- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
7.—(1) At bwrpas gorfodi darpariaethau Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu mesur rheoli'r Gymuned, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru —
(a)fynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg rhesymol unrhyw adeiladau a ddefnyddir ar gyfer rhedeg busnes mewn cysylltiad â gweithio cychod pysgota neu unrhyw weithgarwch sy'n gysylltiedig â hynny neu'n ategol ato neu mewn cysylltiad â thrin, cadw a gwerthu pysgod môr;
(b)cymeryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar ac offer;
(c)archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a mynnu bod unrhyw bersonau yno'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;
(ch)cyflawni yn yr adeiladau o'r fath unrhyw archwiliadau ac arbrofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol;
(d)mynnu na fydd neb yn cael gwared neu beri i rywun gael gwared ar unrhyw bysgod o adeiladau o'r fath yn ystod y cyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol i sefydlu os cyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg;
(dd)mynnu fod unrhyw berson yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau yn eu gwarchodaeth neu feddiant mewn perthynas â dal, dadlwytho, cario, trawslwytho, gwerthu neu gael gwared ar unrhyw bysgod môr;
(e)(at bwrpas canfod a oes unrhyw berson wedi cyflawni tramgwydd perthnasol) chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson yn yr adeiladau'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;
(f)arolygu a chymeryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau;
(ff)fynnu bod unrhyw berson addas neu gyfrifol yn cyflwyno unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd a hi oddi yno; ac
(g)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau at bwrpas galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglŷn â'r tramgwydd.
(2) Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod wedi cael ei ddefnyddio i gario cynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ac y maent yn gymwys i adeiladau, ac yn achos cerbyd maent yn cynnwys yr hawl i fynnu ar unrhyw adeg bod cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.
(3) Os yw ynad heddwch ar ôl derbyn datganiad ysgrifenedig ar lw wedi'i fodloni —
(a)bod sail rhesymol dros gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig hawl i'w harchwilio o dan yr Erthygl hon ar unrhyw dir neu yn unrhyw adeilad a bod eu harchwilio yn debyg o ddatgelu tystiolaeth bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni; a
(b)naill ai—
(i)bod mynediad i'r tir ac adeiladau wedi'i wrthod neu'n debyg o gael ei wrthod a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roddi i'r meddiannydd; neu
(ii)y byddai cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad i'r tir ac adeiladau, neu fod y tir ac adeiladau yn wag, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai rwystro'r bwriad petaent yn aros i'r meddianydd ddychwelyd;
fe gaiff yr ynad lofnodi warant fydd yn ddilys am fis, a fydd yn awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd ar y tir ac i'r adeiladau, gan ddefnyddio grym rhesymol petai angen, ac i fynd a'r bobl y mae'r swyddog yn credu sydd eu hangen.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: