Search Legislation

The Environmentally Sensitive Areas Designation (Wales) (Welsh Language Provisions) Order 1990

 Help about what version

What Version

  • Latest available (Revised)
  • Original (As made)

Status:

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Article 3

SCHEDULE 2WELSH VERSIONS OF REQUIREMENTS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (LLEYN PENINSULA) DESIGNATION ORDER 1987

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i)—

1. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw patrymau presennol y caeau;

2. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â dileu unrhyw wrych, mur neu glawdd (iii) presennol;

3. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â chodi unrhyw ffens newydd;

4. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio ag aredig, gwastatau, ailhadu neu drin tir garw (iv) a gweirgloddiau gwair (v);

5. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw'r gwrychoedd, y muriau a'r cloddiau (iii) dal stoc presennol mewn cyflwr cymwys i ddal stoc gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol;

6. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â symud unrhyw byst llidiardau cerrig presennol;

7. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw a gofalu am bob llyn, pwll dw*r a nant;

8. rhaid i'r ffermwr (ii), wrth ffermio'r tir, sicrhau nad yw'n difrodi nac yn dinistrio unrhyw nodwedd archaeolegol neu hanesyddol os yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig am ei bodolaeth;

9. rhaid i'r ffermwr (ii) gael cyngor ysgrifenedig oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli, cynllunio a deunyddiau cyn adeiladu neu newid adeiladau neu ffyrdd neu wneud unrhyw waith peirianegol arall a awdurdodwyd o dan Ran 6 o Atodlen 2 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988(1). Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys i unrhyw ddatblygiad y cyflwynwyd rhybudd sy'n cyfyngu ar y datblygiad a ganiateir mewn perthynas ag ef o dan erthygl 5 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988;

10. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw pob coetir lydanddail (vi) a phrysgwydd;

11. rhaid i'r ffermwr (ii), cyn plannu unrhyw goed at ddibenion amaethyddol, gael cyngor ysgrifenedig ynghylch lleoli a rheoli'r coed hynny oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

12. rhaid i'r ffermwr (ii), o fewn dwy flynedd ar o*l dechrau'r cytundeb (i), gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli coetir llydanddail (vi) a phrysgwydd oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

13. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â thaenu unrhyw ffwngleiddiad, pryfleiddiad, llysleiddiad, calch neu wrtaith o fewn llain o dir sydd o leiaf ddeg metr o led wrth ymyl cors, gwaun, llyn, pwll dw*r neu nant.Diffiniadau

(i)ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987(2);

(ii)ystyr “ffermwr” yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987 ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;

(iii)ystyr “clawdd” yw clawdd o gerrig neu o bridd sydd y tu mewn i derfyn cae neu sy'n ffurfio terfyn cae;

(iv)ystyr “tir garw” yw gweundir, corsydd, tir gwlyb neu dir glas lled-naturiol;

(v)ystyr “gweirglodd wair” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid;

(vi)ystyr “coetir llydanddail” yw tir a ddefnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill.

(1)

O.S. 1988/1813, diwygiwyd gan O.S. 1989/603.

(2)

O.S. 1987/2027, diwygiwyd gan O.S. 1988/173.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.

Original (As Enacted or Made): The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources