- Latest available (Revised)
- Original (As made)
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Article 4
1. O ran unrhyw dir sy'n destun y cytundeb (i) ac sy'n dir garw (ii)—
(1) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;
(2) rhaid i'r ffermwr (iii) bori â gwartheg neu ddefaid, yn o*l graddfa stocio flynyddol nad ydyw, ar gyfartaledd, yn fwy na 0.75 uned da byw (iv) yr hectar ond beth bynnag heb achosi sathru, tanbori neu orbori;
(3) rhaid i'r ffermwr (iii) losgi eithin, grug neu laswellt yn unol â rhaglen a gytunir ymlaen llaw â'r Ysgrifennydd Gwladol;
(4) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw fath o wrtaith, slyri, calch, basig slag neu unrhyw sylwedd arall a gynlluniwyd i leihau asidedd y pridd;
(5) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu pryfleiddiaid;
(6) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn(Pteridium aquilinum), danadl(Urtica dioica), marchysgall(Cirsium vulgare), ysgall yr âr(Cirsium arvense), dail tafol cyrliog(Rumex crispus), dail tafol llydan(Rumex obtusifolius) neu lysiau'r gingroen(Senecio jacobaea) ac yna trwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac, yn achos rhedyn(Pteridium aquilinum), trwy chwistrellu cyffredinol;
(7) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli rhedyn(Pteridium aquilinum) yn unig trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu drwy dorri neu falu.
2. O ran unrhyw dir sy'n destun y cytundeb (i) ac yn weirglodd wair (v)—
(1) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thorri ar gyfer gwair neu silwair cyn 8 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;
(2) rhaid i'r ffermwr (iii) dorri o leiaf unwaith ar gyfer gwair neu silwair ar o*l 7 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;
(3) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw da byw allan rhwng 15 Mai a'r toriad cyntaf ar gyfer gwair neu silwair mewn unrhyw flwyddyn;
(4) rhaid i'r ffermwr (iii), cyhyd â'i fod yn bodloni'r gofyniad yn yr is-baragraff blaenorol, bori gwartheg a defaid rhwng 8 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn a 15 Mai yn y flwyddyn ganlynol yn o*l cyfradd stocio nad ydyw, ar gyfartaledd, yn fwy nag un uned da byw (iv) yr hectar ond beth bynnag heb achosi sathru, tanbori neu orbori;
(5) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;
(6) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw wrtaith anorganig, calch, basig slag neu sylwedd arall a gynlluniwyd i leihau asidedd y pridd;
(7) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw wrtaith ar wahân i dail neu slyri;
(8) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â chynyddu cyfraddau presennol taenu tail neu slyri a beth bynnag rhaid iddo beidio â thaenu mwy na 12.5 tunnell fetrig o dail neu slyri yr hectar y flwyddyn;
(9) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu pryfleiddiaid;
(10) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw lysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn(Pteridium aquilinum), danadl(Urtica dioica), marchysgall(Cirsium vulgare), ysgall yr âr(Cirsium arvense), dail tafol cyrliog(Rumex crispus), dail tafol llydan(Rumex obtusifolius) neu lysiau'r gingroen(Senecio jacobaea) ac yna trwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn(Pteridium aquilinum) trwy chwistrellu cyffredinol;
(11) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli rhedyn(Pteridium aquilinum) yn unig trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu drwy dorri neu falu.Diffiniadau
(i)ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987;
(ii)ystyr “tir garw” yw gweundir, corsydd, tir gwlyb neu dir glas lled-naturiol;
(iii)ystyr “ffermwr” yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987 ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;
(iv)ystyr “uned da byw” yw—
(a)1 fuwch, neu
(b)1.25 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) dros ddwy oed, neu
(c)1.6 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) o un oed i ddwy oed yn gynwysedig, neu
(d)2.5 anifail o deulu'r ych o dan un oed, neu
(e)6.66 o ddefaid.
Yn y diffiniad hwn ystyr “buwch” yw anifail benyw o deulu'r ych sydd wedi bwrw llo o leiaf ddwywaith;
(v)ystyr “gweirglodd wair” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.
Original (As Enacted or Made): The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: