- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —
(a)mae cyfeiriad at ysgol yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol neu ysgol arbennig na chynhelir mohoni felly;
(b)mae cyfeiriad at sefydliad addysg bellach yn gyfeiriad at sefydliad, nad yw'n ysgol, sy'n darparu addysg bellach (p'un a yw'n darparu addysg uwch hefyd neu beidio) ac sydd —
(i)naill ai'n cael ei gynnal gan awdurdod addysg lleol, neu
(ii)yn y sector addysg bellach;
(c)mae cyfeiriad heb oleddfu at sefydliad yn gyfeiriad at sefydliad addysg bellach neu sefydliad yn y sector addysg uwch; a
(d)mae cyfeiriad at weithiwr gyda phlant neu bobl ifanc yn gyfeiriad at berson, heblaw athro, y mae ei waith yn dod ag ef i gysylltiad rheolaidd â phersonau nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed eto.
(2) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “sefydliad achrededig” yw sefydliad a achredir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan baragraff 2 o Atodlen 3;
ystyr “Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru(1);
ystyr “awdurdodiad” yw awdurdodiad i addysgu a roir i berson gan y Cynulliad yn unol â Rhan III neu II o Atodlen 2;
ystyr “BTEC” yw'r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg;
ystyr “coleg dinasol” yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;
mae i “cwmni” yr un ystyr ag sdd i “company” yn Neddf Cwmnïau 1985(2)
ystyr “athro graddedig” yw person y rhoddwyd awdurdodiad iddo yn unol â Rhan II o Atodlen 2;
ystyr “â nam ar y clyw” yw byddar neu rannol fyddar;
ystyr “addysg uwch” yw addysg a ddarperir drwy unrhyw un o'r cyrsiau canlynol —
cwrs i roi hyfforddiant pellach i athrawon neu weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymunedol;
cwrs ôl-raddedig (gan gynnwys cwrs gradd uwch);
cwrs gradd gyntaf;
cwrs ar gyfer y Diploma Addysg Uwch;
cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch BTEC neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC a ddarperir gan Sefydliad Edexcel, neu'r Ddiploma mewn Astudiaethau Rheoli;
cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg;
cwrs i baratoi ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ar lefel 4 neu 5;
cwrs sy'n darparu addysg (boed er mwyn paratoi ar gyfer arholiad neu beidio) ar safon uwch na safon y cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi ar gyfer arholiadau safon uwch safon y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC a ddarperir gan y Sefydliad Edexcel;
ystyr “a nam ar y golwg” yw dall neu rannol ddall.
ystyr “athro cofrestredig” yw person y rhoddwyd awdurdodiad iddo yn unol â Rhan III o Atodlen 2;
mae i “athro cymwysedig” yr ystyr a roddir iddo gan Reoliad 10 a dylid dehongli “athro anghymwysedig” yn unol â hynny;
mae i “cyflogaeth berthnasol” yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 5; ac
ystyr “y corff sy'n argymhell” yw'r corff sy'n trefnu'r hyfforddiant a roddwyd neu sydd i'w roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad.
(3) Yn y Rheoliadau hyn —
(a)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1959 yn gyfeiriad at Reoliadau Ysgolion 1959(3) (fel y bônt mewn grym o bryd i'w gilydd) gan gynnwys y rheoliadau hynny a gymhwysir i athrawon mewn ysgolion arbennig gan reoliad 16 Reoliadau Disgyblion dan Anfantais ac Ysgolion Arbennig 1959 (4), a dehonglir unrhyw gyfeiriad at gymeradwyaeth at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau 1959 fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at gymeradwyaeth, a oedd yn cael effaith, yn rhinwedd Rheoliad 21 o'r Rheoliadau hynny, fel petai wedi'i roi o dan y ddarpariaeth honno
(b)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1982 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982(5);
(c)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1989 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1989(6); a
(d)mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 1993 yn gyfeiriad at Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993.(7)
(4) Ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, gall cymeradwyaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn fod yn gymwys yn gyffredinol (yn ddarostyngedig i'r eithriadau, os oes rhai, a bennir ynddynt) neu mewn achos penodol yn unig. Ystyr “wedi'i gymeradwyo” ynglŷn â chwrs yw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad.
(5) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu at Atodlen i hyn yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir yma neu at Atodlen i hyn. Mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff yn gyfeiriad at baragraff o'r rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno. Mae unrhyw gyfeiriad mewn paragraff at is-baragraff yn gyfeiriad at is-baragraff ohono.
Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38). Trosglwyddwyd holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 o 1 Gorffennaf 1999 ymlaen. Yn unol â hynny, dylid dehongli, mewn perthynas â Chymru, gyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr adrannau perthnasol o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 a'r Atodlenni iddi fel cyfeiriad, neu fel petai'n cynnwys cyfeiriad, at y Cynulliad. Gweler adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
O.S. 1959/364; O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1975/1054 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.
O.S. 1959/365; O.S. 1968/1281 a 1971/342 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.
O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: