Rhan 3: Ysgolion Sefydledig.Ysgolion sefydledig
Adran 26 – Gwahardd sefydlu ysgolion sefydledig newydd
54.Mae Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â sefydlu, newid a dirwyn i ben ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae adran 28 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno yn gwneud darpariaeth ynghylch cynigion ar gyfer sefydlu a newid ysgolion cymunedol, sefydledig a gwirfoddol ac ysgolion meithrin a gynhelir, ac ynghylch gweithredu’r cynigion hynny. Mae’r adran hon yn diwygio adran 28 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, drwy ddiddymu gallu awdurdodau leol neu hyrwyddwyr eraill i sefydlu ysgol sefydledig newydd yng Nghymru. Mae’r adran hon hefyd yn diddymu gallu Gweinidogion Cymru i gynnig sefydlu ysgol sefydledig ar gyfer disgyblion dros 16 mlwydd oed.
Adran 27 – Gwahardd newid categori i ysgol sefydledig
55.Yn Atodlen 8 i Ddeddf 1998 gwneir darpariaeth sy’n galluogi ysgolion yng Nghymru i newid eu categori. Mae adran 26 o’r Mesur hwn yn diwygio Atodlen 8 i Ddeddf 1998, gan ddiddymu gallu awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i gynnig bod ysgol yn newid ei chategori er mwyn dod yn ysgol sefydledig. Ni fydd hyn yn rhwystro ysgol sy’n ysgol sefydledig ar hyn o bryd rhag newid ei chategori er mwyn bod mewn categori gwahanol.
Adran 28 – Arbedion: cynigion i sefydlu ysgolion sefydledig newydd
56.Mae adran 28 yn cynnwys darpariaethau arbed. Nid yw’r diwygiadau a wneir gan adran 25 yn effeithio ar unrhyw gynnig i sefydlu ysgol sefydledig newydd, a gyhoeddwyd cyn bod adran 25 wedi dod i rym ac nad yw wedi ei weithredu. Bydd cynnig o’r fath, felly, yn parhau i gael ei drin o dan adran 28 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan adran 25 wedi dod i rym.
Adran 29 – Arbedion: cynigion i newid categori i ysgol sefydledig
57.Mae adran 29 yn cynnwys darpariaethau arbed. Nid yw’r diwygiadau a wneir gan adran 26 yn effeithio ar unrhyw gynnig ar gyfer newid categori ysgol i gategori arall a gyhoeddwyd cyn bod adran 26 wedi dod i rym ac nad yw wedi ei weithredu. Bydd cynnig o’r fath, felly, yn parhau i gael ei drin o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998, fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan adran 26 wedi dod i rym.
Adran 30 – Pwerau atodol
58.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth yr ystyriant yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn rhoi effaith lawn i adrannau 25 i 28. Caiff gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y pŵer hwn, ymhlith pethau eraill, ddiwygio neu ddirymu is-ddeddfwriaeth.