Search Legislation

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn:—

  • ystyr “cludwr” (“transporter”) yw perchennog neu huriwr cerbyd, neu'r person sy'n gyfrifol am unrhyw gerbyd, a ddefnyddir i gario cynhyrchion pysgodfeydd;

  • mae ystyr “cwch pysgota” (“fishing boat”) yn cynnwys cwch derbyn a chwch trydydd gwlad o fewn yr ystyr yn Rheoliad 2847/93;

  • ystyr “cwch pysgota Albanaidd” (“Scottish fishing boat”) yw cwch pysgota a gofrestrwyd ar y rhestr a gedwir o dan adran 8 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(1) ac y mae'r manylion ar y gofrestr yn dangos porthladd yn yr Alban fel y porthladd y dylid ei drin fel y porthladd y mae'n perthyn iddo;

  • ystyr “cwch pysgota Prydeinig perthnasol” (“relevant British fishing boat”) yw cwch pysgota nad yw'n gwch pysgota Albanaidd sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Rhan II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu sydd wedi ei pherchnogi'n llwyr gan bersonau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Deddf;

  • mae “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fishery products”) yn cynnwys pysgod;

  • ystyr “dogfen drafnidiaeth” (“transport document”) yw dogfen wedi'i pharatoi yn unol ag Erthygl 13 o Reoliad 2847/93;

  • ystyr “mesurau rheoli'r Gymuned” (“Community control measure”) yw darpariaeth o Reoliad 2847/93 neu o Reoliad 1382/87 a bennir yng Ngholofn 1 o'r Atodlen;

  • ystyr “Rheoliad 2807/83” (“Regulation 2807/83”) yw Rheoliad y Comisiwn (CEE) Rhif 2807/83 a osododd allan reolau manwl ar gyfer cofnodi gwybodaeth ar ddalfeydd o bysgod Aelod-Wladwriaethau(2) fel a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (CEE) Rhif 473/89(3), Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 2945/95(4), Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 395/98(5), Rheoliad y Comisiwn 1488/98(6) a Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 2737/99(7);

  • ystyr “Rheoliad 1382/87” (“Regulation 1382/87”) yw Rheoliad y Comisiwn (CEE) Rhif 1382/87 a sefydlodd reolau manwl ynglŷn ag archwilio cychod pysgota(8);

  • ystyr “Rheoliad 2847/93” (“Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 a sefydlodd gyfundrefn reoli gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin(9) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2870/95(10), Penderfyniad y Cyngor (CE) 95/528(11), Rheoliad y Cyngor (CE) 2489/96(12), Rheoliad y Cyngor (CE) 686/97(13), Rheoliad y Cyngor (CE) 2205/97(14), Rheoliad y Cyngor (CE) 2635/97(15) a Rheoliad y Cyngor (CE) 2846/98(16);

  • ystyr “Rheoliad 1449/98” (“Regulation 1449/98”) yw Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 1449/98 a osododd allan reoliadau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 i adroddiadau ymdrech(17),

  • ystyr “tramgwydd perthnasol” (“relevant offence”) yw tramgwydd o dan:

    (a)

    Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu

    (b)

    unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wnaed at ddibenion gweithredu mesur rheoli'r Gymuned, sydd yn ddarpariaeth, yn rhinwedd adran 30(2A) o Deddf Pysgodfeydd 1981(18), y gellid cychwyn achos ynglŷn ag ef mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

  • Mae “Cymru” i'w ddehongli yn unol ag Adrannau 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(19).

(2Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad neu ddogfen yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad neu ddogfen ysgrifenedig—

(i)unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun,

(ii)unrhyw ffotograff,

(iii)unrhyw ddata, ym mha bynnag ffordd yr hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93,

(iv)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (heb fod yn gymhorthion gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall), a

(v)unrhyw ffilm (gan gynnwys meicroffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu ohonynt.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn—

(a)at Atodlen yn gyfeiriad at Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a

(b)at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i offeryn o'r fath ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn;

(c)at Erthygl wedi'i rifo o Reoliad y Cyngor 2847/93 yn gyfeiriad i'r Erthygl a rifwyd felly yn y Rheoliad hwnnw wrth ei ddarllen gydag unrhyw reolau manwl ar gyfer dehongli'r Erthygl hwnnw a ragnodir yn yr eitem briodol yng ngholofn 2 o'r Atodlen.

(4Ni ddylid darllen colofn 3 o'r Atodlen (sy'n dangos pwnc pob mesur rheoli'r Gymuned) mewn modd sy'n cyfyngu cwmpas unrhyw fesur rheoli'r Gymuned a dylid ei anwybyddu mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn sy'n codi ynglŷn â dehongli'r Gorchymyn hwn.

Tramgwyddo

3.—(1Pan fydd, mewn cysylltiad ag—

(a)unrhyw gwch pysgota o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru(20);

(b)unrhyw fynediad i'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru gan unrhyw gwch pysgota; neu

(c)unrhyw gynhyrchion pysgodfeydd, tir ac adeiladau neu gerbyd yng Nghymru,

mesur rheoli'r Gymuned a ragnodir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn cael ei dorri, neu fethiant i gydymffurfio ag ef, bydd y personau a bennir yn yr eitem briodol yng ngholofn 5 o'r Atodlen yn euog o dramgwyddo.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) bydd unrhyw berson sydd yn honni cydymffurfio ag Erthyglau 6, 7, 8.1, 9.1, 9.2, 9.5, 11, 12, 13 neu 17.2, Erthyglau 19b a 19c neu Erthyglau 19e, 20.2, 28.2a, 28c, 28e neu 28f o Reoliad 2847/93 drwy roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei fod yn anghywir mewn manylyn perthnasol, neu sy'n rhoi gwybodaeth sy'n anghywir mewn manylyn perthnasol yn fyrbwyll, yn euog o dramgwydd.

(3Mae paragraff (2) yn gymwys i roddi unrhyw wybodaeth —

(a)yng Nghymru (sy'n cynnwys y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru),

(b)i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth o dan Erthygl 6 neu 7 o'r Gorchymyn hwn,

(c)mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd gan gwch pysgod Prydeinig perthnasol, i'r awdurdodau cymwys mewn Aelod-Waldwriaeth arall o fewn ystyr Rheoliad 2847/93.

Cosbi

4.—(1Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r swm a bennir yn yr eitem briodol yng ngholofn 4 o'r Atodlen;

(b)ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.

(2Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, wedi'i seilio ar doriad o, neu fethiant i gydymffurfio ag—

(a)Erthyglau 19a.2, 20.1, 20a neu 21c.2 o Reoliad 2847/93 hefyd yn agored—

(i)i fforffedu unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad ag ef, neu a ddefnddiwyd ar gyfer cyflawni'r tramgwydd, neu a ddefnyddiwyd ar gyfer dal unrhyw bysgod arall y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â hwy; a

(ii)i fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad â nhw, neu, ar gollfarn ddiannod yn unig, i ddirwy o ddim mwy na gwerth unrhyw bysgod y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad â nhw; neu

(b)Erthyglau 6, 8.1, 9, 11, 12, 13 neu 17.2, Erthyglau 19b a 19c neu Erthyglau 19e, 20.2, 28c (mewn perthynas â'r gofynion ynglŷn â choflyfr a nodi dalfeydd ar fwrdd y cwch) neu 28d o Reoliad 2847/93 hefyd yn agored i fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â nhw, neu i ddirwy o ddim mwy na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â nhw.

(3Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(2) o'r Gorchymyn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, hwn yn agored —

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na £50,000;

(b)ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.

Casglu Dirwyon

5.—(1Pan orfodir dirwy gan lys ynadon ar feistr, perchennog, siartrwr, person sy'n gyfrifol am gwch neu unrhyw berson arall a gollfernir gan y llys o dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan Erthygl 10 o'r Gorchymyn hwn, caiff y llys, at ddibenion casglu'r ddirwy, —

(a)gyhoeddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r dramgwydd a'i offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo'r person a gollfarnwyd at bwrpas casglu swm y ddirwy; neu

(b)wneud gorchymyn i atal y cwch a'i offer a'i dalfa am gyfnod o ddim mwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu'r dyddiad y telir y ddirwy neu y cesglir y ddirwy yn unol â gwarant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.

(2Bydd Adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(21) (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warantau atafaelu a gyhoeddir o dan yr Erthygl hwn yn y modd y maent yn gymwys i warantau atafaelu a gyhoeddwyd o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

(3Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy mewn cysylltiad â thramgwydd perthnasol yn cael ei wneud o dan adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981(22) neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Troseddol (yr Alban) 1995(23) ac yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr Erthygl hwn yn gymwys fel petai'r ddirwy wedi ei rhoi gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota

6.—(1At ddibenion gorfodi Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu mesur rheoli'r Gymuned, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig weithredu mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota arall sydd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru y pwerau a freiniwyd gan baragraffau (2) i (4) o'r Erthygl hwn.

(2Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo, a chaiff fynnu bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso un ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arni.

(3Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw berson arall sydd ar y cwch a chaiff wneud archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a nodwyd ym mharagraff (1) o'r Erthygl hwn ac, yn arbennig—

(a)caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a chaiff fynnu bod pobl sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;

(b)caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng ngwarchodaeth neu feddiant y person hwnnw;

(c)at bwrpas canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen a gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;

(ch)arolygu, copïo a chadw meddiant yn ystod y chwilio, archwilio ac arolygu y darparwyd ar ei gyfer o dan yr Erthygl hwn, o unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu a ddeuir o hyd iddo ar fwrdd y cwch,

(d)heb ragfarn i is-baragraffau (c) a (ch), gall fynnu bod y meistr ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfennau o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd a hi oddi yno; ac

(dd)os oes gan y swyddog reswm dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu a ddeuir o hyd iddhi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglŷn â'r tramgwydd;

ond nid yw unrhyw beth yn is-baragraff (dd) uchod yn caniatáu cymryd a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei ddal mewn porthladd.

(4Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff—

(a)fynnu bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu chaiff y swyddog wneud hynny ei hun; a

(b)ddal, neu fynnu bod y meistr yn dal, y cwch yn y porthladd;

a phan fydd swyddog o'r fath yn dal, neu'n mynnu bod y cwch yn cael ei ddal, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen dal y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar y tir

7.—(1At bwrpas gorfodi darpariaethau Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu mesur rheoli'r Gymuned, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru —

(a)fynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg rhesymol unrhyw adeiladau a ddefnyddir ar gyfer rhedeg busnes mewn cysylltiad â gweithio cychod pysgota neu unrhyw weithgarwch sy'n gysylltiedig â hynny neu'n ategol ato neu mewn cysylltiad â thrin, cadw a gwerthu pysgod môr;

(b)cymeryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar ac offer;

(c)archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a mynnu bod unrhyw bersonau yno'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;

(ch)cyflawni yn yr adeiladau o'r fath unrhyw archwiliadau ac arbrofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol;

(d)mynnu na fydd neb yn cael gwared neu beri i rywun gael gwared ar unrhyw bysgod o adeiladau o'r fath yn ystod y cyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol i sefydlu os cyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg;

(dd)mynnu fod unrhyw berson yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau yn eu gwarchodaeth neu feddiant mewn perthynas â dal, dadlwytho, cario, trawslwytho, gwerthu neu gael gwared ar unrhyw bysgod môr;

(e)(at bwrpas canfod a oes unrhyw berson wedi cyflawni tramgwydd perthnasol) chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson yn yr adeiladau'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;

(f)arolygu a chymeryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau;

(ff)fynnu bod unrhyw berson addas neu gyfrifol yn cyflwyno unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd a hi oddi yno; ac

(g)os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau at bwrpas galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglŷn â'r tramgwydd.

(2Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod wedi cael ei ddefnyddio i gario cynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ac y maent yn gymwys i adeiladau, ac yn achos cerbyd maent yn cynnwys yr hawl i fynnu ar unrhyw adeg bod cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.

(3Os yw ynad heddwch ar ôl derbyn datganiad ysgrifenedig ar lw wedi'i fodloni —

(a)bod sail rhesymol dros gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig hawl i'w harchwilio o dan yr Erthygl hon ar unrhyw dir neu yn unrhyw adeilad a bod eu harchwilio yn debyg o ddatgelu tystiolaeth bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni; a

(b)naill ai—

(i)bod mynediad i'r tir ac adeiladau wedi'i wrthod neu'n debyg o gael ei wrthod a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roddi i'r meddiannydd; neu

(ii)y byddai cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad i'r tir ac adeiladau, neu fod y tir ac adeiladau yn wag, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai rwystro'r bwriad petaent yn aros i'r meddianydd ddychwelyd;

fe gaiff yr ynad lofnodi warant fydd yn ddilys am fis, a fydd yn awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd ar y tir ac i'r adeiladau, gan ddefnyddio grym rhesymol petai angen, ac i fynd a'r bobl y mae'r swyddog yn credu sydd eu hangen.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i atafaelu pysgod ac offer pysgota

8.   Yng Nghymru (sy'n cynnwys y môr tiriogaethol sy'n gyfochrog â Chymru) caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota, atafaelu—

(a)unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal y pysgod) y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad â hwy, a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 6, 8.1, 9, 11, 12, 13, 17.2 neu 19a.2, Erthyglau 19b a 19c, Erthyglau 19e, 20.2 neu 21c.2 neu Erthyglau 28c neu 28d o Reoliad 2847/93;

(b)unrhyw bysgod a ddaliwyd gan rwyd y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad ag ef a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 20.1 neu 20a o Reoliad 2847/93; ac

(c)unrhyw rwyd neu offer pysgota arall—

(i)y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad ag ef a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 20.1 neu 20a o Reoliad 2847/93; neu

(ii)y mae gan y swyddog sail resymol dros amau ei fod wedi cael ei ddefnyddio i ddal pysgod a bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad â hwy a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 19a.2 neu 21c.2 o Reoliad 2847/93.

Amddiffyn swyddogion

9.  Ni fydd swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig neu berson sy'n ei gynorthwyo yn rhinwedd Erthyglau 6(2) neu 7(1)(b) o'r Gorchymyn hwn yn agored i achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wnaeth drwy arfer honedig o'r pwerau a freiniwyd ynddo neu ynddi yn rhinwedd Erthygl 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros wneud hynny a'i bod wedi'i gwneud gyda gallu a gofal rhesymol.

Rhwystro etc.

10.  Bydd unrhyw berson sydd —

(a)heb esgus rhesymol yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a freiniwyd ynddo yn rhinwedd Erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn;

(b)heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofynion o'r fath; neu

(c)yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sy'n arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,

yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(i)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r uchafswm statudol; neu

(ii)ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.

Darpariaethau ynglŷn â thramgwyddau ac achosion

11.—(1Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn wedi'i gyflawni gan gorff corfforedig â chydsyniad neu gymeradwyaeth cyfarwyddydd, rheolydd, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff corfforedig, neu y gellir ei briodoli i fethiant person o'r fath, bydd, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o dramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(2Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn wedi'i gyflawni gan bartneriaeth gyda chydsyniad neu gymeradwyaeth partner, neu y gellir ei briodoli i fethiant partner, bydd, yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o dramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

(3Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn wedi'i gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) gyda chydsyniad neu oddefiad swyddog o'r gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu neu y gellir ei briodoli i fethiant person o'r fath, bydd, yn ogystal a'r gymdeithas anghorfforedig, yn euog o dramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb.

Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth

12.—(1Bydd unrhyw

(a)goflyfr a gedwir o dan Erthyglau 6, 17.2 neu 28c;

(b)ddatganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8.1, 11, 12, 17.2 neu 28f;

(c)adroddiad ymdrech a gwblhawyd o dan Erthyglau 19b ac 19c;

(ch)ddogfen a baratoir o dan Erthyglau 9 neu 13;

(d)ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth a fynnwyd ac a dderbynniwyd gan ganolfan monitro pysgodfeydd a sefydlwyd o dan Erthygl 3.7,

  • o Reoliad 2847/93, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt mewn unrhyw achos am dramgwydd perthnasol.

(2At ddibenion paragraff (1) bydd “gwybodaeth a fynnwyd” yn golygu data sy'n gysylltiedig ag—

(a)manylion adnabod y cwch pysgota;

(b)lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota, wedi'i gyfleu mewn graddau a munudau lledredd a hydred; ac

(c)y dyddiad a'r amser pan sefydlwyd y safle hwnnw, fel y cyfathrebir trwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Rheoliad 2847/93.

Diddymu

13.  Diddymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) 1994(24) a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Diwygio) 1996(25), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

D. Elis Thomas

Y Llywydd

29 Mawrth 2000

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources