Rhan 4: Cyffredinol
Adran 31 – Dehongli’n gyffredinol
59.Mae is-adran (1) yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Mesur. Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid darllen y Mesur yn unol â Deddf Addysg 1996. Golyga hynny fod rhaid darllen y diffiniadau yn y Ddeddf honno fel pe baent yn ymestyn ar draws i’r Mesur hwn, a bod darpariaethau cyffredinol y Ddeddf honno yn gymwys i’r Mesur. Er enghraifft, rhestrir “educational functions” awdurdod lleol yn Atodlen 36A i Ddeddf Addysg 1996, ac y mae’r diffiniad hwnnw, felly, yn gymwys i’r term hwnnw ac i “swyddogaethau addysgol” pan ddefnyddir hwy yn y Mesur hwn. Mae’r diffiniadau a bennir yn y Mesur yn drech nag unrhyw rai a ddefnyddir yn Neddf Addysg 1996 os oes gwahaniaeth ystyr (is-adran (3)).
Adran 32 – Gorchmynion a rheoliadau
60.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer gwneud gorchmynion a rheoliadau o dan y Mesur drwy offeryn statudol, ac yn pennu gweithdrefnau’r Cynulliad mewn perthynas â’r offerynnau hynny.
Adran 33 – Cychwyn
61.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chychwyn. Daw adrannau 25 i 33 i rym ddau fis wedi i’r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor. Deuir â darpariaethau eraill y Mesur i rym drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru .
Adran 34 – Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau Addysg
62.Mae is-adran (1) yn darparu mai enw’r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2011. Bydd y Mesur hwn yn cael ei gynnwys yn y restr o Ddeddfau Addysg a gynhwysir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (is-adran (2)). Bydd unrhyw gyfeiriad mewn deddfwriaeth at “y Deddfau Addysg” neu “the Education Acts” yn cynnwys cyfeiriad at y Mesur hwn.