Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Mesur Addysg (Cymru) 2011

Rhan 2: Llywodraethu Ysgolion

Pennod 1: Ffedereiddio ysgolion a gynhelir

22.Mae’r Bennod hon yn disodli, o ran Cymru, adrannau 25 a 26 o Ddeddf Addysg 2002, gan wneud darpariaeth newydd ar gyfer ffedereiddio ysgolion a gynhelir. Mae ffedereiddio’n caniatáu ar gyfer ffurfio grŵp ar y cyd, o ddwy neu ragor o ysgolion o dan un corff llywodraethu.

Adran 10 – Ffedereiddio ysgolion gan gyrff llywodraethu

23.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ddarparu y caiff dwy neu ragor o ysgolion  ffedereiddio, neu ffederasiwn presennol ffedereiddio ag un neu ragor o ysgolion, neu ddau neu ragor o ffederasiynau presennol ffedereiddio, o dan un corff llywodraethu. Mae’n darparu ymhellach mai penderfyniad sydd i’w wneud gan y corff llywodraethu dan sylw yw  ffedereiddio o dan yr adran hon, unwaith y bydd wedi cydymffurfio ag amodau a gweithdrefnau penodol a bennir mewn rheoliadau.

Adran 11 – Cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion

24.Mae is-adran (1) yn darparu pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru, i gynnig y caiff dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir ffedereiddio, ffederasiwn presennol ffedereiddio ag un neu ragor o ysgolion, neu ddau neu ragor o ffederasiynau presennol ffedereiddio, o dan un corff llywodraethu.

25.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol, sy’n gwneud cynigion i ffedereiddio ysgolion neu ffederasiynau o dan yr adran hon, gyhoeddi’r cynigion hynny.  Mae is-adran (3) yn darparu bod awdurdod lleol i ymgynghori â chyrff penodol ynglŷn â’r cynigion cyhoeddedig.

26.Nid yw’r gofynion hyn i gyhoeddi ac ymgynghori yn gymwys i gynnig i ffedereiddio ysgolion bach.  Diffinnir ysgol fach gan orchymyn a wneir o dan adran 15 o’r Mesur.  Pan fo cynnig o’r fath, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ymgynghori â neb ond cyrff llywodraethu’r ysgolion bach sydd i’w ffedereiddio.

27.Mae is-adran (7) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol benderfynu unrhyw gynigion i ffedereiddio ysgolion. Bydd y weithdrefn ar gyfer penderfynu cynigion yn cael ei phennu mewn rheoliadau. Caiff yr awdurdod lleol gadarnhau’r cynigion (naill ai gydag addasiadau neu hebddynt, neu’n ddarostyngedig i ddigwyddiad penodol) neu caiff eu tynnu’n ôl.

28.Mae is-adran (8) yn caniatáu i awdurdodau lleol ystyried ffedereiddio gydag ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol arall, ar yr amod y ceir caniatâd yr awdurdod lleol arall.

29.Mae is-adran (9) yn gwneud yn ofynnol cael caniatâd personau penodol, cyn y caiff awdurdod lleol gynnig ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol. Y personau hynny, yn achos ysgol Gatholig Rufeinig neu ysgol yr Eglwys yng Nghymru yw’r awdurdod esgobaethol, ac yn achos ysgolion sefydledig neu wirfoddol eraill, y personau sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig.

30.Mae is-adran (10) yn darparu y caiff rheoliadau bennu gofynion mewn perthynas â chynigion i ffedereiddio.  Gallai’r rheini gynnwys, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd personau penodol cyn y caiff awdurdod wneud, cyhoeddi neu gadarnhau’r cynigion.  Caiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth wahanol ar gyfer ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol fach.

Adran 12 – Gweithredu cynigon o dan adran 11

31.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithredu cynigion i ffedereiddio.

32.Mae is-adrannau (2) a (3)  yn pennu’r rhai y mae’n ofynnol eu bod yn gweithredu’r cynigion.  Y rhain yw’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu, i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu ar gyfer hynny, ac unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau.

33.Pan fo awdurdod lleol wedi cadarnhau cynigion, rhaid eu gweithredu fel y’u cadarnhawyd (is-adran (4)). Fodd bynnag, ceir addasu cynigion a gadarnhawyd ar gais personau a bennir mewn rheoliadau (is-adran (5))

34.O dan is-adran (6), caiff awdurdod lleol benderfynu peidio â gweithredu  cynnig a gadarnhawyd os byddai gwneud hynny’n afresymol o anodd, neu os yw’r amgylchiadau wedi newid i’r fath raddau nad yw’n briodol gwneud hynny mwyach.  Caiff rheoliadau wneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol yn ymgynghori â  phersonau rhagnodedig cyn penderfynu felly (is-adran (7)).

Adran 13 – Corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynau

35.Grŵp o ysgolion sydd ag un corff llywodraethu yw ffederasiwn. Bydd yr ysgolion o fewn ffederasiwn yn parhau i gael eu trin fel ysgolion unigol (ac felly, wrth arfer ei  ddyletswyddau, rhaid i’r corff llywodraethu wneud hynny mewn perthynas â phob ysgol o fewn y ffederasiwn yn unigol ). Fodd bynnag, ceir pennu’r amgylchiadau mewn rheoliadau pan ganiateir trin ffederasiwn fel pe bai’n ysgol sengl.

Adran 14 – Rheoliadau mewn perthynas â ffederasiynau

36.Mae’r adran hon yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â ffederasiynau, gan gynnwys mewn perthynas â’u diddymu, a throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau.

Adran 15 – Dull adnabod at ddibenion y Bennod hon ysgolion bach a gynhelir yng Nghymru

37.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn sy’n diffinio “ysgol fach a gynhelir”  yn ôl y nifer o ddisgyblion mewn ysgol. Y niferoedd o ddisgyblion fyddai’r niferoedd a bennid ar ddyddiad penodol mewn blwyddyn ysgol. Unwaith y diffinnir ysgol fach a gynhelir, bydd modd i Weinidogion Cymru gyfarwyddo ysgolion o’r fath i ffedereiddio.

Adran 16 – Ffedereiddio ysgolion sy’n peri pryder drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru

38.Mae’r adran hon yn yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo ysgolion sy’n peri pryder i ffedereiddio.  Mae’n gwneud hyn drwy fewnosod adran 18B newydd ym Mhennod 4 o Ran 1 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ymyrryd mewn ysgolion yng Nghymru sy’n peri pryder).

39.Mae’r adran 18B(1) a (2) newydd yn esbonio beth a olygir wrth ‘ysgol sy’n peri pryder’ at ddibenion y pŵer hwn i ymyrryd.  Mae’n cynnwys -  ysgol sy’n destun mesurau arbennig; ysgol sydd angen gwelliant sylweddol; ysgol lle y mae safonau perfformiad y disgyblion yn annerbyniol o isel; ysgol lle y cafwyd methiant difrifol ym maes rheoli neu lywodraethu sy’n niweidio neu’n debyg o niweidio safonau perfformiad;  ysgol lle y mae diogelwch y disgyblion neu’r staff o dan fygythiad; ac ysgol sy’n methu â chydymffurfio â gorchymyn ynghylch tâl ac amodau athrawon.

40.Mae is-adran (3) o’r adran 18B newydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu, ac mae is-adran (4) yn nodi’r gwahanol fathau o drefniadau y cânt gyfarwyddo yn eu cylch.  Mae’r rhain yn cynnwys ffedereiddio ysgol sy’n peri pryder ag un neu fwy o ysgolion eraill neu â ffederasiwn sy’n bodoli eisoes, a chyfarwyddo ysgol sy’n peri pryder i ymadael â ffederasiwn.

41.Mae is-adran (5) o’r adran 18B newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â chyrff penodol cyn gwneud cyfarwyddyd ac mae is-adrannau (6) a (7) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gwneud, amrywio a dirymu cyfarwyddiadau, gan gynnwys darpariaeth bod cyfarwyddiadau o’r fath yn orfodadwy drwy orchymyn mandadol yr Uchel Lys.

42.Mae adran 16 o’r Mesur arfaethedig hefyd yn diwygio adran 14(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel na chaiff awdurdod lleol arfer ei bwerau ymyrryd mewn perthynas ag ysgol sy’n peri pryder os yw Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer ymyrryd yn yr adran 18B newydd.

Adran 17 – Canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru

43.Mae’r adran hon yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau  ar ffedereiddio y bydd rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru roi sylw iddynt, wrth arfer eu swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 2 o’r Mesur.

Adran 18 – Ffederasiynau: darpariaethau atodol

44.Mae’r adran hon yn caniatáu gwneud rheoliadau sy’n addasu Pennod 4 o Ran 1 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998  (ymyrryd mewn ysgolion sy’n peri pryder) ac adrannau 49 – 51 ac Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (dirprwyo ariannol) o ran y modd y’u cymhwysir i ffedereiddio ysgolion. Gallai rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu, er enghraifft, pan geir amodau penodol sy’n ysgogi pwerau ymyrryd mewn un ysgol o fewn ffederasiwn ond nid mewn ysgolion eraill, y gellid, er gwaethaf hynny, arfer y pwerau ymyrryd hynny mewn perthynas â’r corff llywodraethu. Mae adran 18 yn caniatáu hefyd gwneud rheoliadau i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â gwahanol gategorïau o ysgolion. Bydd rheoliadau o’r fath yn egluro sut y cymhwysir y ddeddfwriaeth honno i ysgolion sydd o fewn yr un ffederasiwn ond yn perthyn i wahanol gategorïau .

Adran 19 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2002

45.Mae’r adran hon yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adrannau 19 ac 20 o Ddeddf Addysg 2002, fel bod y darpariaethau hynny’n cyfeirio at ffederasiynau o dan y Mesur.  Mae’n cyfyngu’r modd y mae adrannau 24, 25 a 29 o Ddeddf Addysg 2002 yn gymwys i Loegr am eu bod wedi eu disodli, yn achos Cymru, gan y ddarpariaeth a wnaed gan y Bennod hon.  Mae’r adran hon hefyd yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 2002 i’w gwneud yn glir, os bydd ysgol mewn ffederasiwn yn cau a bod mwy nag un ysgol ar ôl yn y ffederasiwn, ni fydd corff llywodraethu’r ffederasiwn yn cael ei ddiddymu’n awtomatig.

Adran 20 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2005

46.Mae’r adran hon yn gwneud mân ddiwygiad a diwygiad canlyniadol i Ddeddf Addysg 2005 fel ei bod yn cyfeirio at ffederasiynau o dan y Mesur hwn.

Adran 21 – Dehongli’r Bennod hon

47.Mae is-adran (1) yn diffinio termau a ddefnyddir ym Mhennod 1 o Ran 2 o’r Mesur.  Mae is-adran (2) yn darparu ar gyfer dehongli termau a ddefnyddir mewn unrhyw ddeddfiad mewn perthynas ag ysgol ffederal, gan bennu, er enghraifft, fod cyfeiriad mewn deddfwriaeth at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn cael effaith, mewn perthynas â ffederasiwn, fel pe bai’n gyfeiriad at gorff llywodraethu ffederasiwn.

Pennod 2: Hyfforddiant i lywodraethwyr a chlercod a darparu clercod
Adran 22 – Gwybodaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir

48.Mae is-adrannau (1) a (2) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir yng Nghymru, er mwyn galluogi’r llywodraethwyr i gyflawni eu swyddogaethau.

49.Mae is-adrannau (3) a (4) yn darparu y caiff rheoliadau wneud yn ofynnol bod awdurdod lleol  yn sicrhau (yn ddi-dâl) y ddarpariaeth o hyfforddiant a ragnodir ar gyfer llywodraethwyr ysgolion.

50.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol ddarparu hyfforddiant i lywodraethwyr i’w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau.

Adran 23 – Dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu clercod i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir

51.Mae rheoliadau o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu ar gyfer penodi clerc i gorff llywodraethu. O dan adran 22 o’r Mesur hwn, rhaid i awdurdod lleol roi gwybod i’r corff sy’n penodi’r clerc y caiff ofyn i’r awdurdod lleol ddarparu person i weithredu fel y clerc. Caiff rheoliadau wneud yn ofynnol, pan wneir cais o’r fath gan gorff o’r fath, bod yr awdurdod lleol yn darparu clerc, a darperir ar gyfer talu am ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.

Adran 24 – Hyfforddiant i glercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir

52.Caiff rheoliadau o dan yr adran hon osod dyletswydd ar y corff sy’n penodi clerc i gorff lywodraethu (yn unol â rheoliadau o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002). Y ddyletswydd y ceir ei gosod yw sicrhau bod y person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant hyd at safon a bennir yn y rheoliadau. Mae is-adran (3) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â hyfforddi clercod.

Adran 25 – Dyletswydd awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i glercod

53.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau’r hyfforddiant yr ystyria’n briodol ar gyfer clercod i gyrff llywodraethu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources