbynnir yr hysbysiad hwnnw.

(5B)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb awdurdod perthnasol cymwys i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i [F13gydnabyddiaeth ariannol] yn golygu y bydd yr awdurdod yn [F14darparu] (neu, o dan is-adran (3A), ei fod yn [F14darparu] ) [F13cydnabyddiaeth ariannol] sy’n anghyson â’r argymhelliad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried y [F13cydnabyddiaeth ariannol] , a

(b)pennu yn y cyfarwyddyd erbyn pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod wneud hynny.]

(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod perthnasol cymwys” (“qualifying relevant authority”) yw awdurdod perthnasol (yn ystyr y Rhan hon) y mae’n ofynnol iddo lunio datganiad ar bolisïau tâl;

  • [F15“mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr ystyr a roddir i “remuneration” yn adran 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011;]

  • F16...

  • ystyr “datganiad ar bolisïau tâl” (“pay policy statement”) yw datganiad ar bolisïau tâl a lunnir gan awdurdod perthnasol (yn ystyr adran 43(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) o dan adran 38 o’r Ddeddf honno;

  • ystyr “pennaeth gwasanaeth cyflogedig”(“head of paid service”) yw pennaeth gwasanaeth cyflogedig a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.]

Diwygiadau Testunol

F2Gair yn a. 143A heading wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(7), 175(3)(i)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)