Search Legislation

The Environmentally Sensitive Areas Designation (Radnor) (Welsh Language Provisions) Order 1994

 Help about what version

What Version

  • Latest available (Revised)
  • Original (As made)

More Resources

Status:

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Article 2

SCHEDULE 1FORMS OF WORDS IN WELSH FOR REQUIREMENTS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (RADNOR) DESIGNATION ORDER 1993

O ran pob tir sy'n destun cytundeb–

1.—(1) rhaid i'r ffermwr gadw perthi, muriau, ffensiau a chloddiau presennol gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol;

(2) rhaid i'r ffermwr beidio â dileu unrhyw berthi, muriau, ffensiau (heblaw ffensiau gwifren), cloddiau neu goed perthi presennol;

(3) rhaid i'r ffermwr beidio â chodi perthi, muriau, ffensiau neu gloddiau newydd heb gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;

(4) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ar unrhyw ffin cae neu ar lain o dir o leiaf dau fetr o led sy'n gyfagos i ffin o'r fath–

(a)calch neu unrhyw sylwedd arall sydd wedi'i gynllunio i leihau asidedd y pridd, neu

(b)gwrtaith anorganig neu organig, ffwngleiddiaid neu blaleiddiaid;

(5) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ar unrhyw ffin cae nac ar lain o dir o leiaf dau fetr o led sy'n gyfagos i ffin o'r fath, ac eithrio i reoli rhedyn (Pteridium aquilinum), danadl (Urtica dioica), marchysgall (Cirsium vulgare), ysgall yr âr (Cirsium arvense), dail tafol cyrliog (Rumex crispus), dail tafol llydan (Rumex obtusifolius), llysiau'r gingroen (Senecio jacobaea) a chanclwm Siapaneaidd (Reynoutria Japonica) ac yna drwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn (Pteridium aquilinum) drwy chwistrellu cyffredinol;

(6) rhaid i'r ffermwr gadw a gofalu am bob llyn, pwll a nant bresennol;

(7) rhaid i'r ffermwr, wrth ffermio'r tir, sicrhau nad yw'n difrodi nac yn dinistrio unrhyw nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol;

(8) rhaid i'r ffermwr beidio â dileu unrhyw brysg neu goed llydanddail heb gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;

(9) rhaid i'r ffermwr, cyn plannu unrhyw goed at ddibenion amaethyddol, sicrhau cyngor ysgrifenedig oddi wrth berson neu gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli a rheoli'r coed hynny;

(10) rhaid i'r ffermwr beidio â dileu unrhyw greigiau o frigiadau craig;

(11) rhaid i'r ffermwr gadw unrhyw adeiladau fferm traddodiadol gwrth–dywydd y mae'n gyfrifol amdanynt mewn cyflwr gwrth–dywydd gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol neu ddeunyddiau eraill y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cymeradwyo eu defnyddio;

(12) rhaid i'r ffermwr gael cyngor ysgrifenedig oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli, cynllunio a deunyddiau cyn adeiladu neu newid adeiladau neu ffyrdd neu wneud unrhyw waith peirianegol neu waith adeiladu arall nad oes angen rhoi gwybod amdano ymlaen llaw neu ei benderfynu gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988(1), neu ganiatâd cynllunio;

(13) rhaid i'r ffermwr reoli plâu mewn modd cyfreithiol.

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n dir glas amgaee dig wedi'i wella'n rhannol, tir glas amgaee dig heb ei wella, gweirglodd, porfeydd garw lled–naturiol, tir gwlyb neu glustogfa–

2.—(1) rhaid i'r ffermwr beidio ag aredig, gwastata u, ail–hadu, trin neu, ac eithrio yn achos tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol neu weirglodd, defnyddio og gadwyni neu roler;

(2) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol neu weirglodd, beidio â defynddio og gadwyni neu roler rhwng 31 Mawrth a 15 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;

(3) rhaid i'r ffermwr beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;

(4) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu calch neu unrhyw sylwedd arall sydd wedi'i gynllunio i leihau asidedd y pridd;

(5) yn ddarostyngedig i is–baragraff (6) isod, rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu unrhyw wrtaith anorganig neu organig;

(6) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol neu weirglodd, ac yn ddarostyngedig i is–baragraff (4) paragraff 1 yr Atodlen hon, beidio â thaenu mwy na 12.5 tunnell o wrtaith buarth am bob hectar bob blwyddyn;

(7) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ffwngleiddiaid neu bryfleiddiaid;

(8) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn (Pteridium aquilinum), danadl (Urtica dioica), marchysgall (Cirsium vulgare), ysgall yr âr (Cirsium arvense), dail tafol cyrliog (Rumex crispus), dail tafol llydan (Rumex obtusifolius), llysiau'r gingroen (Senecio jacobaea) a chanclwm Siapaneaidd (Reynoutria Japonica) ac yna drwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn (Pteridium aquilinum) drwy chwistrellu cyffredinol;

(9) rhaid i'r ffermwr reoli rhedyn (Pteridium aquilinum) trwy gyfrwng mecanegol neu trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig;

(10) rhaid i'r ffermwr losgi grug, glaswellt a phrysg yn unol â rhaglen y cytunir arni ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig;

(11) rhaid i'r ffermwr beidio â chynyddu'r lefelau stocio presennol o wartheg a defaid heb gymeradwyaeth ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;

(12) rhaid i'r ffermwr beidio â phori'r tir gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio sy'n achosi gor–bori neu sathru, ond–

(a)o ran porfeydd garw lled–naturiol sydd heb eu hamga u ac nad ydynt yn cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.36 uned da byw yr hectar; a

(b)o ran porfeydd garw lled–naturiol sydd heb eu hamga u ond sy'n cynnwys grug neu dir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol sy'n cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.22 uned da byw yr hectar;

(13) rhaid i'r ffermwr gyfyngu ar roi bwyd ategol i dda byw i fannau y cytunir arnynt ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

Diffiniadau

(i)ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993(2);

(ii)ystyr “clawdd” yw clawdd o gerrig neu o bridd sydd y tu mewn i derfyn cae neu sy'n ffurfio terfyn cae;

(iii)ystyr “clustogfa” yw llain o dir, heblaw tir sy'n dir glas amgaee dig sydd heb ei wella, tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol, gweirglodd, porfeydd garw lled–naturiol neu dir gwlyb, sy'n cyffinio â brigiad craig ac sydd yn 2 fetr o leiaf o led;

(iv)ystyr “tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol” yw tir glas amgaee dig sydd heb ei aredig, ei wastata u neu ei ail–hadu'n rheolaidd ond sydd wedi'i newid drwy daenu llysleiddiaid, gwrtaith anorganig neu organig neu drwy bori dwys neu draenio;

(v)ystyr “tir glas amgaee dig sydd heb ei wella” yw tir glas amgaee dig sydd heb ei aredig, ei wastata u, ei draenio neu ei ail–hadu yn rheolaidd, neu ei drin gyda gwrtaith anorganig neu organig, calch, llysleiddiaid neu blaleiddiaid;

(vi)ystyr “ffermwr” yw person sydd â buddiant mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993 ac sydd hefyd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;

(vii)ystyr “gweirglodd” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o laswelltoedd, hesg a blodau gwyllt cynhenid;

(viii)ystyr “grug” yw llystyfiant sy'n cynnwys Calluna vulgaris,Erica tetralixneu Erica cinerea;

(ix)ystyr “uned da byw” yw–

(a)1 anifail o deulu'r ych sy'n fwy na dwy flwydd oed, neu

(b)1.66 anifail o deulu'r ych o chwe mis oed hyd at ddwy flwydd oed yn gynwysedig, neu

(c)6.66 o ddefaid;

(x)ystyr “brigiad craig” yw darn o dir lle mae haen o'r graig isorweddol yn agored uwchben wyneb y ddaear ac yn gorchuddio arwynebedd uwchben y ddaear nad yw'n llai na naw metr sgwâr;

(xi)ystyr “prysg” yw llystyfiant sy'n cynnwys yn bennaf brysgwydd cynhenid lleol sydd fel arfer yn llai na phum metr o uchder;

(xii)ystyr “tir pori garw lled–naturiol” yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu Agrostis), peisgwellt (Festuca), rhedyn (Pteridium aquilinum), glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea), cawnen ddu (Nardus stricta), grug (Calluna vulgaris, Erica tetralixneuErica cinerea), llus (Vaccinium myrtillus), plu'r gweunydd (Eriophorum) neu glwbfrwynen y mawn (Trichophorum cespitosum);

(xiii)ystyr “adeiladau fferm traddodiadol” yw adeiladau sy'n cael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol ar hyn o bryd, ond heb gynnwys llety byw, a'r rheiny wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau sy'n draddodiadol i'r ardal;

(xiv)ystyr “tir gwlyb” yw tir gyda lefel trwythiad ar wyneb y pridd neu ychydig odano drwy'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ac mae'n cynnwys tir pori gwlyb, gwelyau cawn, ffen–gorsydd, ffeniau helyg ac, ac eithrio yn gymaint ag y mae'r tir hwnnw yn cyffinio â thir glas amgaee dig sydd heb ei wella, tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol, gweirglodd neu borfeydd garw lled–naturiol, mae hefyd yn cynnwys llain o dir o leiaf 10 metr o led sy'n gyfagos i'r tir hwnnw.

Article 3

SCHEDULE 2FORMS OF WORDS IN WELSH FOR ADDITIONAL PROVISIONS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN ARTICLE 2(1) OF AND SCHEDULE 2 TO THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (RADNOR) DESIGNATION ORDER 1993

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n dir gwlyb:–

1.—(1) rhaid i'r ffermwr, cyn pen chwe mis ar o*l dechrau'r cytundeb, gytuno yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol–

(a)ar raglen reoli ar gyfer y tir gwlyb, a

(b)ar raddfa amser ar gyfer gweithredu'r rhaglen reoli honno;

(2) rhaid i'r ffermwr, cyn pen pymtheng mis ar o*l dechrau'r cytundeb, ddechrau gwaith ar y rhaglen reoli ar gyfer y tir gwlyb y cytunwyd arni gyda'r Ysgrifennydd Gwladol;

(3) rhaid i'r ffermwr beidio â gwneud unrhyw waith i gynnal systemau traenio presennol.

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n goetir llydanddail–

2.—(1) rhaid i'r ffermwr gadw da byw allan;

(2) rhaid i'r ffermwr, cyn pen chwe mis ar o*l dechrau'r cytundeb, gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli'r coetir llydanddail oddi wrth berson neu gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

(3) rhaid i'r ffermwr, cyn pen naw mis ar o*l dechrau'r cytundeb, gytuno yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol–

(a)ar raglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail, a

(b)ar raddfa amser ar gyfer gweithredu'r rhaglen reoli honno;

(4) rhaid i'r ffermwr, cyn pen pymtheng mis ar o*l dechrau'r cytundeb, ddechrau gwaith ar y rhaglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail y cytunwyd arni gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n weirglodd–

3.—(1) rhaid i'r ffermwr beidio â thorri ar gyfer gwair neu silwair cyn 15 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;

(2) rhaid i'r ffermwr dorri o leiaf unwaith ar gyfer gwair neu silwair ar o*l 14 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn a rhaid iddo bori adladd pob toriad;

(3) rhaid i'r ffermwr gadw da byw allan am o leiaf saith wythnos cyn y toriad cyntaf ar gyfer gwair neu silwair mewn unrhyw flwyddyn.

O ran unrhyw borfeydd garw lled–naturiol sy'n destun cytundeb a lle mae grug yn 25 y cant o leiaf ond heb fod yn fwy na 50 y cant o'r gorchudd llystyfiant–

4.—(1) rhaid i'r ffermwr bori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog nad yw'n fwy na 0.15 uned da byw yr hectar;

(2) rhaid i'r ffermwr, rhwng 1 Medi mewn unrhyw flwyddyn a 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol, bori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog nad yw'n fwy na 0.10 uned da byw yr hectar.

O ran unrhyw dir âr sy'n destun cytundeb ac sy'n addas ar gyfer creu pentiroedd cadwraeth–

5.—(1) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ffwngleiddiaid neu bryfleiddiaid, ac eithrio rhwng 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn a l Ionawr yn y flwyddyn ganlynol;

(2) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ar y tir ond fel y cytunwyd ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ac eithrio na fydd y gofyniad hwn yn gymwys wrth daenu llysleiddiaid ar y rhan honno o'r tir sy'n ffurfio llain o dir un metr o led ac sy'n gyfagos i fan sydd o dan gnwd.

6.  O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n addas i'w droi'n o*l yn borfeydd garw lled– naturiol, rhaid i'r ffermwr barchu gofynion paragraff (2) Atodlen 1, heblaw is–baragraffau (2) a (6) y paragraff hwnnw, a pharagraff 4 yr Atodlen hon.

7.  O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n addas i'w droi'n o*l yn weirglodd, rhaid i'r ffermwr barchu gofynion paragraff 2 Atodlen 1 a pharagraff 3 yr Atodlen hon.

8.  O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n addas i'w droi'n o*l yn dir gwlyb, rhaid i'r ffermwr barchu gofynion paragraff 2 Atodlen 1, heblaw is–baragraffau (2) a (6) y paragraff hwnnw, a pharagraff 1 yr Atodlen hon.

Diffiniadau

(i)ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993;

(ii)ystyr “coetir llydanddail” yw tir a ddefnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill;

(iii)ystyr “pentir cadwraeth” yw llain o dir âr sy'n fan rhwng llinell sy'n rhedeg yn gyfochrog â ffin cae ar bellter o 2 fetr o'r ffin honno a llinell arall sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r ffin honno ar bellter o 6 metr o leiaf o'r ffin honno sef man y caniateir i bryfed buddiol a chwyn llydanddail oroesi arno, drwy ddefnyddio plaleiddiaid yn ddethol;

(iv)ystyr “tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol” yw tir glas amgaee dig sydd heb ei aredig, ei wastata u neu ei ail–hadu'n rheolaidd ond sydd wedi'i newid drwy daenu llysleiddiaid, gwrtaith anorganig neu organig neu drwy bori dwys neu draenio;

(v)ystyr “tir glas amgaee dig sydd heb ei wella” yw tir glas amgaee dig sydd heb ei aredig, ei wastata u, ei draenio neu ei ail–hadu yn rheolaidd, neu ei drin gyda gwrtaith anorganig neu organig, calch, llysleiddiaid neu blaleiddiaid;

(vi)ystyr “ffermwr” yw person sydd â buddiant mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993 ac sydd hefyd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;

(vii)ystyr “gweirglodd” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o laswelltoedd, hesg a blodau gwyllt cynhenid;

(viii)ystyr “grug” yw llystyfiant sy'n cynnwys Calluna vulgaris,Erica tetralixneu Erica cinerea;

(ix)ystyr “uned da byw” yw–

(a)1 anifail o deulu'r ych sy'n fwy na dwy flwydd oed, neu

(b)1.66 anifail o deulu'r ych o chwe mis oed hyd at ddwy flwydd oed yn gynwysedig, neu

(c)6.66 o ddefaid;

(x)ystyr “tir pori garw lled–naturiol” yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu Agrostis), peisgwellt (Festuca), rhedyn (Pteridium aquilinum), glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea), cawnen ddu (Nardus stricta), grug (Calluna vulgaris, Erica tetralixneu Erica cinerea), llus (Vaccinium myrtillus), plu'r gweunydd (Eriophorum) neu glwbfrwynen y mawn (Trichophorum cespitosum);

(xi)ystyr “tir gwlyb” yw tir gyda lefel trwythiad ar wyneb y pridd neu ychydig odano drwy'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ac mae'n cynnwys tir pori gwlyb, gwelyau cawn, ffen–gorsydd, ffeniau helyg ac, ac eithrio yn gymaint ag y mae'r tir hwnnw yn cyffinio â thir glas amgaee dig sydd heb ei wella, tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol, gweirglodd neu borfeydd garw lled–naturiol, mae hefyd yn cynnwys llain o dir o leiaf 10 metr o led sy'n gyfagos i'r tir hwnnw.

Article 4

SCHEDULE 3FORMS OF WORDS IN WELSH FOR ADDITIONAL PROVISIONS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN ARTICLE 2(1) OF AND SCHEDULE 3 TO THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (RADNOR) DESIGNATION ORDER 1993

O ran unrhyw ffiniau caeau sy'n berthi, cloddiau neu furiau cerrig ac sy'n destun cytundeb, rhaid i'r ffermwr gynnal rhaglen adfer y cytunir arni ymlaen llaw yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

Diffiniadau

(i)ystyr “clawdd” yw clawdd o gerrig neu o bridd sydd y tu mewn i derfyn cae neu sy'n ffurfio terfyn cae;

(ii)ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993.

(iii)ystyr “ffermwr” yw person sydd â buddiant mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993 ac sydd hefyd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol.

Article 5

SCHEDULE 4FORMS OF WORDS IN WELSH FOR CONSERVATION PLAN OPERATIONS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN ARTICLE 2(1) OF AND SCHEDULE 4 TO THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (RADNOR) DESIGNATION ORDER 1993

1.  Adfer pyllau.

2.  Creu ac adfer gwarchodfeydd bywyd gwyllt ar hyd nentydd.

3.  Adfer grug.

4.  Adfywio grug drwy ei losgi neu ei ffustio.

5.  Ail–greu gweirgloddiau cyfoethog eu blodau.

6.  Adfer adeiladau fferm traddodiadol.

7.  Rheoli rhedyn (Pteridium aquilinum).

8.  Rheoli canclwm Siapaneaidd (Reynoutria Japonica).

Diffiniadau

(i)ystyr “grug” yw llystyfiant sy'n cynnwys Calluna vulgaris, Erica tetralix neu Erica cinerea;

(ii)ystyr “adeiladau fferm traddodiadol” yw adeiladau sy'n cael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol ar hyn o bryd, ond heb gynnwys llety byw, a'r rheiny wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau sy'n draddodiadol i'r ardal.

(1)

O.S. 1988/1813. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1991/2805.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.

Original (As Enacted or Made): The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources