Search Legislation

Gorchymyn Cefnffordd Castell-Nedd — Y Fenni (A465) (Deuoli o'r Fenni i Hirwaun a'r Ffyrdd Ymuno ac Ymadael) a Ffordd Man i'r Dwyrain o Abercynon — Man i'r Dwyrain o Ddowlais (A4060), Cefnffordd Caerdydd — Glanconwy (A470) (Ffyrdd Cysylltu) 1999

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

ATODLEN 1LLWYBR Y BRIF GEFNFFORDD NEWYDD

Dyma lwybr y brif gefnffordd newydd, sef llwybr a leolir rhwng y Fenni a Hirwaun yn Sir a Bwrdeistrefi Sirol Mynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf: mae'r llwybr yn rhyw 40.6 cilomedr o hyd ac yn cychwyn o bwynt ar y Gefnffordd (a nodir ag “A” ar y plan adneuedig ar brif blan Rhif 1), ryw 40 metr i'r gorllewin o ganolbwynt Cylchfan Hardwick yn y Fenni ac yn mynd tua'r de-orllewin hyd at bwynt ar y Gefnffordd (a nodir “B” ar y plan adneuedig ar brif blan Rhif 2), ryw 800 metr i'r gogledd-orllewin yn gyffredinol hyd at bwynt ar y Gefnffordd (a nodir “B” ar y plan adneuedig ar brif blan Rhif 2), ryw 800 metr i'r gogledd-orllewin o ganolbwynt Cylchfan y Rhigos ger Pyllau Hirwaun.

ATODLEN 2LLWYBRAU'R YMUNO AC YMADAEL

Mae llwybrau'r ffyrdd ymuno ac ymadael fel a ganlyn:

1.  Cyffordd aml-lefel â'r Ffordd Merthyr wedi'i hail-linellu — (B246). (Plan Safle Rhif 1).

Dau lwybr i gysylltu lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd i'r dwyrain o Orsaf Waith Cyngor yn Llan-ffwyst (rhoddir y cyfeirnodau 1 a 2 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 1).

2.  Dau lwybr yn cysylltu lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain â'r A4143 i'r de-ddwyrain o'r fynwent yn Llan-ffwyst (rhoddir y cyfeirnodau 3 a 4 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 1).

3.  Cyffordd aml-lefel â'r B4246 wedi'i hail-linellu a Ffordd y Fenni (A4077). (Plan Safle Rhif 2).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y darperir ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r gorllewin o Fferm Glanbaiden, i'r gogledd-orllewin o King George’s Field, Gofilon ac i'r de-ddwyrain o'r Groesffordd, Gilwern (rhoddir y cyfeirnodau 5, 6, 7 ac 8 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 2).

4.  Llwybr sy'n rhyw 0.1 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr ogleddol Ffordd yr Orsaf, Clydach, 350 metr i'r de-ddwyrain o'i chyffordd â'r gefnffordd bresennol ac yn rhedeg tua'r gogledd-orllewin yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r gorllewin o Saleyard (rhoddir y cyfeirnod 9 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 2).

5.  Llwybr sy'n rhyw 0.1 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr ddeheuol y Ffordd Fawr, Saleyard, 220 metr i'r gogledd-ddwyrain o'i chyffordd â Ffordd yr Eglwys ac yn rhedeg tua'r de-ddwyrain yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain i'r gorllewin o Saleyard, (rhoddir y cyfeirnod 10 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 2).

6.  Cyffordd aml-lefel â'r gylchfan bresennol ym Mryn-mawr (Plan Safle Rhif 3).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â'r gylchfan bresennol ym Mryn-mawr i'r de-orllewin o ffatri Anacomp ac i'r de a'r gorllewin o Ysgol Bryn-mawr (rhoddir y cyfeirnodau 11, 12, 13 a 14 yn ôl eu trefn) i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 3).

7.  Llwybr sy'n rhyw 0.6 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr ogleddol y gefnffordd 300 metr i'r gorllewin o'r danffordd amaethyddol ac yn rhedeg tua'r gogledd-ddwyrain yn gyffredinol, ac wedyn tua'r dwyrain i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain i'r dwyrain o'r danffordd amaethyddol ar Waun Rydd, Garn Lydan, (rhoddir y cyfeirnod 15 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 4).

8.  Llwybr sy'n rhyw 0.6 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt 300 metr i'r gorllewin o'r danffordd amaethyddol ac yn rhedeg tua'r gogledd-ddwyrain i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r dwyrain o'r danffordd amaethyddol ar Waun Rydd, (rhoddir y cyfeirnod 16 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 4).

9.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd wedi'i hail-linellu i Ystad Ddiwydiannol Rasa i'r dwyrain o Ystad Ddiwydiannol Rasa (Plan Safle Rhif 5).

Dau lwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y darperir ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r gogledd-ddwyrain o Fferm Herrington, Rasa (rhoddir y cyfeirnodau 17 a 18 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 5).

10.  Llwybr sy'n rhyw 0.6 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr orllewinol y gylchfan bresennol i'r gorllewin o Nant-y-Croft ac yn rhedeg tua'r de-orllewin yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r gorllewin o'r eiddo a adeweinir fel Hirgan, (rhoddir y cyfeirnod 19 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 5).

11.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd wedi'i hail-linellu i Ystad Ddiwydiannol Rasa i'r gorllewin o Ystad Ddiwydiannol Rasa (Plan Safle Rhif 5).

Un llwybr i gysylltu lôn gerbydau tua'r dwyrain i brif gefnffordd newydd â cylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r gogledd-orllewin o Nant-y-Croft, Rasa (rhoddir y cyfeirnod 20 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 5).

12.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i'r gogledd a'r A4048 sy'n arwain i'r de o'r gylchfan bresennol yn Nant-y-Bwch (Plan Safle Rhifau 5 a 6).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig yng nghyffiniau'r gylchfan bresennol yn Nant-y-Bwch (rhoddir y cyfeirnodau 21 a 22 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 5 a'r cyfeirnodau 23 a 24 ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 6).

13.  Cyffordd aml-lefel â'r A469 yn arwain i Rymni. (Plan Safle Rhif 6).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y darperir ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig (rhoddir y cyfeirnodau 25, 26, 27 a 28 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 6).

14.  Llwybr sy'n rhyw 1.0 cilomedr o hyd sy'n cychwyn ar bwynt ar ochr dde-ddwyreiniol y gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r brif gefnffordd newydd yn Nowlais Top (a ddisgrifir yn Atodlen 3) ac yn rhedeg tua'r de-ddwyrain yn gyffredinol a chan gynnwys y gylchfan newydd sy'n ymuno â'r gefnffordd newydd (A4060) wrth bwynt sydd ryw 30 metr i'r gogledd-ddwyrain o gyffordd yr A4060 â Stryd Blaen Dowlais (a nodir â “D” ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 7) ac wedyn o bwynt ar ochr ddwyreiniol y gylchfan newydd yn mynd tua'r gogledd-ddwyrain yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r dwyrain o Gronfa Roadside Pond (rhoddir y cyfeirnod 29 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 7).

15.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i'r gogledd i Gomin Merthyr (Plan Safle Rhif 7).

Tri llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r brif gefnffordd newydd (a ddisgrifir yn Atodlen 3) sy'n cysylltu'r Stryd Fawr â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i'r gogledd i'r parc manwerthu yn Nowlais Top ac ymlaen i Gomin Merthyr (rhoddir y cyfeirnodau 30, 31 a 32 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 7).

16.  Llwybr sy'n rhyw 0.3 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr ddwyreiniol Rocky Road 170 metr i'r dwyrain o'r gyffordd aml-lefel y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig yn y Galon Uchaf, i'r de o'r gefnffordd ac yn mynd tua'r dwyrain yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r de o Ystad Ddiwydiannol y Pant (rhoddir y cyfeirnod 33 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 8).

17.  Llwybr i gysylltu lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r gefnffordd y darperir ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r de o Ystad Ddiwydiannol y Pant (rhoddir y cyfeirnod 34 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 8).

18.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i'r de i Ystad y Gurnos a'r ffordd fynediad breifat i Fferm y Gurnos (Plan Safle Rhif 8).

Dau lwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r gogledd o Ystad y Gurnos ac i'r dwyrain o Daf Fechan (rhoddir y cyfeirnodau 35 a 36 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 8).

19.  Cyffordd aml-lefel â Chefnffordd Caerdydd Glanconwy (A470) yn arwain i'r gogledd i Aberhonddu ac i'r de i'r Gelli-deg (Plan Safle Rhif 9).

Pedwar llwyth i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â chylchfan ar lun dymbel sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r Gefnffordd Caerdydd — Glanconwy (A470) (a ddisgrifir yn Atodlen 3) yng Nghefncoedycymer (rhoddir y cyfeirnodau 37, 38, 39 a 40 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 9).

20.  Cyffordd aml-lefel yn Baverstock. (Plan Safle Rhif 10).Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, yn Baverstock i'r de-orllewin o Westy Baverstock ac i'r gogledd-ddwyrain o Amlosgfa Llwydcoed (rhoddir y cyfeirnodau 41, 42, 43 a 44 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 10).

21.  Cyffordd aml-lefel ger Pyllau Hirwaun (Plan Safle Rhif 11).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, yng nghyffiniau a'r gylchfan bresennol ger Pyllau Hirwaun (rhoddir y cyfeirnodau 45, 46, 47 a 48 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 11).

ATODLEN 3LLWYBR Y CEFNFFYRDD CYSYLLTU NEWYDD

Dyma lwybr Cefnffordd newydd Man i'r Dwyrain o Abercynon Man i'r Dwyrain o Ddowlais (A4060), sef llwybr ryw 700 metr o hyd yn cychwyn o bwynt ryw 45 metr i'r gogledd-orllewin o bwynt ar linell ganol y gefnffordd bresennol (A4060) ryw 390 metr i'r de-orllewin o derfyn de-ddwyreiniol Stryd Blaen Dowlais (a nodir ag “C” ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 7) ac yn mynd tua'r gogledd-ddwyrain yn gyffredinol hyd at bwynt ryw 320 metr i'r gogledd-ddwyrain o derfyn de-ddwyreiniol Stryd Blaen Dowlais (a nodir â “D” ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 7) lle mae'n cwrdd â chylchfan newydd y slipffordd A465.

Dyma lwybr Cefnffordd newydd Caerdydd Glanconwy (A470), sef llwybr ryw 460 metr o hyd sy'n ffurfio cyffordd aml-lefel ar lun dymbel wedi'i chanoli ar bwynt ryw 520 metr i'r dwyrain o'r eiddo a adweinir fel Ffrwd-ganol-fawr (a nodir ag “F” ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 9)

Llwybr Cefnffordd newydd Castell-nedd — y Fenni (A465) yn cynnwys cylchfan aml-lefel ryw 400 metr o hyd, wedi'i chanoli ar bwynt ryw 500 metr i'r dwyrain o ymyl dde-ddwyreiniol y Gronfa Isaf, Dowlais Top (rhoddir y cyfeirnod “E” i'r llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 7) i gysylltu â'r ffyrdd ymuno ac ymadael.

ATODLEN 4

DARNAU O GEFNFFYRDD SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFYRDDDOSBARTH

(i)y darn hwnnw sy'n cychwyn o bwynt ryw 300 metr i'r de-orllewin o'r danffordd amaethyddol yn Waun Rydd, Garn Lydan (a nodir ag “AA” ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 4) sy'n ymestyn tua'r de-orllewin yn gyffredinol am bellter o ryw 4.3 cilomedr ac yn cynnwys cylchfannau Rasa a Glyn Ebwy hyd at bwynt 660 metr i'r de-orllewin o ganolbwynt cylchfan Rasa (a nodir a “BB” ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 5)

Dosbarthedig

(ii)y darn hwnnw sy'n cychwyn o bwynt ryw 140 metr i'r gorllewin o ganolbwynt y gylchfan bresennol yn Nhrewaun (a nodir ag “CC” ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 11) sy'n ymestyn tua'r gogledd-orllewin yn gyffredinol am bellter o ryw 1.1 cilomedr i bwyntiau lle mae lonydd cerbydau'r gefnffordd tua'r dwyrain a'r gorllewin yn cysylltu â de a dwyrain cylchfan y Rhigos ger Pyllau Hirwaun (a nodir â “DD” ac “EE” ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 11)

Dosbarthedig

ATODLEN 5PLANIAU A MANYLEBAU Y FFORDDBONT ARFAETHEDIG DROS GAMLAS MYNWY A BRYCHEINIOG YM MWRDEISTREF SIROL MYNWY

LOCATION OF ROAD BRIDGE AT MONMOUTHSHIRE AND BRECON CANAL

Plan o Gynllun croesfan camlas sir fynwy ac aberhonddu

MANYLEB

Mannau Cychwyn a Gorffen ar Blan y Gynllun

O bwynt rhyw 1 metr o Bwynt A, sef canol y bompren, a rhyw 244 metr i'r gogledd-orllewin o Bwynt B, sef cornel de-ddwyreiniol yr eiddo a adweinir fel the Hawthorns hyd at bwynt rhyw 290 metr i'r de-ddwyrain o'r cyfryw bwynt A a rhyw 94 metr i'r de o'r cyfryw bwynt B.

Lled

9.5 metr agoriad sgwar clir

Dyfrffordd

7.0 metr agoriad clir

Lle uwchben

Cliriad lleiaf rhyw 2.8 metr uwchlaw lefel y dwr

y gofynion ynghylch lefel y ffordd wrth gamlas sir fynwy ac aberhonddu

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources