Search Legislation

Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgol newydd yng Nghymru sydd, yn y flwyddyn ysgol y bydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf, i fod yn ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • ystyr “awdurdod derbyn” mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r person neu'r corff sy'n gyfrifol o dan reoliad 3 am wneud trefniadau derbyn cychwynnol yr ysgol;

  • ystyr “blwyddyn gychwynnol” mewn perthynas ag ysgol newydd yw'r flwyddyn ysgol pan dderbynnir disgyblion (neu y bwriedir y dylid eu derbyn) i'r ysgol;

  • ystyr “corff llywodraethu dros dro” yw —

    (i)

    corff llywodraethu dros dro a sefydlir o dan adran 44 o Ddeddf 1998,

    (ii)

    corff llywodraethu trosiannol sy'n cael ei drin fel corff a sefydlwyd felly yn rhinwedd rheoliad 13(5) o O.S. 1999/362, neu (fel y bo'r achos)

    (iii)

    corff llywodraethu dros dro sy'n cael ei drin fel corff a sefydlwyd felly yn rhinwedd rheoliad 13 o O.S. 1999/704;

  • ystyr “Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru(1);

  • ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 1996(2);

  • ystyr “Deddf 1998” yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “dyddiad agor ysgol” mewn perthynas ag ysgol newydd yw'r dyddiad pan fydd yr ysgol yn derbyn disgyblion gyntaf;

  • ystyr “O.S. 1999/124” yw Rheoliadau Addysg (Meysydd Perthnasol i Ymgynghori â Hwy ynglŷn â Threfniadau Derbyn)(3);

  • ystyr “O.S. 1999/125” yw Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) 1999(4);

  • ystyr “O.S. 1999/362” yw Rheoliadau Addysg (Trosglwyddiad i Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999(5);

  • ystyr “O.S. 1999/704” yw Rheoliadau Addysg (Trosglwyddiad i Fframwaith Newydd) (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) 1999(6);

  • ystyr “prif fynedfa” yw'r brif fynedfa i dir ac adeiladau'r ysgol dan sylw, neu (os yw'r ysgol ar fwy nag un safle) y brif fynedfa i brif adeilad gweinyddol yr ysgol;

  • ystyr “trefniadau derbyn cychwynnol”, ynglŷn ag ysgol newydd, yw'r trefniadau ar gyfer derbyn plant i'r ysgol (gan gynnwys polisi derbyn yr ysgol) ar gyfer y flwyddyn gychwynnol;

mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 84(6) o Ddeddf 1998;

  • mae i “ysgol newydd” yr ystyr a roddir i “new school” gan adran 72(3) o Ddeddf 1998 ac eithrio'r ffaith ei bod yn cynnwys ysgol neu ysgol arfaethedig gyda chorff llywodraethu dros dro y mae iddo'r ystyr a roddir gan y Rheoliadau hyn.

(2Ni fydd Rheoliadau 4, 5 a 6 yn gymwys lle bo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd a sefydlwyd fel rhan o gynigion a oedd yn cynnwys terfynu ysgol arall a gynhaliwyd gan awdurdod addysg lleol yn penderfynu y bydd y trefniadau derbyn cychwynnol yr un fath â rhai'r ysgol honno.

Cyfrifoldeb dros y trefniadau derbyn cychwynnol

3.—(1Gwneir y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd a fydd yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir gan —

(a)yr awdurdod addysg lleol, neu

(b)y corff llywodraethu dros dro lle bo'r awdurdod, gyda chytundeb y corff hwnnw, wedi dirprwyo iddynt y cyfrifoldeb dros benderfynu'r trefniadau hynny.

(2Gwneir y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd a fydd yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir gan —

(a)y corff llywodraethu dros dro, neu

(b)yr hyrwyddwyr —

(i)lle nad yw'r corff hwnnw wedi'i sefydlu eto, a

(ii)lle bo'r hyrwyddwyr yn credu y byddai'n ddoeth i'r trefniadau derbyn gael eu penderfynu yn ddi-oed.

Y weithdrefn ar gyfer penderfynu trefniadau derbyn

4.—(1Bydd yr awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd yn penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol o leiaf chwe mis cyn dyddiad agor yr ysgol.

(2Cyn penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol, bydd yr awdurdod derbyn o leiaf naw mis cyn dyddiad agor yr ysgol, yn ymgynghori â'r canlynol ynghylch y trefniadau arfaethedig, sef —

(a)yr awdurdod addysg lleol (os yr awdurdod derbyn yw'r corff llywodraethu dros dro neu'r hyrwyddwyr), a

(b)yr awdurdodau derbyn ar gyfer pob ysgol arall a gynhelir yn yr ardal berthnasol.

(3Ym mharagraff (2) “yr ardal berthnasol” fydd —

(a)yn achos ysgol a fydd yn derbyn disgyblion gyntaf yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol sy'n cychwyn ynghynt na 2001, yr ardal y tynnwyd cylch o'i chwmpas —

(i)y mae prif fynedfa arfaethedig yr ysgol newydd yn ganol iddi; a

(ii)y mae ei radiws yn 4.83 cilometr (3 milltir);

(b)yn achos ysgol a fydd yn derbyn disgyblion gyntaf yn y flwyddyn ysgol sy'n cychwyn yn 2001 neu unrhyw flwyddyn ysgol ar ôl hynny, yr ardal berthnasol neu'r ardaloedd perthnasol a bennir gan yr awdurdod addysg lleol yn unol ag O.S. 1999/124.

(4Dim ond os yw ei phrif fynedfa o fewn yr ardal honno y dylid edrych ar ysgol fel un sydd o fewn yr ardal berthnasol a ragnodir gan baragraff (3)(a).

(5O ran y trefniadau derbyn cychwynnol arfaethedig ar gyfer ysgol gynradd, dim ond ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â'r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion eraill yn yr ardal berthnasol sy'n ysgolion cynradd y bydd paragraff (2).

(6Pan fydd unrhyw ymgynghoriad o'r fath wedi'i wneud, bydd yr awdurdod derbyn —

(a)yn penderfynu mai eu trefniadau arfaethedig hwy (naill ai ar eu ffurf wreiddiol neu gyda'r addasiadau y cred yr awdurdod eu bod yn briodol) fydd y trefniadau derbyn cychwynnol; a

(b)yn hysbysu'r cyrff y bu iddynt ymgynghori â hwy o dan baragraff

(2ynglŷn â'r trefniadau hynny.

(7Os bydd awdurdod derbyn —

(a)wedi penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol yn unol â pharagraff (6), ond

(b)yn credu ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn gychwynnol y dylid amrywio'r trefniadau yn wyneb newid sylweddol mewn amgylchiadau a ddigwyddodd ers iddynt gael eu penderfynu felly,

bydd yr awdurdod yn cyfeirio'r amrywiadau arfaethedig at y Cynulliad a bydd (ym mhob achos) yn hysbysu'r cyrff y bu iddynt ymgynghori â hwy o dan is-adran (2) ynglŷn â'r amrywiadau arfaethedig.

(8Bydd y Cynulliad yn pwyso a mesur a ddylai'r trefniadau gael effaith gyda'r amrywiadau hynny tan ddiwedd y flwyddyn gychwynnol; ac os bydd yn penderfynu y dylai'r trefniadau gael effaith felly neu y dylent gael effaith felly yn ddarostyngedig i unrhyw addasiad i'r amrywiadau hynny y bydd yn penderfynu arno —

(a)bydd i'r trefniadau effaith yn unol â hynny o ddyddiad ei benderfyniad ymlaen, a

(b)bydd yr awdurdod derbyn yn hysbysu'r cyrff y bu iddynt ymgynghori â hwy o dan baragraff (2) o'r amrywiadau y bydd y trefniadau yn cael effaith odanynt;

ac eithrio na fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad wneud penderfyniad o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28(1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(9Os yr awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir, byddant —

(a)yn ymgynghori â'r corff llywodraethu dros dro, wrth baratoi ar gyfer ymgynghoriad o dan baragraff (2) eu trefniadau derbyn cychwynnol arfaethedig ar gyfer y flwyddyn gychwynnol, ynghylch y trefniadau derbyn cychwynnol y gall yr awdurdod eu cynnig ar gyfer yr ysgol; a

(b)ar ben hynny yn ymgynghori â'r corff llywodraethu dros dro cyn gwneud unrhyw gyfeiriad o dan baragraff (7).

Cyfeirio gwrthwynebiadau i'r Cynulliad

5.—(1Lle bo —

(a)y trefniadau derbyn cychwynnol wedi'u penderfynu gan awdurdod derbyn o dan reoliad 4(6), ond

(b)bod corff yr ymgynghorwyd ag ef gan yr awdurdod derbyn o dan reoliad 4(2) yn dymuno codi gwrthwynebiad ynglŷn â'r trefniadau hynny, ac

(c)nad yw'r gwrthwynebiad yn dod o dan unrhyw ddisgrifiad o wrthwynebiadau a ragnodir gan reoliad 2(2) o O.S. 1999/125,

caiff y corff hwnnw gyfeirio'r gwrthwynebiad at y Cynulliad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ni cheir cyfeirio gwrthwynebiad o dan baragraff (1) oni bai ei fod yn cael ei dderbyn gan y Cynulliad o fewn 6 wythnos ar ôl i'r awdurdod derbyn sy'n gwrthwynebu dderbyn yr hysbysiad angenrheidiol yn rhinwedd rheoliad 4(6)(b).

(3Bernir bod gwrthwynebiad a dderbynnir ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2) wedi ei gyfeirio'n briodol os yw'r Cynulliad yn fodlon nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r gwrthwynebiad gael ei dderbyn ynghynt na'r adeg y cafodd ei dderbyn.

(4Ar ôl cael cyfeiriad o dan baragraff (1) bydd y Cynulliad yn penderfynu a ddylid cadarnhau'r gwrthwynebiad ac (os felly) i ba raddau, ond ni fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gnweud yn ofynnol i'r Cynulliad gymryd camau o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28 (1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(5Os bydd y Cynulliad yn penderfynu y dylid cadarnhau i unrhyw raddau wrthwynebiad y cyfeiriwyd ato o dan y rheoliad hwn, gall ei benderfyniad ar y gwrthwynebiad bennu'r addasiadau y dylid eu gwneud i'r trefniadau derbyn o dan sylw.

(6Cyhoeddir penderfyniadau'r Cynulliad a'r rhesymau drostynt drwy roi gwybod yn ysgrifenedig i'r cyd-wrthwynebwyr ac i bob corff arall yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â hwy ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychywnnol o dan reoliad 4(2).

(7Bydd penderfyniad y Cynulliad ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychwynnol o dan sylw yn rhwymo'r awdurdod derbyn a phob person y gall gwrthwynebiad ynglŷn â'r trefniadau hynny gael ei godi ganddynt o dan baragraff (1); ac os yw'r penderfyniad hwnnw yn benderfyniad i gadarnhau'r gwrthwynebiad i unrhyw raddau, diwygir y trefniadau hynny ar unwaith gan yr awdurdod derbyn yn y fath fodd ag i roi effaith i'r penderfyniad.

Trefniadau arbennig ar gyfer cymeriad crefyddol ysgolion newydd

6.—(1Mae'r Rheoliad hwn yn darparu ar gyfer cynnwys yn y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol a fydd yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir â chymeriad crefyddol iddi drefniadau ynglŷn â derbyn disgyblion i'r ysgol er mwyn diogelu cymeriad crefyddol yr ysgol (“trefniadau arbennig”).

(2Pan gytunir ar unrhyw drefniadau arbennig a ddymunir gan yr awdurdod derbyn dros ysgol o'r fath gan yr awdurdod addysg lleol —

(a)caiff yr awdurdod derbyn eu hymgorffori yn y trefniadau derbyn cychwynnol arfaethedig sy'n ddarostyngedig i ymgynghoriad o dan reoliad 4(2); a

(b)os bydd yr awdurdod derbyn yn gwneud hynny, bydd rheoliad 5(1) yn gymwys i unrhyw wrthwynebiad ynglŷn â'r trefniadau arbennig —

(i)a wneir gan awdurdod derbyn yr ymgynghorwyd ag ef o dan reoliad 4(2)(b), a

(ii)sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliad hwnnw,

fel y bo'n gymwys i unrhyw wrthwynebiad arall sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliad hwnnw.

(3Pan na chytunir ar unrhyw drefniadau arbennig a ddymunir gan gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd o'r fath gan yr awdurod addysg lleol —

(a)caiff yr awdurdod derbyn ymgorffori drafft o unrhyw drefniadau o'r fath yn y trefniadau derbyn cychwynnol arfaethedig sy'n ddarostyngedig i ymgynghoriad o dan reoliad 4(2); ond

(b)os bydd y corff llywodraethu dros dro yn gwneud hynny-

(i)byddant yn cyfeirio'r trefniadau drafft at y Cynulliad, a

(ii)ni fyddant yn penderfynu mabwysiadu'r trefniadau hynny yn y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer yr ysgol oni fydd (ac i'r graddau y bydd) y Cynulliad yn penderfynu y gallant wneud hynny o dan y rheoliad hwn, a

(iii)caiff unrhyw un o'r cyrff yr ymgynghorwyd â hwy o dan reoliad 4(2) godi gwrthwynebiad yn y dull a ragnodir gan O.S. 1999/125 i'r Cynulliad ynglŷn â'r trefniadau drafft.

(4Ar ôl cael cyfeiriad o'r fath, bydd y Cynulliad yn penderfynu (gan roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd ganddo o dan baragraff (3)) a gaiff yr awdurdod derbyn fabwysiadu'r trefniadau drafft, heb eu haddasu neu beidio, ond ni fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gymryd camau o'r fath cyn bod y cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 28(1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

(5Yn achos unrhyw trefniadau drafft a gyfeirir ato o dan y rheoliad hwn, bydd y Cynulliad yn cyhoeddi ei benderfyniad ar y cyfeiriad a'r rhesymau drosto.

(6Dyma'r wybodaeth y dylid ei chyhoeddi o dan baragraff (5) —

(a)enw'r awdurdod derbyn ac (os yw'n wahanol) yr ysgol y mae'r trefniadau derbyn cychwynnol yn ymwneud â hwy; a

(b)disgrifiad byr o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto.

(7Bydd penderfyniad y Cynulliad ar unrhyw gyfeiriad o'r fath ynglŷn â'r trefniadau drafft o dan sylw, yn rhwymo'r corff llywodraethu dros dro a phob person yr ymgynghorwyd â hwy o dan reoliad 4(2).

(8Pan fydd awdurdod derbyn, yn unol â darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn (a chyhyd ag y bo'n gymwysadwy, rheoliadau 4 a 5), benderfynu y dylai'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer eu hysgol gynnwys unrhyw drefniadau arbennig, bydd y darpariaethau hynny yn gymwys ar unrhyw adeg wedi hynny —

(a)pan fydd yr awdurdod derbyn yn dymuno addasu'r trefniadau arbennig hynny; neu

(b)lle cytunodd yr awdurdod addysg lleol ar unrhyw drefniadau o'r fath, pan fydd yr awdurdod yn tynnu eu cytundeb ar y trefniadau hynny yn ôl neu unrhyw ran ohonynt p'un ai gyda golwg ar geisio gwneud unrhyw addasiad iddynt neu fel arall.

Cymhwyso'r deddfiadau

7.  Bydd darpariaethau'r Deddfau Addysg a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgolion newydd, yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen honno.

Darpariaethau trosiannol

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i ysgol newydd —

(a)lle cyhoeddwyd y cynigion ar gyfer ei sefydlu o dan ddarpariaethau Rhan II o Ddeddf 1996 (ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol);

(b)sy'n cael ei thrin (neu a gaiff ei thrin) fel ysgol a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998 yn rhinwedd —

(i)rheoliad 6 o O.S. 1999/362, neu

(ii)rheoliad 12 o O.S. 1999/704; ac

(c)sy'n derbyn disgyblion am y tro cyntaf ym mlwyddyn ysgol 1999/2000.

(2Pan fydd y trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol y mae paragraff (1) yn gymwys iddi wedi'u gwneud cyn 1 Medi 1999 yn unol ag adran 422 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â blwyddyn ysgol 1999/2000, bydd y trefniadau hynny yn parhau i gael effaith ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw at ddibenion derbyn disgyblion i'r ysgol yn ystod y flwyddyn honno.

(3Bydd adran 422(6) o Ddeddf 1996(7), a darpariaethau eraill Deddf 1996 y cyfeirir atynt ynddi yn parhau i gael effaith ynglŷn ag ysgol y mae paragraff (1) yn gymwys iddi (gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol) at y dibenion canlynol —

(a)penderfynu ar gais i dderbyn plentyn i'r ysgol yn y flwyddyn ysgol 1999/2000 a wneir cyn 1 Medi 1999;

(b)apêl yn erbyn penderfyniad fel y'i crybwyllir yn adran 423(1) neu

(2o 423A(2) o Ddeddf 1996 ynglŷn â derbyn plentyn i'r ysgol yn y flwyddyn ysgol 1999/2000 lle cyn y dyddiad hwnnw —

(i)yr oedd hysbysiad apêl wedi'i roi; ond

(ii)nad oedd yr apêl wedi'i phenderfynu gan bwyllgor apêl a bennwyd yn unol â pharagraff 1 neu 2 o Atodlen 33 i Ddeddf 1996.

(4Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (3)(a) at gais am dderbyn plentyn i ysgol yn cynnwys cyfeiriad —

(a)at ddewis a fynegwyd gan riant yn unol â'r trefniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleol o dan adran 411(1) o Ddeddf 1996; a

(b)at gais fel y'i crybwyllir yn adran 438(4) neu 440(2) o'r Ddeddf honno.

(5Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys er gwaethaf —

(a)diddymu adran 422 o Ddeddf 1996, a

(b)darpariaethau rheoliadau 3 a 4 uchod.

Dafydd Elis Owen

Y Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Awst 1999

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources